Traddodiadau a defodau Sipsiwn benywaidd Cymru o safbwynt gymharol, 1900-2021

Electronic versions

Documents

  • Sarah Lock-Thompson

    Research areas

  • PhD Welsh History, Sipsi, Sipsi Cymreig, Sipsiwn benywaidd, Welsh Gypsy, Gypsy traditions, Gypsy rituals, defodau Sipsiwn, traddodiadau Sipsiwn, Merched Cymreig, Welsh women

Abstract

Crynodeb:
Traddodiadau a defodau sy’n berthnasol i Sipsiwn benywaidd Cymru yw testun ymchwil y thesis yma. Mae’r gwaith yn creu cymhariaeth gyda thraddodiadau a defodau Sipsiwn a Theithwyr benywaidd eraill Prydain a thu hwnt i Brydain er mwyn ystyried pa mor unigryw ydyw’r traddodiadau a defodau a gysylltwyd â Sipsiwn benywaidd yng Nghymru. Bydd y gwaith yn canolbwyntio ar y traddodiadau a defodau eu hunain a’u cyflwr yn y byd modern. Yn ogystal â hyn, mae’r thesis yn ystyried bywydau merched Sipsi yng Nghymru drwy gydol yr ugeinfed ganrif hyd at y presennol ac yn ystyried pa mor debyg neu wahanol oedd eu bywydau o’i gymharu â bywydau’r Cymry frodorol benywaidd. Bydd y gwaith yn dangos sut oedd bywydau’r merched hyn yn plethu. Gwelir bod y thesis yn cynnwys llinach amser eang, sy’n cychwyn ar ddechrau’r ugeinfed ganrif ac yn gorffen yn y presennol. Mae’n bwysig ystyried y cyfnod eang hwn er mwyn gweld newidiadau a diwygio dros amser ym mywydau y merched Sipsi yng Nghymru.
Hyd yn hyn, mae Sipsiwn benywaidd Cymru wedi eu hanwybyddu mewn hanesyddiaeth yn gyffredinol. Nid oes gwaith penodol am draddodiadau a defodau Sipsiwn benywaidd Cymru. Yn wir, nid yw hanes y Sipsiwn yn gyffredinol yn y wlad wedi’i astudio yn drylwyr ychwaith. Mae rhai gweithiau sydd yn trafod traddodiadau a defodau Sipsiwn Seisnig a Theithwyr Albanaidd, grwpiau a gysylltwyd gyda Sipsiwn Cymru yn ddiwylliannol oherwydd eu bod wedi cyd-briodi dros y canrifoedd ac felly yn rhannu traddodiadau a defodau. Mae’r gweithiau yma yn bwysig er mwyn creu cymhariaeth yn y gwaith a gosod traddodiadau a defodau Sipsiwn benywaidd Cymru mewn cyd-destun ehangach. Mae’r thesis yma yn bwysig felly i ddiweddaru’r gweithiau hanesyddol am Sipsiwn yng Nghymru a dangos ‘lle’ Sipsiwn benywaidd yn hanes cymdeithasol Cymru a’u cydberthynas ehangach gyda’r werin yn benodol. Mae’r gwaith yn ffordd o ddangos lle un grŵp lleiafrifol ethnig yn hanes Cymru. Yn olaf, mae’n bwysig ystyried traddodiadau a defodau Sipsiwn benywaidd Cymru er mwyn dangos eu ffordd o fyw, rôl, dylanwad a phŵer oddi fewn i’w cymuned.
Bydd y thesis yn defnyddio’r hanesyddiaeth berthnasol i’r testun ac mae llyfryddiaeth lawn ar ddiwedd y gwaith. Defnyddiwyd nifer o ffynonellau cynradd sy’n cynnwys hunangofiannau, adnoddau archifdai fel lluniau ac erthyglau papur newydd Cymreig a ffynonellau mwy diweddar fel rhaglenni teledu. Daw’r data mwyaf unigryw gan gant tri deg a thri o gyfranogwyr i holiadur a luniwyd yn gofyn cwestiynau am draddodiadau a defodau yn gyffredinol yn y gymuned Sipsi.


Details

Original languageWelsh
Awarding Institution
Supervisors/Advisors
Thesis sponsors
  • Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen
Award date4 Jul 2023