Ystyr Anghyfiaith mewn Testunau Cymraeg Canol
Research output: Contribution to journal › Article › peer-review
Standard Standard
In: Studia Celtica, Vol. 55, No. 1, 01.12.2021, p. 75-96.
Research output: Contribution to journal › Article › peer-review
HarvardHarvard
APA
CBE
MLA
VancouverVancouver
Author
RIS
TY - JOUR
T1 - Ystyr Anghyfiaith mewn Testunau Cymraeg Canol
AU - Thomas, Rebecca
N1 - 18 months embargo
PY - 2021/12/1
Y1 - 2021/12/1
N2 - Mae’r erthygl hon yn ymdrin â rôl iaith yn y broses o ddatblygu hunaniaethau yn yr Oesoedd Canol trwy astudio’r defnydd o anghyfiaith mewn testunau Cymraeg Canol. Ymddengys anghyfiaith mewn ystod eang o destunau ac mae’r drafodaeth yn ystyried testunau cyfreithiol, barddoniaeth a rhyddiaith (a gyfieithwyd o’r Lladin i’r Gymraeg) yn eu tro. Mae’r defnydd o anghyfiaith mewn cymaint o gyd-destunau gwahanol yn tystio i bwysigrwydd iaith fel gwahaniaeth rhwng pobloedd yn y testunau hyn. Yn y cyfreithiau, mae’r anghyfiaith yn gategori obobl ag anallu cyfreithiol ac mae’r gair hefyd yn cael ei ddefnyddio fel ffordd o ddiffinio Cymru. Defnyddir anghyfiaith yn aml yn y farddoniaeth a’r rhyddiaith i ddisgrifio gelyn y Cymry – y Saeson fel arfer. Yma, tanlinellir iaith fel gwahaniaeth rhwng y Cymry a phobloedd eraill. Ond trwy gymharu’r rhyddiaith gyda’r testunau Lladin y’i seiliwyd arnynt, gwelir bod anghyfiaith yn aml yn gyfieithiad o’r Lladin barbari. Ymhellach, mae’r erthygl hon yn awgrymu y defnyddir anghyfiaith, mewn rhai cyd-destunau, i ddisgrifio’r rhai hynny nad oeddent ynmedru’r Lladin – hynny yw, nad oeddent yn rhan o’r byd Cristnogol. Mae’r ymchwiliad hwn i ystyr anghyfiaith, felly, yn taflu goleuni ar yr hunaniaethau cymhleth a haenog a grëwyd yn y testunau hyn.
AB - Mae’r erthygl hon yn ymdrin â rôl iaith yn y broses o ddatblygu hunaniaethau yn yr Oesoedd Canol trwy astudio’r defnydd o anghyfiaith mewn testunau Cymraeg Canol. Ymddengys anghyfiaith mewn ystod eang o destunau ac mae’r drafodaeth yn ystyried testunau cyfreithiol, barddoniaeth a rhyddiaith (a gyfieithwyd o’r Lladin i’r Gymraeg) yn eu tro. Mae’r defnydd o anghyfiaith mewn cymaint o gyd-destunau gwahanol yn tystio i bwysigrwydd iaith fel gwahaniaeth rhwng pobloedd yn y testunau hyn. Yn y cyfreithiau, mae’r anghyfiaith yn gategori obobl ag anallu cyfreithiol ac mae’r gair hefyd yn cael ei ddefnyddio fel ffordd o ddiffinio Cymru. Defnyddir anghyfiaith yn aml yn y farddoniaeth a’r rhyddiaith i ddisgrifio gelyn y Cymry – y Saeson fel arfer. Yma, tanlinellir iaith fel gwahaniaeth rhwng y Cymry a phobloedd eraill. Ond trwy gymharu’r rhyddiaith gyda’r testunau Lladin y’i seiliwyd arnynt, gwelir bod anghyfiaith yn aml yn gyfieithiad o’r Lladin barbari. Ymhellach, mae’r erthygl hon yn awgrymu y defnyddir anghyfiaith, mewn rhai cyd-destunau, i ddisgrifio’r rhai hynny nad oeddent ynmedru’r Lladin – hynny yw, nad oeddent yn rhan o’r byd Cristnogol. Mae’r ymchwiliad hwn i ystyr anghyfiaith, felly, yn taflu goleuni ar yr hunaniaethau cymhleth a haenog a grëwyd yn y testunau hyn.
U2 - 10.16922/SC.55.4
DO - 10.16922/SC.55.4
M3 - Erthygl
VL - 55
SP - 75
EP - 96
JO - Studia Celtica
JF - Studia Celtica
SN - 0081-6353
IS - 1
ER -