Caffaeliad Plant Ifanc Dwyieithog o’r System Ateb yn y Gymraeg

Electronic versions

Documents

  • Siân Lloyd-Williams

Abstract

Pwrpas yr ymchwil hwn oedd mesur dealltwriaeth plant dwyieithog rhwng 7;7 a 11;9 mlwydd oed o’r system ateb yn y Gymraeg. Mae nifer o ymchwilwyr wedi adnabod pwysigrwydd amlygiad ieithyddol digonol i’r broses o gaffael iaith ac o gaffael strwythurau cymhleth yn enwedig (e.e., Gathercole a Thomas, 2005). Gobeithir y bydd y gwaith hwn yn cyfrannu at ein dealltwriaeth o bwysigrwydd amlygiad digonol wrth gaffael dwy iaith ac y bydd yn cyfrannu at y drafodaeth sy’n edrych ar lunio strategaethau addysgol priodol fyddai’n cynorthwyo plant wrth geisio dysgu systemau cymhleth. Mae i’r system ateb amryw o nodweddion gwahanol sy’n cynnwys elfennau adlesiol lle adleisir y ferf gryno (e.e., Wyt ti’n hoffi coffi? Bod.2U.PRES lle ymatebir gyda’r ffurf Ydw Bod.1U.PRES), yn ogystal â ffurfiau di-adlais lle mae’n bosib i ffurf gystrawennol y frawddeg fod yn giw (e.e., Ai ti bia’r bêl yne? lle yr ymatebir gyda’r ffurf ymatebol Ie). Er fod yr amrywiadau hyn yn awgrymu fod y system yn un cymhleth ar yr olwg gyntaf, mae iddi hefyd nifer o reolau cyson (neu giwiau). Crëwyd 3 o dasgau newydd i 134 o blant o dri chefndir ieithyddol gwahanol: Un ai Cymraeg, Saesneg neu Gymraeg a Saesneg yn y cartref. Roedd y profion hyn yn cynnwys prawf barnu ar lafar a phrofion cynhyrchu ar lafar ac yn ysgrifenedig. Awgryma’r canlyniadau fod amlder y mewnbwn a thryloywder unrhyw eitem phenodol yn hollbwysig, gyda’r plant o gartrefi Cymraeg yn sgorio’n uwch na’r grwpiau eraill ar bron bob eitem ar gyfartaledd. Cyfranna’r ymchwil hwn at ein dealltwriaeth o bwysigrwydd amlder y mewnbwn, ciwiau cystrawennol, a’r angen i adnabod rheolau wrth gaffael strwythurau penodol. Yn unol â’r datganiad hwn, mae i’r canlyniadau yma oblygiadau tu hwnt i’r system hon, ac thu hwnt i’r iaith Gymraeg, a trafodir goblygiadau addysgol posib y canlyniadau a’r ystyriaeth sydd angen ei roi i ymchwil pellach.

Details

Original languageWelsh
Awarding Institution
Supervisors/Advisors
Award dateJan 2016