Dr Aled Llion Jones
Pennaeth Ysgol / Darllenydd mewn Llenyddiaeth Gymraeg a Chanoloesol
Affiliations
Contact info
Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd - Dept of Welsh and Celtic Studies
Prifysgol Bangor - Bangor University
Ffordd y Coleg
Bangor
LL57 2DG
aled.llion@bangor.ac.uk
+44 (0)1248 382243
Overview
Addysg a Chyflogaeth Ymchwil Yn ddiweddar mae fy ngwaith ymchwil wedi bod yn troi o gwmpas dau brif faes, sef athroniaeth yr ugeinfed ganrif (yn enwedig ffigyrau megis Martin Heidegger, Maurice Blanchot, Martin Buber, Jacques Derrida) a llenyddiaeth Gymraeg y canol oesoedd. Digwyddiad pwysig sy'n clymu'r meysydd hyn ynghyd yw cyfieithiad Martin Buber o Bedair Cainc y Mabinogi yn 1914, ac rwyf wedi bod yn edrych ar y croes-ffrwythloni cysyniadol rhwng y chwedlau Cymraeg a'r traddodiadau dyneiddiol-Hasidig. Gweler fy erthygl yn Ysgrifau Beirniadol 34 ar hyn. Rwyf hefyd yn edrych yn agos ar gysyniadau o amser, cronoleg a hanesyddiaeth yn llên ganoloesol y Gymraeg a'r Wyddeleg. Mae'r brosiect hon yn archwilio nid yn unig nodweddion megis y deictig ond hefyd y ffyrdd y mae ffurfiau llenyddol a throsiadau rhethregol yn mynegi profiadau cysyniadol (ac anghysyniadol) o amser, lle, tragwyddoldeb a'r iwtopig. Gweler fy erthygl yn Proceedings of the Harvard Celtic Colloquium, 38. Cyflwyno a Siarad Cyhoeddus Byddaf yn mwynhau cyflwyno mewn digwyddiadau cyhoeddus, o neuaddau pentref a chanolfannau celfyddydol i'r cyfryngau cenedlaethol neu'r Eisteddfod Genedlaethol. ac mae fy ngwaith fel athro iaith (Cymraeg, Pwyleg, Gwyddeleg) hefyd yn fodd o gysylltu â’r gymuned leol ac ehangach. Rwyf yn siarad a darlithio mewn nifer o ieithoedd (y Gymraeg yn bennaf ond hefyd Saesneg a Phwyleg). Cyfieithu Llenyddol Addysgu |
Education and Employment Research Recently, my research has been moving in two main areas: the philosophy of the twentieth century (especially figures such as Martin Heidegger, Maurice Blanchot, Martin Buber, Jacques Derrida, J.R. Jones) and medieval Welsh literature. A central event that brings these threads together is Martin Buber's translation of the Four Branches of the Mabinogi (Die vier Zweige des Mabinogi) in 1914, and I have been looking at conceptual cross-fertilization between the Welsh legends and humanist-Hasidic traditions: see my article in Ysgrifau Beirniadol 34. I am also looking at concepts of time, temporality and historiography in medieval Welsh and Irish literature. This project explores not only features such as the deictic but also the ways in which literary forms and rhetorical tropes express conceptual (and aconceptual) experiences of time, place, timelessness and the utopian. See my article in Proceedings of the Harvard Celtic Colloqium, 38. Presentations and Public Speaking I enjoy presenting at public events, from village halls and arts centres to national broadcast media or the National Eisteddfod, and my work as a language teacher (Welsh, Polish, Irish) is also a means of engaging with the local and wider community. I speak and lecture in a number of languages (mainly Welsh but also English and Polish). Literary Translation Teaching |
Contact Info
Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd - Dept of Welsh and Celtic Studies
Prifysgol Bangor - Bangor University
Ffordd y Coleg
Bangor
LL57 2DG
aled.llion@bangor.ac.uk
+44 (0)1248 382243
Teaching and Supervision
Addysgu BA Blwyddyn 0
Blwyddyn 1
Blwyddyn 2 a 3
Addysgu MA Goruchwylio PhD
Croesawaf gynigion ar gyfer prosiectau ar amryw agweddau o'r llenyddiaethau Celtaidd – yn enwedig Cymraeg a Gwyddeleg, a'r rhai'n ymwneud â methodolegau theoretig/athronyddol. Arholi PhD Arholi Allanol
|
BA Teaching Year 0
Year 1
Years 2 and 3
MA Teaching PhD Supervision
I welcome proposals for research projects on various aspects of Celtic-language literature – especially Welsh and Irish, and those involving theoretical/philosophical methodologies. PhD Examining External Examining
|
Research
Rwy'n ymchwilio i lenyddiaethau'r ieithoedd Celtaidd yn gyffredinol (Cymraeg a Gwyddeleg yn arbennig), ac mae gennyf hefyd ddiddordeb mawr mewn Llenyddiaeth Gymharol, yn enwedig yng nghyd-destun diwylliannau llai Ewrop a'r ieithoedd Slafeg (y Bwyleg yn arbennig). Yn fy ymchwil fy hun a'm goruchwylio mae gennyf ddiddordeb neilltuol mewn gwaith ac iddo ogwydd theoretig: mae fy ymchwil (gw. manylion cyhoeddiadau a chynadleddau) yn ymwneud â disgyrsiau sydd ar y ffin rhwng ffiloleg ac athroniaeth iaith/celf (e.e., proffwydoliaeth, amlieithrwydd, cyfieithu, barddoneg ac estheteg, ac ecofeirniadaeth). Yn ddiweddar mae fy ngwaith ymchwil wedi bod yn troi o gwmpas dau brif faes, sef athroniaeth yr ugeinfed ganrif (yn enwedig meddylwyr megis Martin Heidegger, Maurice Blanchot, Martin Buber, Jacques Derrida, J.R. Jones) a llenyddiaeth Gymraeg y canol oesoedd (barddoniaeth a rhyddiaith). Digwyddiad pwysig sy'n clymu'r meysydd hyn ynghyd yw cyfieithiad Martin Buber o Bedair Cainc y Mabinogi yn 1914, ac rwyf wedi bod yn edrych ar y croes-ffrwythloni cysyniadol rhwng y chwedlau Cymraeg a'r traddodiadau dyneiddiol-Hasidig. Rwyf erbyn hyn yn edrych yn benodol ar gysyniadau o amser, cronoleg a hanesyddiaeth yn llên ganoloesol y Gymraeg a'r Wyddeleg. Mae'r prosiect diweddaraf hwn yn archwilio nid yn unig agweddau megis y deictig ond hefyd y ffyrdd y mae ffurfiau llenyddol a throsiadau rhethregol yn mynegi profiadau cysyniadol (ac anghysyniadol) o amser, lle, tragwyddoldeb ac iwtopia. Rwyf wrthi hefyd yn paratoi cyflwyniad hygyrch i Athroniaeth Llenyddiaeth, i'w gyhoeddi ar ffurf llyfr. Hwn fydd y cyflwyniad cyntaf o'i fath yn y Gymraeg, ac yn trafod llên Cymru yn benodol. |
I study the Celtic-language literatures in general – and Welsh and Irish in particular. My interest in comparative methodology leads me also towards thinking in the context of the Slavic languages (especially Polish), and minoritised European cultures. In both my own research, and PhD supervision, I have a particular interest in work with a theoretical drive: my research (see details of publications, and conferences) is located between philology and the philosophy of language / art. I am particularly interested in fields such as prophecy, multilingualism, translation, poetics and aesthetics, and ecocriticism. Recently, my research has been moving in two main areas: the philosophy of the twentieth century (especially figures such as Martin Heidegger, Maurice Blanchot, Martin Buber, Jacques Derrida, J.R. Jones) and medieval Welsh literature. A central event that brings these threads together is Martin Buber's translation of the Four Branches of the Mabinogi (Die vier Zweige des Mabinogi) in 1914, and I have been looking at conceptual cross-fertilization between the Welsh legends and humanist-Hasidic traditions. I am currently looking specifically at concepts of time, temporality and historiography in medieval Welsh and Irish literature. This latest project explores not only features such as the deictic but also the ways in which literary forms and rhetorical tropes express conceptual (and aconceptual) experiences of time, place, timelessness and the utopian. I shall soon be publishing an accessible introduction to the Philosophy of Literature. This will be written in Welsh and focussed on the literature of Wales. |
Research areas and keywords
Keywords
- BH Aesthetics
- PG Slavic, Baltic, Albanian languages and literature
- PN0080 Criticism
Education / academic qualifications
- 2011 - PhD (2005 - 2011)
- 2007 - MA (2005 - 2007)
- 2000 - MPhil (1997 - 2000)
- 1996 - BA (1993 - 1996)
Research outputs (28)
- Accepted/In press
Poets, Language, Grammar, Death: Reading 'Beirdd y Tywysogion' with Heidegger
Research output: Chapter in Book/Report/Conference proceeding › Chapter
- Accepted/In press
'Cyn iddynt Fyn’d ar Ddifancoll’: Gweledigaeth y Ffotograffydd John Thomas o Gymru Oes Fictoria
Research output: Book/Report › Book › peer-review
- Published
Adolygiad o Mererid Hopwood, Dychmygu Iaith (Gwasg Prifysgol Cymru, 2022)
Research output: Contribution to journal › Book/Film/Article review
Prof. activities and awards (58)
140 Years of Legends: Arthurian and Celtic Collections, Scholarship and the Community
Activity: Other › Types of Public engagement and outreach - Media article or participation
Rhaglen Aled Hughes
Activity: Talk or presentation › Oral presentation
Harvard University
Activity: Visiting an external institution › Visiting an external academic institution