Dr Prysor Williams

Uwch Ddarlithydd mewn Rheolaeth Amgylcheddol

Contact info

Lleoliad: F5a Thoday, Ysgol y Gwyddorau Naturiol ac Amgylcheddol, Prifysgol Bangor

E-bost: prysor.williams@bangor.ac.uk

Ffôn: 01248 382 637

X/Twitter: @PrysorWilliams

Manylion Cyswllt

Lleoliad: F5a Thoday, Ysgol y Gwyddorau Naturiol ac Amgylcheddol, Prifysgol Bangor

E-bost: prysor.williams@bangor.ac.uk

Ffôn: 01248 382 637

X/Twitter: @PrysorWilliams

Teaching and Supervision (cy)

Rwyn'n Gyfarwyddwr Cwrs ar gyfer y graddau BSc ac MEnvSci mewn Gwyddorau'r Amgylchedd. 

Rwy'n Gadeirydd y Panel Daearyddiaeth, Amaeth a'r Amgylchedd i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. 

Rwy'n eistedd ar Grŵp Gweithredu Ansawdd Cwriciwlwm Prifysgol Bangor. 

Trefnydd modiwlau: 

  • DXX-1002 (Level 4) Environmental Management & Conservation
  • DXX-3402 (Level 6) Waste Management & Utilisation
  • DXX-4101 (Level 7) Master of Env. Science Dissertation

Cyfrannwr i'r modiwlau:

  • DXC/X-1000 (Lefel 4) Tiwtorialau Academaidd / Academic Tutorials
  • ONC-1001 (Lefel 4) Dadansoddi Data Amgylcheddol
  • DXC/X-1006 (Lefel 4) Gwaith Maes / Fieldwork: Eryri
  • DXX-2002 (Lefel 5) Water, Air & Soil Pollution
  • DXX-2012 (Lefel 5) Field Course: Environmental Conflicts
  • DXX-2000 (Lefel 5) GIS & Research Methods
  • DXC/X-3701 (Lefel 6) Prosiect Ymchwil / Honours Project
  • DXX-3702 (Lefel 6) Management Plan
  • DXX-4102 (Lefel 7) Professional Placement
  • DXX-4999 (Lefel 7) MSc Dissertation
  • DXX-4042 (Lefel 7) Agriculture & the Environment

Cyfleoedd Prosiectau Ol-Raddedig

Mae gennyf ddiddordebau eang yn y maes sy'n pontio amaeth a'r amgylchedd. Dyma rai o'r prif (ond nid yr unig) feysydd:

  • systemau pori 
  • cyrraedd Sero Net mewn systemau da byw
  • rheoli pridd a maethynnau
  • dwysau cynaliadwy systemau da byw
  • defnydd tir a chyflenwi nwyddau cyhoeddus
  • ymwrthedd i wrthfiotigau 

Cysylltwch ar bob cyfrif os ydych am drafod syniadau ar gyfer prosiectau PhD.

Trosolwg

Cefais fy magu ar fferm da byw ucheldir ac rwy’n parhau i ffermio, sy’n rhoi profiad uniongyrchol i mi ar faterion amaethyddol ac amgylcheddol, ochr yn ochr â fy safbwynt academaidd.

Mae gen i ystod eang o ddiddordebau ymchwil ym maes amaethyddiaeth a'r amgylchedd. Mae'r rhain yn canolbwyntio'n bennaf ar systemau da byw, gan gynnwys yr heriau a'r cyfleoedd i gyrraedd allyriadau nwyon tŷ gwydr Sero Net, rheoli adnoddau organig (slyri, tail, ac ati), pathogenau, ymwrthedd i wrthfiotigau, a phriddoedd. Ar ôl gweithio ar sawl prosiect rhyngddisgyblaethol mawr, rwyf hefyd wedi datblygu cryn ddiddordeb yn y trafodaethau parhaus ynghylch defnydd tir (dwysáu cynaliadwy, darparu nwyddau cyhoeddus, ac ati).

Rwyf hefyd wedi bod yn rhan o brosiectau mawr yn ymchwilio i'r potensial ar gyfer arbedion ynni a chynhyrchu ynni o fewn y sector dŵr (https://www.dwr-uisce.eu/) a gweithfeydd ynni dŵr ar raddfa fach (http://hydro-bpt. bangor.ac.uk/).

Rwy’n eistedd ar sawl pwyllgor allanol, gan gynnwys:

  • Cadeirydd Fforwm Newid Hinsawdd y Diwydiant Amaethyddiaeth
  • Aelod o Fwrdd Cyswllt Ffermio
  • Aelod o Weithgor Arloesi ac Ymchwil Cynaliadwy Hybu Cig Cymru
  • Aelod o Fwrdd Menter a Busnes
  • Cadeirydd Partneriaeth Tirwedd y Carneddau
  • Cynrychiolydd Prifysgol Bangor ar y grŵp Global Farm Platform
  • Aelod o Banel Cynghori Gwyddonol Sero Net yr NFU

Cefais Wobr Allanol 2023 gan Undeb Amaethwyr Cymru am “wasanaethau i amaethyddiaeth”.

Byddaf yn ymgysylltu’n aml â diwydiant a’r cyfryngau ar faterion yn ymwneud ag amaethyddiaeth a’r amgylchedd, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.

Addysg / cymwysterau academaidd

  • BSc Gwyddorau'r Amgylchedd
  • PhD: Microbioleg Amgylcheddol (2006) (Survival of E. coli O157 in agricultural environments and the implications for human health)

Cyhoeddiadau (106)

Gweld y cyfan

Gweithgareddau a dyfarniadau proffesiynol (1)

Gweld y cyfan

Gweld graff cysylltiadau