Dr Dyfrig Jones

Uwch Darlithydd yn Astudiaethau'r Cyfryngau a Chynhyrchu

Trosolwg

Penodwyd Dyfrig Jones yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Bangor yn Medi 2008. Cyn ymuno a Phrifysgol Bangor, bu'n gweithio fel cynhyrchydd-gyfarwyddwr teledu, gan arbenigo mewn rhaglenni ffeithiol. Roedd hefyd yn olygydd ar gylchgrawn materion cyfoes Barn rhwng 2006 a 2009.

Mae gwaith dysgu Dyfrig yn canolbwyntio ar ffilmiau dogfen, gan gynnig modiwlau ar sut i'w cynhyrchu a'u dadansoddi. Mae hefyd yn cynnig modiwlau ar hanes y cyfryngau a pholisi'r cyfryngau.

Prif ddiddordeb ymchwil Dyfrig yw datblygiad hanesyddol darlledu cyhoeddus, gan ganolbwyntio ar Unol Daleithiau America yn ystod canol yr Ugeinfed Ganrif. 

Rhwng 2009 a 2013 roedd Dyfrig yn aelod o Awdurdod S4C, sef y corff sydd yn gyfrifol am ddarparu'r gwasanaeth teledu Cymraeg. Yn ystod 2010 bu'n cadeirio Fforwm Cyfryngau Newydd S4C, ac yn 2012-2013 roedd yn un o gyfarwyddwyr S4C Masnachol. Rhwng 2015 a 2019 roedd   Dyfrig Jones yn aelod o Fwrdd Ymddiriedolwyr Llyfrgell Genedlaethol Cymru. A bu'n aelod o Gyngor Gwynedd rhwng 2008 a 2017, gan wasanaethu fel Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Corfforaethol rhwng 2014 a 2016.

 

Dyfrig yw Cadeirydd Partneriaeth Ogwen, menter gymdeithasol wedi ei lleoli yn Nyffryn Ogwen sydd yn gweithio i wella economi ac amgylchedd yr ardal. Rhwng 2013 a 2023 bu'n Gadeirydd Bwrdd Rheoli Neuadd Ogwen, sef canolfan gelfyddydol gymunedol ym Methesda. 

Cyhoeddiadau (13)

Gweld y cyfan

Gweithgareddau a dyfarniadau proffesiynol (6)

Gweld y cyfan

Anrhydeddau (1)

Gweld y cyfan

Gweld graff cysylltiadau