Professor Nancy Edwards

Emeritus Professor

Contact info

Bywgraffiad

Cefais fy mhenodi’n Ddarlithydd mewn Archaeoleg Ganoloesol Gynnar ym Mangor yn 1979 a dod yn Athro Archaeoleg Ganoloesol yn 2008. Ymddeolais ym mis Rhagfyr 2020 ac rwyf bellach yn Athro Emeritws Archaeoleg Ganoloesol. Rwy'n parhau i oruchwylio rhai myfyrwyr ymchwil.

Rwyf yn Gymrawd yr Academi Brydeinig, yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru ac yn Gymrawd Cymdeithas yr Hynafiaethwyr. Rwy'n Athro Anrhydeddus ym Mhrifysgol Caerdydd ac ym Mhrifysgol Durham.

Cwblheais BA mewn Archeoleg, Hanes Hynafol a'r Oesoedd Canol ym Mhrifysgol Lerpwl yn 1976. Yna symudais i Brifysgol Durham lle cefais PhD mewn Archeoleg. Roedd fy nhraethawd ymchwil yn archwilio cerflunwaith canoloesol cynnar yng Nghanolbarth Iwerddon.

 

Ymchwil

Mae fy ymchwil yn amlddisgyblaethol ac yn rhychwantu Archeoleg, Hanes a Hanes Celf. Mae gennyf ddiddordeb neilltuol  yn yr oesoedd canol cynnar yng Nghymru c.400–1100 OC. Mae gen i ddiddordeb parhaus hefyd yn Iwerddon a'r Alban ganoloesol gynnar yn ogystal ag agweddau ar hanes archeoleg.

Fy llyfr, Life in Early Medieval Wales (a ariannwyd gan Brif Gymrodoriaeth Ymchwil Leverhulme), wedi ei gyhoeddi gan Wasg Prifysgol Rhydychen yn 2023.

 

Mae llawer o’m hymchwil yn parhau i ganolbwyntio ar gerrig arysgrifedig a cherfluniau cerrig canoloesol cynnar yng Nghymru. Mae gen i ddiddordeb nid yn unig yn yr henebion eu hunain ond hefyd yn eu cyd-destunau yn y dirwedd a'r hyn y gallant ei ddweud wrthym am y gymdeithas ganoloesol gynnar, hunaniaeth, yr Eglwys, nawdd a chyfoeth. Rwyf wedi cyhoeddi dwy gyfrol o’r gyfres A Corpus of Early Medieval Inscribed Stones and Stone Sculpture in Wales, Volume II, South-West Wales (2007); Volume III, North Wales (2013).

Ar hyn o  bryd rwy’n gweithio, gyda Gary Robinson (Prifysgol Bangor) a Howard Williams (Prifysgol Caer), ar fywgraffiad o Golofn Eliseg o'r nawfed ganrif. Rwyf hefyd wedi datblygu diddordeb yng ngraffiti’r oesoedd canol cynnar fel rhan o’m hymchwil ar y casgliad o gerfluniaeth o Gapel Sant Padrig, ger Tyddewi.

Areas of Teaching & Supervision

 

  1. 2015
  2. Image and Reality in Medieval Weaponry and Warfare: Wales c.1100 – c.1450

    Awdur: Colcough, S., 24 Awst 2015

    Goruchwylydd: Edwards, N. (Goruchwylydd) & Pryce, H. (Goruchwylydd)

    Traethawd ymchwil myfyriwr: Doethur mewn Athroniaeth

  3. 2012
  4. Enamelwork from early Anglo-Saxon contexts

    Awdur: Dane, C., Ion 2012

    Goruchwylydd: Edwards, N. (Goruchwylydd)

    Traethawd ymchwil myfyriwr: Doethur mewn Athroniaeth

  5. 2005
  6. The evolution and role of burial practice in Roman Wales

    Awdur: Pollock, K., Ion 2005

    Goruchwylydd: Edwards, N. (Goruchwylydd)

    Traethawd ymchwil myfyriwr: Doethur mewn Athroniaeth