Ynys

Electronic versions

Dogfennau

  • Cefin Roberts

    Meysydd ymchwil

  • School of Welsh

Abstract

Mae’r ddoethuriaeth hon yn cynnwys traethawd sy’n trafod y broses o greu casgliad o waith creadigol a luniwyd dros gyfnod o chwe blynedd, rhwng Medi 2012 a Rhagfyr 2018. Ystyrir yn y gwaith y modd y mae’r awdur yn gweld y broses honno yn ddihangfa o rigolau bywyd bob dydd ond eto i gyd yn gwerthfawrogi mai drych o gymeriadau ei fywyd beunyddiol a’i amgylchfyd yw deunydd crai ei gynnyrch yn aml. Mae hefyd yn ymdrin â’r unigrwydd a’r ansicrwydd a all ddeillio o fentro i lenydda - byd a fu’n eithaf dieithr iddo tan yn ddiweddar - a’r modd y gall yr ofnau a’r ansicrwydd yma gyfoethogi ei straeon a’i gymeriadau. Dilynir hynny gan y casgliad o’r gwaith creadigol: drama lwyfan, stori fer a llythyr, casgliad o gerddi a nofel.

Details

Iaith wreiddiolCymraeg
Sefydliad dyfarnu
Goruchwylydd / Goruchwylwyr / Cynghorydd
Dyddiad dyfarnu22 Mai 2019