Dr Eleri Jones

Darlithydd mewn Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff

Contact info

Ebost:eleri.s.jones@bangor.ac.uk

Ffon: 01248388415

Rwy'n ddarlithydd ac yn ymchwilydd mewn Seicoleg Chwaraeon, gyda diddordeb mewn mecanweithiau pryder a chysyniadoli ymateb pryder mewn chwaraeon. Rwyf hefyd yn ymchwilio i iechyd meddwl mewn athletwyr, benderfynyddion seicolegol athletwyr rygbi undeb, chwaraeon anabledd ac effaith aml-ieithyddiaeth mewn chwaraeon.

Trosolwg

Yn dilyn gradd israddedig mewn Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff (BSc, Lerpwl John Moores), a Meistr mewn Seicoleg Chwaraeon ac Ymarfer Cordd (MSc, Prifysgol Bangor), cwblhaodd Eleri ai PhD yn 2013 o dan oruchwyliaeth yr Athro Richard Mullen (Prifysgol Morgannwg). Wrth astudio am ei PhD, bu Eleri hefyd yn gweithio fel Darlithydd mewn Seicoleg Chwareon a Hyforddi Chwaraeon ym Mhrifysgol Morgannwg (2008-2014). Penodwyd Eleri fel darlithydd Coleg Cymraeg Cenedlethol yn Ysgol Gwyddorau Chwareon, Iechyd ac Ymarfer Corff, Prifysgol Bangor yn 2014. 

Mae ymchwil Eleri yn canolbwyntio ar bryder perfformiad a sut mae athletwyr yn perfformio o dan bwysau. Mae ganddi hefyd ddiddordebau ymchwil mewn personoliaeth, hyfforddi, chwaraeon anabledd a dwyieithrwydd mewn chwaraeon a dysgu. Yn ogystal â'i diddordebau addysgu ac ymchwil, mae Eleri hefyd wedi'i achredu gyda Chymdeithas Gwyddoniaeth Chwaraeon ac Ymarfer Prydain ac mae'n cefnogi athletwyr ieuenctid ac uwch mewn amrywiaeth o chwaraeon.

Eleri yw Arweinydd yr ysgol ar gyfer Cydraddoldeb, Amrywiaeth ac Athena Swan ac mae'n angerddol iawn am gefnogi gwaith yn y maes hwn ar draws yr ysgol. Arweinioedd yn llwyddianus gais am wobr Athena Swan i'r Gwyddorau Chwaraeon yn 2020. 

Teaching and Supervision (cy)

  • Ymddygiad Seicomodurol (Blwyddyn 1)
  • Sgiliau Academaidd (Blwyddyn 1)
  • Dulliau Ymchwil (Blwyddyn 1 a 2)
  • Seicoleg Chwaraeon Cymhwysol (Blwyddyn 2)
  • Straen a Pherfformiad (Blwyddyn 3)
  • Ymchwil yn Sgiliau Seicolegol (Blwyddyn 3)
  • Astudiaeth Annibynol (Meistr)

Mae Eleri yn arweinydd modiwl ar gyfer modiwl Seicoleg Chwaraeon Cymwhysol (Blwyddyn 2). Mae Eleri hefyd yn gorchwylio nifer o myfyrwyr ar modiwlau; Cynnig Prosiect (Blwyddyn 2), Prosicet Ymchwil (Blwyddyn 3 a MSc), Traethawd Hir (Blwyddyn 3 a MSc) a Astudiaeth Annibynol (Meistr). 

Gorchwyliaeth PhD - Jessica Mullan (2017 - presennol); Charlotte Hillyard (2017 - presennol, ar y cyd a Phrifysgol De Cymru).

 

Diddordebau Ymchwil

Mae fy ymchwil yn canolbwyntio ar seicoleg perfformiad ac yn benodol cefnogi athletwyr elitaidd. Mae gen i ddiddordeb arbennig mewn pryder perfformiad a deall agweddau ar sut y gall unigolion lwyddo mewn amgylcheddau cystadleuol chwaraeon. Mae hyn yn cynnwys creu modelau cyfoes a mesur pryder perfformiad fel y gallwn brofi theori yn gywir a chefnogi athletwyr mewn lleoliadau dan bwysau. Mae gen i ddiddordeb hefyd yn y berthynas rhwng pryder perfformiad a phersonoliaeth yn ogystal â sut mae defnydd cyfryngau cymdeithasol yn effeithio ar bryder perfformiad athletwyr.


Mae gen i ddiddordebau ymchwil hefyd mewn deall mynychder a mathau iechyd meddwl athletwyr elitaidd, gan gynnwys sut i gefnogi athletwyr mewn amgylcheddau perfformiad uchel. Rwyf hefyd yn cynnal ymchwil mewn datblygiad seicolegol athletwyr, chwaraeon anabledd, a dwyieithrwydd mewn chwaraeon.

Manylion Cyswllt

Ebost:eleri.s.jones@bangor.ac.uk

Ffon: 01248388415

Rwy'n ddarlithydd ac yn ymchwilydd mewn Seicoleg Chwaraeon, gyda diddordeb mewn mecanweithiau pryder a chysyniadoli ymateb pryder mewn chwaraeon. Rwyf hefyd yn ymchwilio i iechyd meddwl mewn athletwyr, benderfynyddion seicolegol athletwyr rygbi undeb, chwaraeon anabledd ac effaith aml-ieithyddiaeth mewn chwaraeon.

Addysg / cymwysterau academaidd

  • 2016 - Profesiynol
  • 2014 - Profesiynol
  • 2013 - PhD , Seicoleg Chwaraeon
  • 2007 - MSc
  • 2006 - BSc

Cyhoeddiadau (14)

Gweld y cyfan

Gweithgareddau a dyfarniadau proffesiynol (1)

Gweld y cyfan

Gweld graff cysylltiadau