Agweddau ar asesu'r Gymraeg fel ail iaith yn y Cwricwlwm Cenedlaethol 1990-1993

Electronic versions

Documents

  • Bethan Mair Clement

Abstract

Prif amcan y traethawd yw pwyso a mesur y graddau y llwyddwyd i ddatblygu cyfundrefn o dasgau a phrofion statudol Cymraeg Ail laith i gynnal bwriadau ac amcanion y Grwp Gwaith ar Asesu a Phrofi a'r Gorchymyn Cymraeg. Yn gefndir i'r prif waith ymchwil, rhoddwyd sylw i'r datblygiadau diweddaraf ym maes dysgu Cymraeg a Chymraeg Ail laith. Ystyriwyd datblygiadau yn y byd asesu gan ganolbwyntio ar ddulliau o asesu iaith. Wrth ymwneud a'r gwaith datblygu a ddigwyddodd rhwng 1990 a 1992, tynnwyd yn helaeth ar brofiad personol. Rhoddwyd sylw manwl i athroniaeth y SCYA a oedd yn gyfrifol am y gwaith datblygu ac i'r holl ddeunyddiau asesu a gynhyrchwyd rhwng 1990 a 1,993. Astudiwyd a dadansoddwyd y tasgau a'r profion, y cynlluniau marcio, y canllawiau a roddwyd i athrawon a'r gynhaliaeth a gynigiwyd. Yn ogystal ystyriwyd yr adrod_diadau gwerthuso a gynhyrchodd yr asiantaeth ddatblygu. Daethpwyd i'r casgliad bod y SCYA, yn yr asesiad statudol cyntaf wedi llwyddo i gwrdd a llawer iawn o egwyddoribn TGAT a'r Gorchymyn Cymraeg. Cafwyd ystod eang iawn i'r gweithgareddau asesu a rhoddwyd cyfle i ddisgyblion ddangos cyflawniad mewn mwy nag un ffordd. Bu'r deunyddiau asesu yn fodd effeithiol o fesur cyflawniad disgyblion tra ar yr un pryd yn tynnu sylw at ddisgwyliadau'r rhaglenni astudio. Adlewyrchwyd arfer dysgu, addysgu ac asesu da yn y gweithgareddau. Roedd i'r rhan fwyaf o'r gweithgareddau gyd-destun a phwrpas ystyrlon. Roeddent yn cyfateb a gweledigaeth y Gweithgor Cymraeg a oedd yn awyddus i weld asesiadau wedi'u gwreiddio'n ddwfn yn y cwricwlwm gyda'r canlyniadau'n bwydo yn o1 l'r addysgu. Un o brif obeithion y Gweithgor Cymraeg oedd y byddai'r Cwricwlwm Cenedlaethol yn fodd i godi lefel cyflawniad disgyblion ail iaith. Mae tystiolaeth gynnar yn dangos fod hynny'n digwydd. Gosodwyd, ym 1993, seiliau cadarn ar gyfer datblygu i'r dyfodol gyda'r gobaith am gynnydd pellach yng nghyflawniad dysgwyr.

Details

Original languageWelsh
Awarding Institution
Supervisors/Advisors
  • Colin Baker (Supervisor)
  • Iolo Williams (Supervisor)
Award dateMay 1997