Dr Iwan Llewelyn Jones
Senior Lecturer
Trosolwg
Bywgraffiad
Magwyd Iwan yn Ynys Môn gan dderbyn ei addysg ym Mhrifysgol Rhydychen a’r Coleg Cerdd Brenhinol yn Llundain, lle’r enillodd sawl ysgoloriaeth a gwobr am ei berfformiadau a’i ysgolheictod academaidd. Mae wedi cyflwyno datganiadau unawdol yn neuaddau gyngerdd enwoca’r byd, megis Wigmore Hall, Neuadd Dewi Sant, Y Tŷ Opera yn Sydney, a’r Gewandhaus yn Leipzig.
Fel unawdydd cyngerdd, mae Iwan wedi ennill clod a pharch am ei ddehongliadau deallus o gerddoriaeth Ffrengig. Yn ddiweddar derbyniodd Iwan ysgoloriaethau oddi wrth Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Paris-Sorbonne i gyflawni ymchwil doethurol ar bianyddiaeth y cyfansoddwr Maurice Ravel. Mae ei recordiadau yn cynnwys casgliadau o gerddoriaeth unawdol i’r piano gan Debussy, Ravel, Fauré, Chabrier, Poulenc a Messiaen (‘Portreadau Ffrengig’) ynghyd â chryno ddisg o gerddoriaeth Cymraeg sy'n cynnwys gweithiau a gyfansoddwyd ar ei gyfer gan Alun Hoddinott , John Metcalf , Richard Elfyn Jones, Pwyll ap Sion a Syr Karl Jenkins.
Derbyniodd gryn ganmoliaeth am ei ddisg ‘Caneuon heb eiriau’, sef casgliad o ganeuon adnabyddus Cymraeg, wedi’u trefnu a’u perfformio gan Iwan, a gyhoeddwyd yn 2011. Fe fydd cryno ddisg o berfformiadau byw o weithiau Frédéric Chopin yn cael ei rhyddhau yn 2017 ynghyd â’r recordiad cyntaf o drefniant Iwan o’r Consierto Op. 11 ar gyfer piano unawdol. Mae Iwan wedi derbyn sawl anrhydedd gan gynnwys Gwobr Syr Geraint Evans er clod am ei gyfraniad sylweddol i gerddoriaeth yng Nghymru, Ysgoloriaeth Cymry Creadigol gan y Cyngor Celfyddydau, Llywyddiaeth Ymddiriedolaeth Gerdd Ynys Môn ac Is-lywyddiaeth Canolfan Gerdd William Mathias. Yn 2016 Iwan oedd Cyfarwyddwr Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru a gynhaliwyd yn Galeri Caernarfon.
Yn dilyn astudiaethau doethurol ar bianyddiaeth Maurice Ravel ym Mhrifysgol Caerdydd a’r Université de Paris-Sorbonne fe dderbyniodd Iwan radd doethur mewn perfformio a cherddoreg ac fe’i apointiwyd fel Cyfarwyddwr Perfformio ym Mhrifysgol Bangor. Yn Hydref 2018 bu’n ymweld a Tseina i roi cyfres o gyngherddau a dosbarthiadau meistr yn Beijing, Shanghai a Guangzhou.
Personol
Teaching and Supervision (cy)
Personol
IWAN LLEWELYN-JONES
REVIEWS OF PERFORMANCES OF FRENCH SOLO PIANO MUSIC
Cesar Franck: Prelude Choral et Fugue - his playing had breadth and power and succeeded in bringing to the contrapuntal arguments a flair and a sense of instinctively realised keyboard colour which reinforced both the music’s strength and its detailed effect. Wigmore Hall, London (Daily Telegraph)
Gabriel Fauré: Theme and Variations Op.73 - the power and clean-cut precision of his playing brought out by sparing and beautifully-judged pedalling had all the more impact for being so regularly set against daringly gentle pianissimos of jewelled clarity. Wigmore Hall, London (The Guardian)
Maurice Ravel: Sonatine - the lovely liquidity of sounds which characterises Iwan Llewelyn- Jones’s approach to French music flowed abundantly with some delightful coloristic effects. St David’s Hall, Cardiff (Musical Opinion)
Olivier Messiaen: Le baiser de l’Enfant-Jésus - a continuously sustained concentration of outstanding technique and thought.
Ravel: Scarbo (Gaspard de la nuit) - an impressive command of the keyboard, from a fine feathering of the fingers in crossover hands to a sinister sonority of chords. Wigmore Hall, London (The Times)
Henri Dutilleux: Sonate - is a much darker work and the first of the evening to demonstrate a level of virtuosity by Llewelyn-Jones that was jaw dropping. (Aberdeen Evening Express)
Addysg / cymwysterau academaidd
- 2021 - Profesiynol
- 2018 - Profesiynol , Prifysgol Bangor
- 2016 - PhD
- 1984 - MA , Diploma Perfformio Uwch
- 1981 - BA , BA mewn Cerddoriaeth
- 1977 - Profesiynol
Gweithgareddau a dyfarniadau proffesiynol (1)
Cerddoriaeth a Barddoniaeth: Canolfan Ucheldre, Caergybi
Gweithgaredd: Sgwrs neu gyflwyniad › Sgwrs wadd