Professor Pwyll Ap Sion

(Cyn-gyflogai)

Trosolwg

Mae Pwyll ap Siôn yn gerddoregydd ac yn gyfansoddwr. Fe astudiodd gerddoriaeth yng Ngholeg Magdalen, Rhydychen, gan raddio yn 1990. Aeth ymlaen i astudio cyfansoddi ym Mhrifysgol Bangor gyda John Pickard a Martin Butler, gan dderbyn ei PhD yn 1998. Mae wedi bod yn aelod staff o'r Adran Gerddoriaeth ers 1993.

Diddordebau Ymchwil

Mae ei ddiddordebau ymchwil a dysgu yn cynnwys minimaliaeth ac ol-finimaliaeth, Michael Nyman, Steve Reich, tonyddiaeth yn yr unfed ganrif-ar-hugain a’r defnydd o ddyfyniadau mewn cerddoriaeth gyfoes. Yn 2014–15 derbyniodd Grant Ymchwil gan yr Academi Brydeinig i gwblhau gwaith ymchwil ar impact cerddoriaeth finimalaidd Americanaidd yn Ewrop yn ystod yr 1970au, ac yn 2016–17 derbyniodd Gymrodoriaeth Ymchwil Leverhulme/Academi i gwblhau ymchwil ar y cyfansoddwr Steve Reich. Cyhoeddir ei gyfrol ar y cyfansoddwr, Rethinking Reich, wedi ei gyd-olygu gyda Sumanth Gopinath, gan Wasg Prifysgol Rhydychen yn 2019.

Yn 2007, cyd-drefnodd y gynhadledd ryngwladol gyntaf o’i bath ar gerddoriaeth finimalaidd, a wnaeth arwain at sefydlu Cymdeithas Cerddoriaeth Finimalaidd. Disgrifiwyd ei gyfrol The Music of Michael Nyman (Ashgate, 2007) yn Music and Letters fel: ‘a groundbreaking study . . . it represents a substantial contribution to musicology’. Cyhoeddodd ddwy gyfrol sylweddol yn 2013: Michael Nyman: Collected Writings a The Ashgate Research Companion to Minimalist and Postminimalist Music, yr ail ar y cyd gyda Keith Potter a Kyle Gann (Routledge).

Mae’n adolygu’n rheolaidd ar gyfer cylchgrawn Gramophone ac wedi cyfrannu erthyglau i The Strad. Derbyniodd wahoddiadau i siarad am gerddoriaeth finimalaidd ar Radio 3 a Radio 4 ac mae wedi traddodi darlithoedd cyhoeddus ar gerddoriaeth Philip Glass a Louis Andriessen yn Nghanolfan y Barbican, Llundain.

Mae Pwyll wedi cyhoeddi ym maes cerddoriaeth yng Nghymru hefyd. Cyhoeddwyd y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru (Companion to Welsh Music), a olygwyd ar y cyd gyda Wyn Thomas, gan Wasg y Lolfa yn 2018, wedi i’r prosiect dderbyn grant sylweddol gan Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Teaching and Supervision (cy)

Arall

Fel cyfansoddwr mae Pwyll wedi derbyn nifer o gomisiynau, gan gynnwys Y Gwenith Gwyn, darn prawf ar gyfer ffidil unawdol ar gyfer cystadleuaeth Ryngwladol Yehudi Menuhin yn 2008 (cyhoeddwyd y sgôr yng nghylchgrawn The Strad), yr Opera/Oratorio Gair ar Gnawd ar gyfer Opera Cenedlaethol Cymru, a Sevi ar gyfer Soprano, Cerddorfa Linynnol a Piano, a berfformiwyd yng Nghymru a Chernyw gan Elin Manahan Thomas yn 2013. Cafodd ei ddarn cerddorfaol Gwales ei gynnwys yn rhaglen Cerddorfa Symffoni Gogledd Carolina yn 2012. Mae hefyd wedi cynhyrchu cerddoriaeth ar gyfer rhaglenni teledu gan gynnwys cyfres Cutting Edge Sianel 4, ynghyd â cherddoriaeth deitl ar gyfer rhaglenni megis Bro, Tipyn o Stâd ac ail-gread Cwmni Da o’r ffilm gyntaf yn Gymraeg, Y Chwarelwr. Yn 2016 derbyniodd ei gylch caneuon Chaotic Angels ei berfformiad cyntaf yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd, gyda Celine Forrest (soprano) a cherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru gyda'r arweinydd Löthar Koenigs, gan dderbyn adolygiad ffafriol yn Bachtrack.

Grantiau a Projectau

Cyhoeddiadau (60)

Gweld y cyfan

Gweld graff cysylltiadau