Dr Rhian Hodges

Uwch Darlithydd Cymdeithaseg a Pholisi Cym / Dirp Gyf Add a Dysgu (Cyf Cymraeg)

Contact info

Swydd: Darlithydd Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol

Ebost: r.s.hodges@bangor.ac.uk

Rhif Ffôn: 01248 383034

Lleoliad: Ystafell 335, Coridor y Prifathrawon, Prif Adeilad y Celfyddydau

Manylion Cyswllt

Swydd: Darlithydd Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol

Ebost: r.s.hodges@bangor.ac.uk

Rhif Ffôn: 01248 383034

Lleoliad: Ystafell 335, Coridor y Prifathrawon, Prif Adeilad y Celfyddydau

Trosolwg

Brodor o Fargoed, Cwm Rhymni yw'r Dr Rhian Hodges. Mae'n gyn-ddisgybl Ysgol Gymraeg Gilfach Fargoed ac Ysgol Gyfun Cwm Rhymni. Graddiodd mewn B.A Cymdeithaseg gyda Pholisi Cymdeithasol (Dosbarth Cyntaf) Prifysgol Bangor yn 2005 cyn derbyn Ysgoloriaeth ESRC 1+3 i astudio M.A a PhD hefyd ym Mhrifysgol Bangor. Cwblhaodd M.A Ymchwil Cymdeithasol a Pholisi Cymdeithasol yn 2006 a PhD Cymdeithaseg gyda Pholisi Cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor o 2010. Testun ei doethuriaeth oedd cymhellion rhieni dros ddewis addysg cyfrwng Cymraeg i'w plant yng Nghwm Rhymni.

Ers 2009 mae Dr Hodges yn Ddarlithydd Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol (o dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol tan 2017) ac y mae'n Ddarlithydd Cysylltiol CCC bellach. Ers 2011, mae'n Cyfarwyddo'r M.A Polisi a Chynllunio Ieithyddol ac yn ymddiddori ym meysydd astudio allweddol y maes megis siaradwyr newydd, addysg cyfrwng ieithoedd lleiafrifol, defnydd a throsglwyddo iaith gan gynnwys defnydd iaith gymunedol ac yn y gweithle.

Mae Dr Hodges yn Gymrawd yr Academi Addysg Uwch, Cymrawd ymchwil WISERD, yn aelod o Fwrdd Golygyddol GWERDDON, yn aelod o COST New Speakers Network ac yn aelod o Sefydliad Materion Cymreig. Mae hi wedi bod ar sawl taith Cyfnewid Erasmus i Wlad y Basg lle mae'n darlithio ar bwnc Cynllunio Ieithyddol yng Nghymru ym Mhrifysgol Donostia.

Teaching and Supervision (cy)

Is-raddedig

SCS1004 Cymdeithaseg a'r Byd Cyfoes

SCS2018 Cymdeithas, Iaith a Phrotest

HAC2002 Addysg yn y Gymru Gyfoes

HAC3002 Addysg yn y Gymru Gyfoes

 

Ôl-raddedig

SCS4008 Cynllunio Ieithyddol

 

Myfyrwyr Ymchwil

Ifor Gruffydd (PhD - cwblhau yn 2018, goruchwylydd cyntaf) Rheolaeth Strategol ar hyfforddiant iaith mewn gweithleoedd sector cyhoeddus 

Siôn Aled Owen (PhD - cwblhau yn 2018, ail oruchwylydd) Factors Influencing Welsh Medium School Pupils’ Social Use of Welsh

Eileen Tilley (PhD, ail oruchwylydd) Adult Welsh learners in Gwynedd

Shân Pritchard (PhD, ail oruchwylydd) Y Gymraeg yn y byd digidol – Profiadau ac agweddau siaradwyr Cymraeg yng Ngwynedd o ddefnyddio apiau Cymraeg neu ddwyieithog

Natalie Lloyd Jones (PhD, ail oruchwylydd) Patrymau gwylio S4C (Ysgoloriaeth KESS gyda S4C)

 

Cyfleoedd Prosiectau Ol-Raddedig

Mae Dr Rhian Hodges yn croesawi ceisiadau PhD yn y meysydd canlynol:

  • Cynllunio a pholisi ieithyddol
  • Siaradwyr newydd ieithoedd lleiafrifol
  • Addysg cyfrwng iaith leiafrifol
  • Trosglwyddo a defnydd iaith

Diddordebau Ymchwil

Diddordebau Ymchwil

Mae diddordebau ymchwil Dr Rhian Hodges yn cynnwys y meysydd canlynol:

  • Siaradwyr newydd ieithoedd lleiafrifol
  • Addysg cyfrwng ieithoedd lleiafrifol
  • Trosglwyddo a defnydd iaith

Ymchwil  Dr Rhian Hodges:

Grant Strategol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol (£37,893) (2017-2019): Prys, C a Hodges, Rh. Pecyn Adnoddau Aml-gyfrwng Cymdeithaseg (PAAC)

Cymrodoriaeth Cyfnewid Gwybodaeth ESRC (£11,396) Hydref 2016- Medi 2017: Pecyn Cymorth Hybu’r Gymraeg yn y Gymuned (ar y cyd â Mentrau Iaith Cymru)

Comisiwn Llywodraeth Cymru: (£69,753.29) Tachwedd 2014: Gwerthusiad o Strategaeth Gweinidogion Cymru ar gyfer y Gymraeg: Iaith fyw: iaith byw. Prosiect 2: Defnyddio’r Gymraeg yn y Gymuned (Hodges et al 2015)

 Welsh Language Commissioners Grant Comisiynydd y Gymraeg (£18,000) 2013: Gwirfoddoli a’r Iaith Gymraeg (Volunteering and the Welsh Language) (Ail ymchwilydd, Prys et al 2013)

Hodges, Rh. (2010) Tua’r Goleuni: Addysg Gymraeg yng Nghwm Rhymni – rhesymau rhieni dros ddewis addysg Gymraeg i’w plant. PhD heb ei gyhoeddi. Bangor: Prifysgol Bangor.

 

 

 

Addysg / cymwysterau academaidd

  • 2014 - Arall , Cynllun Tystysgrif Addysg Uwch - Rhagoriaeth
  • 2010 - PhD , Tua'r Goleuni: Addysg Gymraeg yng Nghwm Rhymni- rhesymau rhieni dros ddewis addysg Gymraeg i'w plant
  • 2006 - MA , Cymoedd y De: Defnydd o'r Gymraeg ar ôl cyfnod ysgol? Astudiaeth o bobl ifanc yng Nghwm Rhymni
  • 2005 - BA , B.A Cymdeithaseg gyda Pholisi Cymdeithasol

Cyhoeddiadau (22)

Gweld y cyfan

Gweithgareddau a dyfarniadau proffesiynol (21)

Gweld y cyfan

Prosiectau (2)

Gweld y cyfan

Gweld graff cysylltiadau