Chwarae Teg? Defnyddio mathemateg i ennill gêm Monopoly
Research output: Contribution to specialist publication › Featured article
Standard Standard
In: Gwerddon, Vol. Ffrwd, No. March, 2018, p. 1.
Research output: Contribution to specialist publication › Featured article
HarvardHarvard
APA
CBE
MLA
VancouverVancouver
Author
RIS
TY - GEN
T1 - Chwarae Teg? Defnyddio mathemateg i ennill gêm Monopoly
AU - Davies, Richard
N1 - Wyddoch chi bod modd defnyddio mathemateg er mwyn penderfynu pa eiddo i'w brynu mewn gêm o Monopoly? Dyna'n union a wneir yn ethygl wyddonol fuddugol Eisteddfod Genedlaethol Môn 2017. Enillodd Dr Andrew Davies y wobr am erthygl ar y testun 'Chwarae teg? Defnyddio mathemateg i ennill gêm Monopoly'. "Er mwyn dathlu dychweliad yr Eisteddfod Genedlaethol i Fôn, mae'r erthygl hon yn egluro a ydyw argraffiad Ynys Môn Monopoly yn gêm deg ai peidio," meddai Dr Davies. "Rwyf hefyd yn cyflwyno hefyd strategaethau ar sut i ennill y gêm, yn seiliedig ar fathemateg." "Mae'r erthygl yn mesur tebygolrwydd glanio ar bob sgwâr ac yn ystyried a yw'r rheolau'n deg neu beidio. I gloi, rwy'n rhoi cyngor i chwaraewyr ac yn esbonio pam y dylaent brynu Llu Awyr Brenhinol y Fali ond osgoi Ynys Lawd!" Magwyd Dr Richard Andrew Davies yn Llangefni, Ynys Môn. Dyfarnwyd iddo ysgoloriaeth i astudio Cemeg ym Mhrifysgol Bangor ac enillodd wobrau academaidd lu. Cafodd ysgoloriaeth gan y Gymdeithas Frenhinol Cemeg i astudio ei ddoethuriaeth ym Mangor. Ar ôl chwe blynedd fel ymchwilydd yn Llundain a’r Siroedd Cartref, dychwelodd i Fôn. Yn 2009, fe'i penodwyd yn Gymrawd Dysgu Cyfrwng Cymraeg ym Mhrifysgol Bangor, gan arbenigo mewn Cemeg, Cyfrifiadureg a Mathemateg. Cynyddodd yn sylweddol y nifer o fodiwlau dwyieithog sydd ar gael, yn ogystal â'r nifer o fyfyrwyr Cymraeg sy'n eu hastudio. Yn sgil ei waith diflino, mae Ysgoloriaethau Cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i’w cael ar gyfer astudio Cemeg ym Mangor ers sawl blynedd. Mae Dr Davies yn ennyn diddordeb mewn gwyddoniaeth trwy ei waith allymestyn: er enghraifft, mae'n cynnal nifer o gystadlaethau a gweithgareddau dwyieithog i ysgolion, yn ogystal â gweithgareddau a sioeau cemegol yn Eisteddfodau’r Urdd a’r Genedlaethol. Yn sgil ei lwyddiant yn Eisteddfod Genedlaethol Môn o dan ffugenw "Gwlad y Medra", derbyniodd y fraint o gael bod yn aelod o Banel Canolog Gwyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod Genedlaethol.
PY - 2018
Y1 - 2018
M3 - Erthygl Nodweddol
VL - Ffrwd
SP - 1
JO - Gwerddon
JF - Gwerddon
SN - 1741-4261
PB - Coleg Cymraeg Cenedlaethol
ER -