Datblygu Cynllun Adeiladu Hyder Iaith Gymraeg

Research output: Book/ReportCommissioned report

Electronic versions

Documents

Yn ystod yr haf 2019, cynhaliodd Prifysgol Bangor brosiect peilot ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, gan gydweithio mewn partneriaeth â Menter Iaith Bangor, i edrych ar ymyraethau posibl i roi’r hyder i siaradwyr Cymraeg anfoddog ddefnyddio’u Cymraeg. Nod y peilot hwn oedd newid arferion dewis iaith a chodi hyder siaradwyr anfoddog i ddefnyddio’r Gymraeg mewn rhai sefyllfaoedd a pheuoedd penodol lle byddent fel arfer yn defnyddio’r Saesneg.
O ganlyniad i’r gwaith hwn, ystyriwyd barnau’r tiwtoriaid, y dysgwyr anfoddog a ddaeth i’r sesiynau, a rheolwyr y prosiect, gan lunio cyfres o argymhellion ar gyfer symud ymlaen gyda’r math hwn o weithgaredd yn y dyfodol.
Oherwydd dymuniad MIB i gynnal sesiynau pellach tebyg ym Mangor, comisiynodd MIB y Brifysgol i gynnal prosiect llai, ond tebyg, ar gyfer trigolion y ddinas, gan roi argymhellion yr astudiaeth beilot wreiddiol ar waith. Cafwyd meini prawf penodol gan MIB o ran hyd a nifer y sesiynau, cynnwys y sesiynau hynny, methodoleg a’r camau ar ddiwedd y prosiect.
Mae’r adroddiad hwn yn gwerthuso effaith y prosiect eilaidd hwn.
Translated title of the contributionDevelopment plan Building Welsh Confidence
Original languageWelsh
Number of pages82
Publication statusUnpublished - 9 Oct 2020
View graph of relations