Dr Aled Llion Jones

Uwch Ddarlithydd mewn Llenyddiaeth Gymraeg a Chanoloesol

Contact info

Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd
Prifysgol Bangor
Ffordd y Coleg
Bangor
LL57 2DG

aled.llion@bangor.ac.uk

+44 (0)1248 382243

Trosolwg

Addysg a Chyflogaeth
Fe'm haddysgwyd ym Mhrifysgolion Leeds, Caerdydd a Harvard, ac enillais raddau ym meysydd Athroniaeth a Saesneg (BA), Cymraeg (MPhil) ac Astudiaethau Celtaidd (PhD). Rwyf wedi bod yn Ddarlithydd neu'n Athro mewn prifysgolion yng Ngwlad Pwyl (Lublin), Iwerddon (Gaillimh), UDA (Harvard) a Chymru (Bangor), ac wedi darlithio'n achlysurol neu addysgu ar ysgolion haf mewn sefydliadau ledled Ewrop a Gogledd America.

Ymchwil
Rwy'n gweithio ar draws cyfnodau a disgyblaethau, gan ddwyn athroniaeth a theori lenyddol ddiweddar i ddialog â llenyddiaeth fodern a chanoloesol Cymru ac Iwerddon. Pwysig i’r gwaith hwn hefyd ydy theori amlieithrwydd a chyfieithu. Gweler yn enwedig fy monograff, Darogan (GPC 2013), a hefyd fy erthygl yn Translation Studies, 9.

Yn ddiweddar mae fy ngwaith ymchwil wedi bod yn troi o gwmpas dau brif faes, sef athroniaeth yr ugeinfed ganrif (yn enwedig ffigyrau megis Martin Heidegger, Maurice Blanchot, Martin Buber, Jacques Derrida) a llenyddiaeth Gymraeg y canol oesoedd. Digwyddiad pwysig sy'n clymu'r meysydd hyn ynghyd yw cyfieithiad Martin Buber o Bedair Cainc y Mabinogi yn 1914, ac rwyf wedi bod yn edrych ar y croes-ffrwythloni cysyniadol rhwng y chwedlau Cymraeg a'r traddodiadau dyneiddiol-Hasidig. Gweler fy erthygl yn Ysgrifau Beirniadol ar yr olaf.

Rwyf hefyd yn edrych yn agos ar gysyniadau o amser, cronoleg a hanesyddiaeth yn llên ganoloesol y Gymraeg a'r Wyddeleg. Mae'r brosiect hon yn archwilio nid yn unig nodweddion megis y deictig ond hefyd y ffyrdd y mae ffurfiau llenyddol a throsiadau rhethregol yn mynegi profiadau cysyniadol (ac anghysyniadol) o amser, lle, tragwyddoldeb a'r iwtopig. Gweler fy erthygl yn Proceedings of the Harvard Celtic Colloquium ar hyn.

Cyflwyno a Siarad Cyhoeddus
Rwyf wedi traddodi ystod o bapurau mewn cynadleddau o orllewin Romania i dde Califfornia (ac yn y rhan fwyaf o’r gwledydd rhyngddynt): siaradaf gan fwyaf ar lenyddiaeth Gymraeg a Gwyddeleg (ganoloesol a modern), ond hefyd ar athroniaeth, ac astudiaethau diwylliannol yn ehangach.

Caf fy ngwahodd yn aml i gyflwyno mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau cyhoeddus, o brifysgolion i neuaddau pentref, ac mae fy ngwaith fel athro iaith (Cymraeg, Pwyleg, Gwyddeleg) hefyd yn fodd o gysylltu â’r gymuned leol ac ehangach. Rwy'n barod iawn i drafod ar y cyfryngau darlledu: rwy'n gyfforddus yn siarad a darlithio mewn nifer o ieithoedd.

Cyfieithu Llenyddol
Rwyf wedi cyfieithu a thrafod yn gyhoeddus farddoniaeth sawl bardd Pwyleg, a hefyd wedi cael fy nghomisiynu gan Gyfnewidfa Llenyddiaeth Cymru i gyfieithu rhyddiaith o'r iaith honno. Cyhoeddais amryw gyfieithiadau o'r Wyddeleg i'r Gymraeg.

Fe'm cymhwyswyd drwy arholiad ar gyfer aelodaeth o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru (Cym-Saes; Saes-Cym).

Addysgu
Byddaf yn dysgu bob blwyddyn ar fodiwlau blwyddyn gyntaf, ail a thrydedd y gwahanol gynlluniau BA. Dysgaf sgiliau iaith a llythrennedd (Cymraeg a Gwyddeleg) yn ogystal â llenyddiaeth, hanes llenyddiaeth, ac athroniaeth. Rwy'n cyfrannu'n gyson hefyd i fodiwlau a gaiff eu cyd-addysgu, a’r rheiny’n amrywio o lenyddiaeth ganoloesol a modern cynnar i ieithyddiaeth, sosioiethyddiaeth a chynllunio ieithyddol. Fi yw sylfeinydd a chyfarwyddwr y cwrs MA 'Y Celtiaid', a byddaf yn cyfrannu at ddysgu ar gyrsiau MA eraill ar draws yr Ysgol a'r Coleg. Rwy'n hapus i drafod prosiectau PhD.

Manylion Cyswllt

Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd
Prifysgol Bangor
Ffordd y Coleg
Bangor
LL57 2DG

aled.llion@bangor.ac.uk

+44 (0)1248 382243

Teaching and Supervision (cy)

Addysgu BA

Blwyddyn 0

  • CXC-1036 Cyflwyno Llenyddiaeth Gymraeg (Dechreuwyr)

Blwyddyn 1

  • CXC-1002 Llên y Cyfnod Modern Cynnar
  • CXC-1005 Ysgrifennu Cymraeg (trywydd ail-iaith)
  • CXC-1026 Golwg ar Lenyddiaeth (trywydd ail-iaith)

Blwyddyn 2 a 3

  • CXC-3202/2202 Athroniaeth a Llenyddiaeth 
  • CXC-3029/2029 Chwedlau'r Oesau Canol
  • CXC 2203/3203 Blas ar yr Wyddeleg
  • CXC-3009 Traethawd Estynedig  

Addysgu MA

Fi yw cyfarwyddwr cwrs MA 'Y Celtiaid'. Byddaf hefyd yn goruchwylio myfyrwyr MA (Cymraeg). Cyfrannaf at ddarlithoedd/seminarau sawl cwrs MA arall (e.e. Astudiaethau Arthuraidd; Cyflwyno'r Oesau Canol; Llenyddiaethau Cymru)

Goruchwylio PhD
Yn ddiweddar goruchwyliwyd gennyf y rhain:

  • bu prosiect Philip Davies yn astudiaeth gymharol o ddisgyrsiau cenedlaetholgar yng Nghymru a Gwlad y Basg tua diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg;
  • mae Angelika Rüdiger yn astudio'r datblygiad o fotiffau llên gwerin Gymraeg rhwng y cyfnod canoloesol a'r modern.

Croesawaf gynigion ar gyfer prosiectau ymchwil ar amryw agweddau o lenyddiaethau'r ieithoedd Celtaidd - yn enwedig Cymraeg a Gwyddeleg, a rhai'n ymwneud â methodoleg theoretig/athronyddol. 

Arholi PhD
Bûm yn arholwr mewnol i nifer o draethodau ymchwil PhD, yn Ysgol y Gymraeg a hefyd Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg, ac Ysgol Athroniaeth a Chrefydd.

Arholi Allanol

  • Newydd orffen cyfnod fel Arholwr Allanol, Prifysgol y Drindod Dewi Sant (Cynllun AUR, Y Gyfadran Allanol) 

Diddordebau Ymchwil

Rwy'n ymchwilio i lenyddiaethau'r ieithoedd Celtaidd yn gyffredinol (Cymraeg a Gwyddeleg yn arbennig), ac mae gennyf hefyd ddiddordeb mawr mewn Llenyddiaeth Gymharol, yn enwedig yng nghyd-destun diwylliannau llai Ewrop a'r ieithoedd Slafeg (y Bwyleg yn arbennig).

Yn fy ymchwil fy hun a'm goruchwylio mae gennyf ddiddordeb neilltuol mewn gwaith ac iddo ogwydd theoretig: mae fy ymchwil (gw. manylion cyhoeddiadau a chynadleddau) yn ymwneud â disgyrsiau sydd ar y ffin rhwng ffiloleg ac athroniaeth iaith/celf (e.e., proffwydoliaeth, amlieithrwydd, cyfieithu, barddoneg ac estheteg, ac ecofeirniadaeth). 

Yn ddiweddar mae fy ngwaith ymchwil wedi bod yn troi o gwmpas dau brif faes, sef athroniaeth yr ugeinfed ganrif (yn enwedig meddylwyr megis Martin Heidegger, Maurice Blanchot, Martin Buber, Jacques Derrida, J.R. Jones) a llenyddiaeth Gymraeg y canol oesoedd (barddoniaeth a rhyddiaith). Digwyddiad pwysig sy'n clymu'r meysydd hyn ynghyd yw cyfieithiad Martin Buber o Bedair Cainc y Mabinogi yn 1914, ac rwyf wedi bod yn edrych ar y croes-ffrwythloni cysyniadol rhwng y chwedlau Cymraeg a'r traddodiadau dyneiddiol-Hasidig.

Rwyf erbyn hyn yn edrych yn benodol ar gysyniadau o amser, cronoleg a hanesyddiaeth yn llên ganoloesol y Gymraeg a'r Wyddeleg. Mae'r prosiect diweddaraf hwn yn archwilio nid yn unig  agweddau megis y deictig ond hefyd y ffyrdd y mae ffurfiau llenyddol a throsiadau rhethregol yn mynegi profiadau cysyniadol (ac anghysyniadol) o amser, lle, tragwyddoldeb ac iwtopia.

Rwyf wrthi hefyd yn paratoi cyflwyniad hygyrch i Athroniaeth Llenyddiaeth, i'w gyhoeddi ar ffurf llyfr. Hwn fydd y cyflwyniad cyntaf o'i fath yn y Gymraeg, ac yn trafod llên Cymru yn benodol.

Meysydd Ymchwil ac Allweddeiriau

Allweddeiriau

  • BH Aesthetics
  • PG Slavic, Baltic, Albanian languages and literature - Pwyleg, Polish
  • PN0080 Criticism

Addysg / cymwysterau academaidd

  • 2011 - PhD (2005 - 2011)
  • 2007 - MA (2005 - 2007)
  • 2000 - MPhil (1997 - 2000)
  • 1996 - BA (1993 - 1996)

Cyhoeddiadau (27)

Gweld y cyfan

Gweithgareddau a dyfarniadau proffesiynol (57)

  • Rhaglen Aled Hughes

    Gweithgaredd: Sgwrs neu gyflwyniadCyflwyniad llafar

  • Harvard University

    Gweithgaredd: Ymweld â sefydliad allanolYmweld â sefydliad academaidd allanol

  • Harvard University

    Gweithgaredd: Ymweld â sefydliad allanolYmweld â sefydliad academaidd allanol

Gweld y cyfan

Anrhydeddau (1)

Gweld y cyfan

Gweld graff cysylltiadau