Dr Myfanwy Davies

Darlithydd

Contact info

 

Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddor Cymdeithas/Unded Sicrhau Ansawdd

01248 382140

@DrMyfanwyDavies

Manylion Cyswllt

 

Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddor Cymdeithas/Unded Sicrhau Ansawdd

01248 382140

@DrMyfanwyDavies

Teaching and Supervision (cy)

Mae fy addysgu'n olrhain prosesau ac arferion ffurfio polisi oddi fewn DU ddatganoledig gyda phwyslais arbennig ar iechyd yng Nghymru. Mae hefyd yn tynnu sylw at safbwyntiau amlddisgyblaeth i ddeall y profiad o gaethineb (at sylweddion neu ymddygiad) ac i alluogi myfyrwyr i ymgysylltu'n feirniadol â'r hyn y mae'n ei olygu i adfer neu wella o caethiwed

 

Llywodraethiant: Iechyd a Lles

 

Cyflwynwyd fy modiwl arloesol ar Lywodraethiant o fewn Iechyd a Lles yn 2016. Mae’r archwilio polisi ac ymarfer gan ganolbwyntio ar gysyniadau allweddol megis cyfrifoldeb, cymdeithas sifil, y "cafnu’r wladwriaeth", partneriaeth, cyfranogiad y cyhoedd, dyrchafu’r syniad o ‘”ddinasyddiaeth weithredol”(active citizenship) a defnyddio targedau a chymhellion i yrru ymddygiad ymarferwyr.

 

 

Y Corff Caeth/The Addicted Body –cyd-awdur gyda Dr. Paul Carre

 

Gan ddefnyddio damcaniaethau cyfoes ar Y Corff gan gynnwys ffenomenoleg a llywodraetholdeb (Governmentality), mae'r modiwl hwn yn archwilio ystod o gaethinebau (addictions). Mae'n ystyried y profiad o ymgorfforiad (embodiment) a rôl symbolaidd y corff yn y gymdeithas fel ffordd o drafod profiadau unigolion o gyflyrau mor amrywiol â chaethineb i gyffuriau neu alcohol, anorecsia neu gaethineb at y we (internet addication) a chaethineb rhyw, a’r rhesymau dros ymddangosiad y cyflyrau hynny. Mae hefyd yn cyflwyno ddealltwriaeth biofeddygol a bioseicogymdeithasol (biopsychosocial) o gaethineb ac adferiad. Gan ddefnyddio theori Boudiewsaidd a dulliau ethnograffig, mae’n cyflwyno cyd-destun diwylliannol a chymdeithasol ymddygiad caethiwus a'r amodau byw a greir trwy’r “fusnes cyffuriau” a’r ymyrraethau polisi a ddaw yn sgil hynny o fewn ardaloedd penodol.

 

Traethawd Hir (3ydd Blwyddyn) Cyd-lynydd Modiwl

Ar hyn o bryd mae pob fyfyriwr israddedig o fewn yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol yn paratoi traethawd hir yn ystod blynyddoedd 2 a 3. Tra bod myfyriwr wedi eu paru â goruchwyliwr bydd yn cwrdd â hwy yn rheolaidd i gynnig cyngor ac adborth, mae dewis y pwnc yn agored a disgwylir i fyfyrwyr ddatblygu eu gwaith yn annibynnol i raddau helaeth. Fel cydlynydd modiwl ar gyfer y modiwl traethawd hir cyfrwng Cymraeg, rwy'n paratoi cyfres o weithdai gyda’r bwriad o addysgu myfyrwyr gyflawni ymchwil annibynnol. Cynnwys y rhain addysgu ar llunio a datblygu cwestiwn ymchwil, casglu a dadansoddi data a chynnig cyngor o ran paratoi'r drafft terfynol.

 

Prosiectau PhD

Mae fy mhrosiectau goruchwylio presennol yn cynnwys astudiaeth ethnograffig o anabledd a gwaith o fewn rhwydwaith teuluol (Williams), astudiaeth bywgraffyddol o hunaniaeth a’r cysyniad o ofal ‘person-ganolig’ ofewn sefyllfa deuluol, profiadau cleifion strôc sydd a’r Gymraeg fel iait gyntaf o ran triniaeth a chefnogaeth(ap Gruffydd) a chyd-destun diwylliannol dewisiadau cerddoriaeth poblogaidd ymysg dwy genhedlaeth yng Ngwynedd (ap Rhisiart).

 

Diddordebau Ymchwil

Mae gennyf ddiddordeb hirdymor yng nghyd-destun diwylliannol a chymdeithasol y penderfyniadau a wneir gan unigolion o fewn Iechyd a Lles. Dyddia hyn yn ôl degwadau i fy nhraethawd hir MSc. ar hanesion menywod Somali o fewn gwasanaethau mamolaeth (gweler y rhestr gyhoeddiadau). Yn fwy diweddar, rwyf wedi defnyddio fframwaith Bourdieusaidd i ddeall dewisiadau megis brechu a phenderfyniadau o ran iechyd rhyw (gweler hefyd oruchwyliaethau). Mae gennyf ddiddordeb yn y profiad o 'fyw polisi' er enghraifft ymhlith y rheiny sy'n derbyn budd-daliadau (o wahanol fathau) lles, ymysg mamau ifanc a mamau fel phenderfynwyr gofal ac iechyd plant (gweler prosiectau ymchwil cyfredol). Rwyf hefyd yn cyfrannu at waith cydweithredol sy'n asesu sut mae llywodraethau yn lleoli eu hunain o ran syniadau megis cyfrifoldeb torfol ac unigol, cydraddoldeb, hawliau a ‘gwerth am arian’ trwy ddadansoddiad discwrs o ddogfennau polisi allweddol. 

Cyhoeddiadau (17)

Gweld y cyfan

Gweithgareddau a dyfarniadau proffesiynol (2)

Gweld y cyfan

Gweld graff cysylltiadau