Mrs Eifiona Wood

Uwch Gymrawd Ymchwil

Trosolwg

Mae Eifiona yn Uwch Gymrawd Ymchwil mewn Ffarmacoeconomeg yn y Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau (CHEME) ym Mhrifysgol Bangor. Mae ganddi radd Baglor mewn Fferylliaeth o Sefydliad Gwyddoniaeth a Thechnoleg Prifysgol Cymru, Caerdydd (1992) ac yn 2005 cwblhaodd radd Meistr mewn Economeg a Rheolaeth Iechyd ym Mhrifysgol Sheffield.

Ar ôl graddio o Gaerdydd, treuliodd Eifiona 8 mlynedd fel fferyllydd ysbyty yn arbenigo mewn oncoleg, darparu gwasanaethau clinigol, cyllid a chymorth busnes yn y DU ac yn Awstralia. Yn dilyn ymlaen o hyn, dilynodd Eifiona yrfa mewn economeg iechyd yn y diwydiant fferyllol ac yn yr amgylchedd ymgynghori, gan weithio ar ystod eang o brosiectau gan gynnwys datblygu ac addasu modelau economaidd iechyd, modelau effaith cyllideb, astudiaethau cost salwch, cyflwyniadau HTA, cyffuriau amddifad (orphan drugs) a dadansoddiadau amgylcheddol.

Mae hi'n brofiadol mewn amrywiaeth o feysydd therapi gan gynnwys oncoleg, niwroleg, anadlu, ffrwythlondeb ac iechyd meddwl. Mae gan Eifiona brofiad eang hefyd o ddatblygu gwerth cyfathrebu, llawysgrifau a phosteri, ac mae wedi cyd-awduro papurau a adolygwyd gan gymheiriaid mewn economeg iechyd.

Ymunodd Eifiona â CHEME yn 2015, ac ar hyn o bryd mae'n gweithio ar ystod o brosiectau ffarmaco-economaidd, gan gynnwys treial NERVES (sciatica), astudiaeth CF Start (ffibrosis systig) a'r astudiaeth CASTLE (plant gyda epilepsi) . Mae hi hefyd yn cynnal adolygiad cymheiriaid o gyflwyniadau Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan ac yn darparu cefnogaeth economaidd iechyd i Ganolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan.

 

Addysg / cymwysterau academaidd

  • 2005 - MSc
  • 1992 - BSc

Gweithgareddau a dyfarniadau proffesiynol (14)

Gweld y cyfan

Gweld graff cysylltiadau