Dr Peredur Webb-Davies

Uwch Ddarlithydd mewn Ieithyddiaeth (Dwyieithrwyd)

Trosolwg

Yn enedigol o Ynys Môn, cefais fy addysg gynnar yng Nghymru cyn mynd i brifysgol yn Lloegr. Roedd fy nghwrs gradd mewn Astudiaethau Eingl-Sacsoneg, Norseg a Chelteg yng Ngholeg Queens’, Prifysgol Caergrawnt, lle yr arbenigais mewn iaith a llên Cymraeg Canol ac hen ieithoedd a llên Germanaidd, yn enwedig Hen Saesneg. Yn ogystal, cwblheais MPhil yn y maes hwn yn 2004, gan ysgrifennu fy nhraethawd estynedig ar semanteg Hen Saesneg (ar wahanol eiriau am geffylau). Ar ôl gweithio am gyfnod byr fel cynorthwyydd ymchwil yn Ysgol y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor, dechreuais PhD mewn Ieithyddiaeth ym Mangor yn 2005, gyda’r Athro Margaret Deuchar fel fy nghoruchwyliwr. Graddiais yn 2010. Ffocws fy ymchwil PhD oedd dwyeithrwydd a chyfnewid côd, sef y ffenomen o fewnosod geiriau o un iaith i mewn i frawddeg o iaith arall - rhywbeth hynod gyffredin mewn Cymraeg llafar anffurfiol.

Rydw i wedi bod yn aelod o staff Ieithyddiaeth Bangor ers 2009, yn gyntaf fel Cymrawd Dysgu cyfrwng Cymraeg, yna o fis Medi 2012 fel Darlithydd mewn Ieithyddiaeth Gymraeg, yn cael fy ariannu’n bennaf yn y ddwy swydd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Yn 2016 cefais fy nyrchafu i Uwchddarlithydd mewn Ieithyddiaeth (Dwyieithrwydd). Ar hyn o bryd rydw i'n aelod o staff Adran Ieithyddiaeth, Iaith Saesneg a Dwyieithrwydd o fewn Ysgol Iaith, Diwylliant a'r Celfyddydau.

Diddordebau Ymchwil

Mae ffocws fy niddordebau ymchwil ar ddwyieithrwydd (yn bennaf yn y cyd-destun Cymraeg a Chymreig), yn enwedig mewn cyfnewid cod Cymraeg-Saesneg ac mewn ieithyddiaeth cyffwrdd iaith, yn benodol effaith cyffwrdd iaith ar ramadeg ieithoedd lleiafrifol, gan ganolbwyntio ar y Gymraeg. Yn gyffredinol mae diddordeb gennyf mewn sosioieithyddiaeth, yn enwedig amrywiaeth gramadeg, ac rydw i wedi cyhoeddi ar amrywiaeth gramadeg a newid gramadeg yn y Gymraeg oherwydd cyffwrdd gyda'r Saesneg. Mae hefyd gennyf ddiddordeb mewn ieithyddiaeth hanesyddol, yn bennaf yn yr ieithoedd Celtaidd a Germanaidd.

Yn ogystal a hyn rydw i'n awdur, yn bennaf drwy'r Gymraeg. Cafodd fy llyfr arswyd cosmig Pumed Gainc y Mabinogi ei gyhoeddi yng ngwanwyn 2022.

Teaching and Supervision (cy)

Yn bennaf rydw i’n dysgu modiwlau drwy gyfrwng y Gymraeg yn yr Ysgol, yn enwedig yn ymwneud â dwyieithrwydd, ac hefyd modiwlau cyfrwng Saesneg ar sosioieithyddiaeth, Ieithyddiaeth Gymraeg ac/neu Ieithyddiaeth Hanesyddol, yn dibynnu ar eu hargaeledd. Mae’r pynciau rydw i’n ddysgu yn cynnwys trosolygion cyffredinol o ramadeg ac ieithyddiaeth y Gymraeg, agweddau ar ddwyieithrwydd (o ran gramadeg a chymdeithas), ieithyddiaeth hanesyddol a newid iaith, a sosioieithyddiaeth.

Mae'n well gennyf arolygu pynciau traethawd hir yn y meysydd uchod ac/neu mewn meysydd sy'n ymwneud â fy niddordebau ymchwil (fel a ddisgrifir ar y dudalen hon), ac mae gennyf ddiddordeb penodol mewn arolygu myfyrwyr ar bynciau mewn gramadeg Cymraeg, newid iaith Cymraeg a/neu dwyieithrwydd mewn sefyllfa iaith leiafrifol.

Cyhoeddiadau (21)

Gweld y cyfan

Gweithgareddau a dyfarniadau proffesiynol (25)

Gweld y cyfan

Anrhydeddau (1)

Gweld y cyfan

Sylw ar y cyfryngau (8)

Gweld y cyfan

Gweld graff cysylltiadau