Dadansoddiad o nodau graddedig ar gyfer oedolion sy'n dysgu'r Gymraeg fel ail iaith

Electronic versions

Documents

  • John Philip Davies

Abstract

Gellir dadlau rnai ar sail profiad tiwtoriaid a llunwyr defnyddiau y gwnaed unrhyw ddadansoddiad o ddefnyddiau dysgu ar gyfer dysgwyr y Gymraeg yn y gorffennol. canolbwyntiai'r defnyddiau grarnadegol-strwythurol ar y MODD y gallai'r dysgwr ei fynegi ei hun, tra bod y drefn sefyllfaol yn canolbwyntio ar LEDLIAD neu gyd-destun yr iaith. Gwelwyd rnai pwysleisio CYNNWYS y mae'r defnyddiau cyfathrebol cyfoes, ac o'r herwydd, tybir bod barn y dysgwr ei hunan, am y tro cyntaf yng Nghymru, yr un mor ddilys S barn arbenigwyr addysgol. Aethpwyd ati, felly, drwy gyfrwng holiaduron a gwblhawyd gan 299 o ddysgwyr dosbarthiadau oedolion yng Nghlwyd (1983-4), i'w holi ynghylch eu hanghenion addysgol. Trefnwyd yr ymchwil mewn tair rhan, sef; adnabyddiaeth o'r sarnpl - a oedd yn cynnwys eu cefndir ieithyddol a chymdeithasol a'u cymhelliant; astudiaeth o'r ddarpariaeth bresennol o ran cyrsiau a defnyddiau; a dadansoddiad o'u hanghenion cyfathrebol - a ganolbwyntiai ar amcanion a sgiliau dysgu, cyd-destun y cyfathrebu a diffinio'r nodau cyfathrebol. Ar ol ymdrin ag yrnateb y dechreuwyr, y dysgwyr pellach a'r 'colledig rai' ar wahan, cyfunwyd eu hymateb, trafodwyd y berthynas rhwng y nodau cyfathrebol a newidynnau eraill, a chaed bod yr un nodau'n codi i'r brig ym marn pob carfan. Cydnabyddir nad oes angen graddoli'r nodau a ddetholwyd, ond er hynny, gwelwyd y byddai'n bosibl eu graddio er mwyn llunio cynllun o nodau cyfathrebol a fyddai o fudd i diwtoriaid yn eu dosbarthiadau, ac i lunwyr defnyddiau cyfathrebol wrth iddynt greu deunydd a chyfarpar ar gyfer anghenion y dysgwyr. Dadleuir hefyd, fod seilio meysydd llafur ar nodau graddedig yn ffordd o gael patrwm cenedlaethol i'r dysgu ym myd dysgu oedolion, tra ar yr un pryd yn parchu'r duedd ddiweddar i ddatblygu defnyddiau lleol sydd o gymorth i'r dysgwyr ymdoddi'n gyflym ac yn effeithiol i'r gymdeithas Gymraeg o'u hamgylch

Details

Original languageWelsh
Awarding Institution
  • University College of North Wales, Bangor
Supervisors/Advisors
    Award date1986