Ms Elen Bonner

Swyddog Ymchwil, Tutor

Contact info

Swydd: Ymchwilydd, Tiwtor ac Ymgeisydd PhD. 

E-bost: emp404@bangor.ac.uk

Manylion Cyswllt

Swydd: Ymchwilydd, Tiwtor ac Ymgeisydd PhD. 

E-bost: emp404@bangor.ac.uk

Trosolwg

Mae Elen Bonner yn Ymchwilydd Ddoethuriaeth ym Mhrifysgol Bangor gydag arbenigedd penodol mewn astudio’r berthynas rhwng yr economi, mudo a’r Gymraeg. Mae hi’n ddeiliad Ysgoloriaeth Martin Rhisiart drwy law'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Fel rhan o’i gwaith doethuriaeth cynhaliodd adolygiad systematig o’r hyn sy’n wybyddus am ddylanwad gwahanol ddimensiynau o’r economi ar y Gymraeg ynghyd a datblygu teipoleg unigryw sy’n cyfleu’r hyn sy’n gyrru penderfyniadau siaradwyr yr iaith mewn perthynas â mudo. Dyma’r adolygiad llenyddol mwyaf cyfredol a chynhwysfawr ar ddylanwad yr economi ar y Gymraeg.

Mae hi wedi cyflwyno ei gwaith i fforymau amrywiol gan gynnwys ‘Rhwydiaith’, sef rhwydwaith sy’n cael ei gydlynu gan Gymdeithas Llywodraethau Leol Cymru ar gyfer swyddogion iaith, yn ogystal â chyfrannu tuag at gyfarfodydd gyda swyddogion Llywodraeth Cymru ac Arfor.

Yn ddiweddar, mae Elen wedi bod yn gweithio fel cynorthwyydd ymchwil ar brosiectau sy’n archwilio i ddefnydd cymunedol o’r Gymraeg a dylanwad y sector dwristiaeth ar iaith. Mae hyn, ynghyd â’i phrofiad fel myfyriwr PhD, wedi meithrin sgiliau ymchwilio cryf gan gynnwys archwilio llenyddiaeth, creu offer ymchwil, casglu a dadansoddi data ansoddol a chyflwyno gwaith ymchwil i gynulleidfaoedd amrywiol. Ar hyn o bryd mae’n gweithio fel ymchwilydd ar brosiect a gyllidwyd drwy Gronfa Her Arfor sy’n mynd i'r afael â’r her o recriwtio staff dwyieithog.

Cyfranna Elen i arlwy dysgu’r Brifysgol fel tiwtor Cymdeithaseg cyfrwng Cymraeg.

 

Teaching and Supervision (cy)

Is-raddedig

SCS1004 - Cymdeithaseg a'r Byd Cyfoes

SCU2001 - Dulliau Ymchwil

SCS3010 - Hawliau Ieithyddol 

SCU1006 - Rhaniadau Cymdeithasol

 

Addysg / cymwysterau academaidd

Gweld graff cysylltiadau