Rheolaeth strategol ar hyfforddiant iaith mewn gweithleoedd sector cyhoeddus

Electronic versions

Documents

    Research areas

  • PhD, School of Social Sciences

Abstract

Amcan y traethawd hwn yw archwilio i sut y mae cyrff cyhoeddus yng ngogledd Cymru yn cynllunio hyfforddiant mewn caffael sgiliau Cymraeg i’w staff di-Gymraeg, ac felly’n sicrhau bod y staff yma yn meddu ar sgiliau galwedigaethol allweddol er mwyn medru cyfrannu at wasanaeth dwyieithog eu cyflogwr. Mae’r astudiaeth yn edrych yn fanwl ar effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd yr hyfforddiant hwn, gan werthuso rheolaeth strategol y cyflogwyr ar draws ystod o gamau gwahanol yn y broses hyfforddi. Mae hyn yn cynnwys cynllunio’r hyfforddiant; ei ddarparu; monitro ei lwyddiant; cymhwyso’r hyfforddiant i’r gweithle a chefnogi’r dysgwyr y tu allan i’r gwersi ffurfiol.
Dyma’r gwaith ymchwil cyntaf i gael ei wneud yn y maes hwn yng Nghymru a bydd yr astudiaeth hon felly yn ddechrau ar y gwaith o lenwi bwlch yn ein gwybodaeth, a gobeithio, yn gosod sylfaen gadarn ar gyfer gwaith ymchwil pellach. Mae’r gwaith ymchwil empirig sy’n sail i’r traethawd hwn yn cynnwys casglu data cynhwysfawr ac eang gan gyflogwyr; gan ddysgwyr a chan ‘reoleiddwyr’, a cheir cyfuniad o ddata meintiol ac ansoddol. Mae’r data hwn, yn gyfannol, yn cynnig darlun manwl ac unigryw o sefyllfa hyfforddiant iaith ar lefel strategol ac ymarferol mewn amrywiaeth o weithleoedd yng Nghymru.
Mae’r astudiaeth yn pontio cyfnod lle daeth Bwrdd yr Iaith Gymraeg (ByIG) i ben a lle daeth Comisiynydd y Gymraeg (CyG) i fodolaeth. Edrychir yn fanwl ar effaith ByIG fel hyrwyddwr a rheoleiddiwr hyfforddiant iaith, ac effaith hyn ar reolaeth strategol yr hyfforddiant mewn gweithleoedd ledled gogledd Cymru.
I gloi, mae canfyddiadau’r traethawd yn taflu goleuni newydd ar sefyllfa hyfforddiant iaith yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Amlygir diffygion clir (ar y cyfan) mewn gweithleoedd yn y modd y cynllunir hyfforddiant Iaith ar y lefel meicro, ond hefyd gan y rheoleiddwyr yn y modd y gweithredir ac y monitrir deddfwriaeth a pholisi cenedlaethol ar y lefel macro.
Hyderir y byddant o gymorth i weithleoedd wrth gynllunio a monitro hyfforddiant iaith yn y dyfodol. Yn ogystal, gobeithir y bydd y canfyddiadau a’r argymhellion yn berthnasol ac yn gymorth i Lywodraeth Cymru, Comisiynydd y Gymraeg a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i hwyluso hyfforddiant strategol effeithiol yn y gweithle.

Details

Translated title of the thesisRheolaeth strategol ar hyfforddiant iaith mewn gweithleoedd sector cyhoeddus
Original languageWelsh
Awarding Institution
Supervisors/Advisors
Award date2018