Effaith iechyd cyhoeddus mentrau cydweithredol cymunedol yng nghefn gwlad Gogledd Orllewin Cymru: archwiliad ethnograffaidd
Research output: Contribution to conference › Paper
Standard Standard
2017.
Research output: Contribution to conference › Paper
HarvardHarvard
APA
CBE
MLA
VancouverVancouver
Author
RIS
TY - CONF
T1 - Effaith iechyd cyhoeddus mentrau cydweithredol cymunedol yng nghefn gwlad Gogledd Orllewin Cymru: archwiliad ethnograffaidd
AU - Wheeler, Sara Louise
AU - Bellis, M.A.
AU - Hughes, Karen
PY - 2017/10/25
Y1 - 2017/10/25
N2 - Mae’r dirwedd a sefyllfa cyflogaeth newidiol yng Nghymru dros y pumdeg mlynedd ddiwethaf wedi ei siapio gan y dirywiad mewn diwydiant, er enghraifft mwyngloddio am glo, y diwydiant haearn, a chwarela llechi a gwenithfaen. Arweiniodd y diffyg mewn cyflogaeth gynaliadwy at ddiboblogi mewn rhai ardaloedd, yn enwedig yng Ngogledd Orllewin Cymru. Yn ei thro, mi wnaeth hyn arwain at amddifadedd cefn gwlad a chafodd effaith negyddol parhaol ar iechyd a lles cymunedol, gan gynnwys cyffredinrwydd uchel o gordyndra, clefyd siwgr ac iselder ymysg y boblogaeth leol; cafodd hefyd effaith negyddol ar wytnwch a theimladau o gyfrwng unigol. Yng Ngogledd Orllewin Cymru, ymatebwyd y twf yma mewn anghydraddoldebau iechyd, gan ymddangosiad o fentrau lleol, hefo’r nod o daclo'r achosion wrth wraidd yr anghydraddoldebau. Roedd y mentrau yma yn cynnwys y fenter gydweithredol gymunedol cyntaf yn y DU, ym mhentref Llanaelhearn ar benrhyn Llŷn, a sefydlwyd yn y 1970au cynnar. Dilynwyd gan gydweithredon cymunedol cysylltiedig, gan gynnwys sefydlu’r canolfan iaith Gymraeg ‘Nant Gwrtheyrn’ yn yr hen chwarel gwenithfaen ger Llithfaen. Cyfunodd sefydlu Nant Gwrtheyrn, a hefyd yr eisteddfod leol, datblygiadau pwysig i’r gymuned leol a hefyd i’r iaith Gymraeg yn genedlaethol. Mae’r mentrau eraill yn cynnwys ‘Tafarn y Fic’ - tafarn cymunedol Cymreig ym Mhwllheli, ‘Siop Pen-y-groes’ - siop gydweithredol yn Llithfaen, ac ail-agor y garej betrol yng Nghlynnog Fawr. Mae’r mentrau yma yn parhau i ffynnu ac maent wedi dechrau’r broses o gael eu trosglwyddo i genhedlaeth newydd o fentrwyr cymdeithasol. Pwrpas y prosiect yma yw cynnal ymchwil ethnograffaidd am y mentrau cydweithredol cymunedol mewn cyd-destun cefnwlad Gogledd Gorllewinol Cymru, gyda ffocws ar gloriannu eu heffaith neu drawiad iechyd cyhoeddus, trwy eu gwaith i alluogi a grymuso, ailfywhau, a’r gallu i fynd i’r afael a’r penderfynyddion ehangach o iechyd. Gan ystyried y cyd-destun, caiff sylw penodol ei roi at yr ystyriaeth o faterion megis amddifadedd cefn gwlad, yr effaith hanesyddol o’r dirywiad mewn diwydiant, diweithdra, diboblogi, anghydraddoldebau mewn iechyd, a gweithgareddau cymunedol perthnasol o ran iaith a diwylliant. Mi fydd y prosiect hefyd yn ystyried gweithgareddau cyfoes mentrau lleol a’i rhagolygon a gweledigaethau am y dyfodol. Caiff ystod eang o ddata ethnograffaidd ei chasglu, gan gynnwys arsylwadau cyfranogwyr, cyfweliadau, allbynnau llywodraeth leol, dogfennau hanesyddol, a data meintiol presennol (sydd yn bod yn barod). Mae’r ymchwil yn parhau ac yn cynnwys elfen o cyd-gynhyrchiad rhwng ymchwilwyr ysgolhaig ac achwynwyr allweddol o’r mentrau cydweithredol cymunedol eu hunain - gyda rhai cyfranogwyr yn croesi’r diffiniadau yma. Rydym yn gobeithio y bydd y wybodaeth a chasglwyd yn ddefnyddiol i ddogfenni gwaith y mentrau, a hefyd yn medru bod yn sail am waith modeli ar gyfer y math yma o ymyriad mewn lleoliadau eraill sydd hefo materion tebyg. Mi fydd canfyddiadau’r ymchwil o ddiddordeb i’r sawl sydd yn ymwneud ac ymrwymiad cymunedol, y trydydd sector, a rheini sydd yn ysgrifennu polisïau iechyd cyhoeddus cysylltiedig.
AB - Mae’r dirwedd a sefyllfa cyflogaeth newidiol yng Nghymru dros y pumdeg mlynedd ddiwethaf wedi ei siapio gan y dirywiad mewn diwydiant, er enghraifft mwyngloddio am glo, y diwydiant haearn, a chwarela llechi a gwenithfaen. Arweiniodd y diffyg mewn cyflogaeth gynaliadwy at ddiboblogi mewn rhai ardaloedd, yn enwedig yng Ngogledd Orllewin Cymru. Yn ei thro, mi wnaeth hyn arwain at amddifadedd cefn gwlad a chafodd effaith negyddol parhaol ar iechyd a lles cymunedol, gan gynnwys cyffredinrwydd uchel o gordyndra, clefyd siwgr ac iselder ymysg y boblogaeth leol; cafodd hefyd effaith negyddol ar wytnwch a theimladau o gyfrwng unigol. Yng Ngogledd Orllewin Cymru, ymatebwyd y twf yma mewn anghydraddoldebau iechyd, gan ymddangosiad o fentrau lleol, hefo’r nod o daclo'r achosion wrth wraidd yr anghydraddoldebau. Roedd y mentrau yma yn cynnwys y fenter gydweithredol gymunedol cyntaf yn y DU, ym mhentref Llanaelhearn ar benrhyn Llŷn, a sefydlwyd yn y 1970au cynnar. Dilynwyd gan gydweithredon cymunedol cysylltiedig, gan gynnwys sefydlu’r canolfan iaith Gymraeg ‘Nant Gwrtheyrn’ yn yr hen chwarel gwenithfaen ger Llithfaen. Cyfunodd sefydlu Nant Gwrtheyrn, a hefyd yr eisteddfod leol, datblygiadau pwysig i’r gymuned leol a hefyd i’r iaith Gymraeg yn genedlaethol. Mae’r mentrau eraill yn cynnwys ‘Tafarn y Fic’ - tafarn cymunedol Cymreig ym Mhwllheli, ‘Siop Pen-y-groes’ - siop gydweithredol yn Llithfaen, ac ail-agor y garej betrol yng Nghlynnog Fawr. Mae’r mentrau yma yn parhau i ffynnu ac maent wedi dechrau’r broses o gael eu trosglwyddo i genhedlaeth newydd o fentrwyr cymdeithasol. Pwrpas y prosiect yma yw cynnal ymchwil ethnograffaidd am y mentrau cydweithredol cymunedol mewn cyd-destun cefnwlad Gogledd Gorllewinol Cymru, gyda ffocws ar gloriannu eu heffaith neu drawiad iechyd cyhoeddus, trwy eu gwaith i alluogi a grymuso, ailfywhau, a’r gallu i fynd i’r afael a’r penderfynyddion ehangach o iechyd. Gan ystyried y cyd-destun, caiff sylw penodol ei roi at yr ystyriaeth o faterion megis amddifadedd cefn gwlad, yr effaith hanesyddol o’r dirywiad mewn diwydiant, diweithdra, diboblogi, anghydraddoldebau mewn iechyd, a gweithgareddau cymunedol perthnasol o ran iaith a diwylliant. Mi fydd y prosiect hefyd yn ystyried gweithgareddau cyfoes mentrau lleol a’i rhagolygon a gweledigaethau am y dyfodol. Caiff ystod eang o ddata ethnograffaidd ei chasglu, gan gynnwys arsylwadau cyfranogwyr, cyfweliadau, allbynnau llywodraeth leol, dogfennau hanesyddol, a data meintiol presennol (sydd yn bod yn barod). Mae’r ymchwil yn parhau ac yn cynnwys elfen o cyd-gynhyrchiad rhwng ymchwilwyr ysgolhaig ac achwynwyr allweddol o’r mentrau cydweithredol cymunedol eu hunain - gyda rhai cyfranogwyr yn croesi’r diffiniadau yma. Rydym yn gobeithio y bydd y wybodaeth a chasglwyd yn ddefnyddiol i ddogfenni gwaith y mentrau, a hefyd yn medru bod yn sail am waith modeli ar gyfer y math yma o ymyriad mewn lleoliadau eraill sydd hefo materion tebyg. Mi fydd canfyddiadau’r ymchwil o ddiddordeb i’r sawl sydd yn ymwneud ac ymrwymiad cymunedol, y trydydd sector, a rheini sydd yn ysgrifennu polisïau iechyd cyhoeddus cysylltiedig.
M3 - Papur
ER -