Ymchwil Gwerthuso Prosiect Tîm o Amgylch y Person Ifanc (TAPI) GISDA

Research output: Book/ReportCommissioned report

Standard Standard

Ymchwil Gwerthuso Prosiect Tîm o Amgylch y Person Ifanc (TAPI) GISDA. / Davies, Myfanwy; ap Gruffudd, Gwilym Siôn.
2022. 55 p.

Research output: Book/ReportCommissioned report

HarvardHarvard

APA

CBE

MLA

VancouverVancouver

Author

RIS

TY - BOOK

T1 - Ymchwil Gwerthuso Prosiect Tîm o Amgylch y Person Ifanc (TAPI) GISDA

AU - Davies, Myfanwy

AU - ap Gruffudd, Gwilym Siôn

PY - 2022/10/20

Y1 - 2022/10/20

N2 - Dyma adroddiad ar ddarganfyddiadau prosiect TAPI GISDA rhwng Mawrth 2022 ac Awst 2022, sef cyfnod y comisiwn a dderbyniodd Prifysgol Bangor gan GISDA. Mae’r adroddiad yn ddilyniant o’r adroddiad pennawd a luniwyd mis Mai 2022. Comisiynwyd Prifysgol Bangor i gwblhau darn o waith ymchwil yn archwilio i effeithlonrwydd prosiect TAPI o ran datblygiad sgiliau a chyrhaeddiad dysgu, hyder, lles, chyflogadwyedd, cynhwysiant cymdeithasol, a chyfranogiad ymysg defnyddwyr y cynllun. Cytunwyd hefyd i adnabod arfer da o fewn y prosiect ac ar draws y llenyddiaeth o ran cefnogi trosglwyddiad pobl ifanc i’r gwaith.Mae’r adolygiad llenyddol yn disgrifio heriau sydd yn wynebu pobl ifanc o ran iechyd a lles a chynhwysedd cymdeithasol. Mae hefyd yn adnabod arfer da o ran cynllunio gwasanaethau ar sail medrau pobl ifanc, cynllunio ymyraethau ar sail gweithgareddau hwylus a chymdeithasol a phwysigrwydd perthynas agos â staff a gwirfoddolwyr ag agwedd cadarnhaol ac chefndiroedd tebyg. Erys heriau o ran sicrhau bod sgiliau bywyd a addysgir drwy gynlluniau o’r fath ag effaith hir-dymor. Credir bod angen deall mwy am brofiadau defnyddwyr a sut y mae’r gwasanaethau yn asio gyda’u profiadau diwylliannol a phersonol blaenorol.Cynhaliwyd 42 cyfweliad gyda defnyddwyr TAPI rhwng Ebrill a diwedd Gorffennaf 2022. Gan fod ystod y gweithgareddau y cynhwyswyd o fewn TAPI yn eang tu hwnt, ni fu’n bosib olrhain perthynas glir rhwng ymyriadau unigol a llwyddiant o ran y nodau uchod. Er hynny, y mae’r data yn dangos fod y gweithgareddau wedi cynyddu hyder, lles a chyflogadwyedd defnyddwyr yn sylweddol. Cysylltwyd cynnydd o ran cynhwysiant cymdeithasol gyda thripiau a gweithgareddau hamdden a chysylltwyd cyfranogiad gydag ymweliad â’r Senedd a’r cyfle i gyfrannu at gyfarfodydd ffurfiol ac anffurfiol o fewn GISDA. Defnyddiwyd data a gasglwyd gan GISDA i atgyfnerthu’r dadansoddiad o ran effeithiau cadarnhaol ac ystod eang y gweithgareddau; hyn o ran y cynnydd mewn hyder ar draws y grwpiau ymgymerodd â’r gweithgareddau ac hefyd o ran adroddiadau cyfranogwyr yr ymchwil bod ymyrraeth GISDA wedi arwain at osgoi canlyniadau negyddol y byddai wedi dilyn heb y gefnogaeth honno.Mae’r adroddiad yn cloi gyda chasgliadau sydd yn trafod llwyddiant y gweithgareddau ac sydd hefyd yn ystyried sut y bu iddynt atgynhyrchu arfer da yn ryngwladol a sut y gellid gyfrannu ymhellach at y drafodaeth honno.

AB - Dyma adroddiad ar ddarganfyddiadau prosiect TAPI GISDA rhwng Mawrth 2022 ac Awst 2022, sef cyfnod y comisiwn a dderbyniodd Prifysgol Bangor gan GISDA. Mae’r adroddiad yn ddilyniant o’r adroddiad pennawd a luniwyd mis Mai 2022. Comisiynwyd Prifysgol Bangor i gwblhau darn o waith ymchwil yn archwilio i effeithlonrwydd prosiect TAPI o ran datblygiad sgiliau a chyrhaeddiad dysgu, hyder, lles, chyflogadwyedd, cynhwysiant cymdeithasol, a chyfranogiad ymysg defnyddwyr y cynllun. Cytunwyd hefyd i adnabod arfer da o fewn y prosiect ac ar draws y llenyddiaeth o ran cefnogi trosglwyddiad pobl ifanc i’r gwaith.Mae’r adolygiad llenyddol yn disgrifio heriau sydd yn wynebu pobl ifanc o ran iechyd a lles a chynhwysedd cymdeithasol. Mae hefyd yn adnabod arfer da o ran cynllunio gwasanaethau ar sail medrau pobl ifanc, cynllunio ymyraethau ar sail gweithgareddau hwylus a chymdeithasol a phwysigrwydd perthynas agos â staff a gwirfoddolwyr ag agwedd cadarnhaol ac chefndiroedd tebyg. Erys heriau o ran sicrhau bod sgiliau bywyd a addysgir drwy gynlluniau o’r fath ag effaith hir-dymor. Credir bod angen deall mwy am brofiadau defnyddwyr a sut y mae’r gwasanaethau yn asio gyda’u profiadau diwylliannol a phersonol blaenorol.Cynhaliwyd 42 cyfweliad gyda defnyddwyr TAPI rhwng Ebrill a diwedd Gorffennaf 2022. Gan fod ystod y gweithgareddau y cynhwyswyd o fewn TAPI yn eang tu hwnt, ni fu’n bosib olrhain perthynas glir rhwng ymyriadau unigol a llwyddiant o ran y nodau uchod. Er hynny, y mae’r data yn dangos fod y gweithgareddau wedi cynyddu hyder, lles a chyflogadwyedd defnyddwyr yn sylweddol. Cysylltwyd cynnydd o ran cynhwysiant cymdeithasol gyda thripiau a gweithgareddau hamdden a chysylltwyd cyfranogiad gydag ymweliad â’r Senedd a’r cyfle i gyfrannu at gyfarfodydd ffurfiol ac anffurfiol o fewn GISDA. Defnyddiwyd data a gasglwyd gan GISDA i atgyfnerthu’r dadansoddiad o ran effeithiau cadarnhaol ac ystod eang y gweithgareddau; hyn o ran y cynnydd mewn hyder ar draws y grwpiau ymgymerodd â’r gweithgareddau ac hefyd o ran adroddiadau cyfranogwyr yr ymchwil bod ymyrraeth GISDA wedi arwain at osgoi canlyniadau negyddol y byddai wedi dilyn heb y gefnogaeth honno.Mae’r adroddiad yn cloi gyda chasgliadau sydd yn trafod llwyddiant y gweithgareddau ac sydd hefyd yn ystyried sut y bu iddynt atgynhyrchu arfer da yn ryngwladol a sut y gellid gyfrannu ymhellach at y drafodaeth honno.

M3 - Adroddiad Comisiwn

BT - Ymchwil Gwerthuso Prosiect Tîm o Amgylch y Person Ifanc (TAPI) GISDA

T2 - Adlewyrchu ar brosiectau Cronfa Adfwyio Cymunedol yng Ngwynedd

Y2 - 20 December 2022 through 20 December 2022

ER -