The invasion potential of the non-native Chilean oyster (Ostrea chilensis Philippi 1845) in the Menai Strait (North Wales, UK) : present observations and future predictions

Electronic versions

Documents

  • Eilir Morgan

    Research areas

  • PhD, School of Ocean Sciences

Abstract

Fel y gall unrhyw un sydd wedi cwblhau traethawd PhD ei ardystio, nid ymdrechion un person yn unig mo'r cyfanwaith hwn, er gwaethaf beth sydd wedi'i ysgrifennu ary dudalen flaen. Gyda chynifer wedi bod o gymorth i mi trwy gydol y pedair blynedd ddiwethaf, mai'n anochel mai ofer fyddai unrhyw ymdrech i lunio rhestr gyflawn o'r rhai hynny a fuodd mor garedig â'm helpu yn ystod y cyfnod hwn. Ymdrechaf felly i ddiolchi gynifer o bobl ag sy'n bosibl, gydag ymddiheuriadau a'm diolch diffuanti'r rhai hynny rwyf wedi methu a'u cofio.Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i'm goruchwyliwr, yr Athro Chris Richardson, am ei frwdfrydedd di-ben-draw a'i gymorth trwy gydol y prosiect. Hyd yn oed ar ôl ei benodiad fel PennaethAdran yn Ysgol Gwyddorau'r Eigion, parhaodd Chris i neilltuo amser ar gyfer nifer o drafodaethau anffurfiol ar holl agweddau o'r gwaith, gyda'i agwedd bositif a chefnogol bob amser yn falm i'm holl bryderon.
Cafwyd trafodaethau cyffrous gyda nifer o boblynglŷn â nifer o agweddau gwahanol o'r penodau data, unai ar lefel anffurfiol neu trwy gyfrwng cyfarfodydd gyda'm panel goruchwyliol. Hoffwn felly ddiolch i'r canlynol: Dr Andy Beaumont, Mrs Alison Bell, Dr Jim Bennell, Mr Paul Brazier, Dr Noel Craine, Dr Andrew Davies, Dr Louise Firth, Dr Luis Giménez, Dr Enrique González-Ortegón, yr Athro Steve Hawkins, Dr Jan Hiddink, Dr Stuart Jenkins, Mr Paul Kennedy, Dr Ian McCarthy, yr Athro Ray Seed, Dr Martin Skov a Mrs Gabe Wyn. Rwyf hefyd yn hynod werthfawrogol i nifer o ganolwyr anhysbys a golygyddion cyfnodolion am eu sylwadau manwl ar fersiynau talfyredig o ddau o'r penodau data sydd bellachwedi'u cyhoeddi mewn cyfnodolion rhyngwladol.Hoffwn ddiolch yn arbennig iDr Stuart Jenkins a Dr Dai Roberts (Prifysgol y Frenhines, Belfast) am yr holladborth defnyddiol a gefais ganddynt yn ystod yr arholiad viva voce.Cyllidwyd y prosiect hwn trwy garedigrwydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol (CCC). Fel deiliad un o'u hysgoloriaethau ôl-radd 4-mlynedd, bues yn ffodus iawn o dderbyn y cyfle i gwblhau'r 'Tystysgrif Uwchraddedig Addysgu mewn Addysg Uwch' (TUAAU), gan ddatblygu fy sgiliau ymchwil pedagogaidd a fydd o gymorth i'm gyrfa fel addysgwr. Mae staff y CCC, yn ogystal â Chanolfan Bedwyr (Prifysgol Bangor), yn parhau i chwarae rôl flaenllaw yn natblygiad darpariaeth cyfrwng Cymraeg ar draws holl sefydliadau Addysg Uwch Cymru a thu hwnt. Hoffwn ddiolch yn benodol i Dr Lowri Ahronson, Dr Dei Huws, Dr Llion Jones, Dr Dylan Phillips a Mr Wyn Thomas am eu holl ysbrydoliaeth ynghylch datblygu a darparu addysg cyfrwng Cymraeg ym maes gwyddorau'r eigion.
Cefais gefnogaeth eithriadol gan holl staff gweinyddol a thechnegol Ysgol Gwyddorau'r Eigion trwy gydol fy nghyfnod yma, a rhoesant o'u hamser prin i'm helpu bob amser. Hoffwn felly estyn fy niolch diffuant i Dr David Assinder, Mr Vallen Astley, Miss Judy Davies, Mr John East, Mrs Anwen Griffiths, Mrs Joan Griffiths, Mr Gwyn Hughes, Mr Peter Hughes, Mrs Marilyn Lorrison, Mr Ian Nichols, Mr Gwynne Parry-Jones, Mr Ben Powell, Mr Berwyn Roberts, Mr David Roberts, Mr Len Roberts, Mrs Lorna Roberts a Mrs Lynne Roberts.Hoffwn hefyd ddiolch o galon i'm holl gyfoedion a'm ffrindiau am eu brwdfrydedd a'u cyfeillgarwch diflino, hyd yn oed pan oedd pethau'n edrych yn o ddu arnaf arbrydiau! I Gareth (O'Johnson), Iain (Ridgo), Johnson (PTS-AI!), Nick (The Steam), Osh (Bach), Paula, Prysor, Tim (Whitto), Benny, Caraa Rich (+ Ioan!), Glen(No. 10), Gruff, Jim, Jon a Lou (Aidial, Gei!), Lloyd, Rich a Carrie (+ yr ieir!),yn ogystal â phawb yn y 'Nautilus' -diolch am bedair blynedd anhygoel!Daw'r darluniau 'pin ac inc' hyfryd ar ddechrau pob pennod data o waith fy nghariad, Miranda. Roeddwn yn awyddus iawn i gynnwys rhywbeth o'i gwaith hi yma gan i'r traethawd fod yn feistr corn ar draul amryw o nosweithiau a phenwythnosau yng nghwmni'n gilydd. Diolch am dy amynedd ac am ddal i gadw dy ffydd ynof, Mir; ni fuaswn bythwedi gallu cwblhau'r gwaith yma hebddo ti.xxYn olaf, hoffwn gymryd y cyfle i ddiolch i'm teulu oll am ddal i gredu ynof trwy gydol y daith. Yn rhy fynych o lawer yn ystod y pedair blynedd ddiwethaf yr esgeulusais gyfeillgarwch a chymorth gan fy nheulu ar draul nosweithiau hir a hwyryn y swyddfa. I DadaMam, Aled, Rhydian,Nain Rhuthun, BethanaDave, EirianaGlyn, EirianaRay,SionedaLlŷr(+ Martha!), Alaw, BetsanaGerwyn, Elain, JimaSarah, Miranda, Becks a Jari –diolch o waelod calon am bopeth!

Details

Original languageEnglish
Awarding Institution
Supervisors/Advisors
Thesis sponsors
  • Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Award dateJan 2012