Mrs Rhian Tomos

Darlithydd Astudiaethau Plentyndod & Ieuenctid/Cyfarwyddwr Mat Cymraeg y Coleg /

Contact info

Yn dilyn cyfnod o addysgu Cymraeg a Ffrangeg yn ysgol Pantycelyn Llanymddyfri, ymunais â chwmni cyfieithu Trosol ac ysgwyddo cyfrifoldeb am gyfieithu a marchnata'r Cwmni. Ers hynny, rwyf wedi addysgu Cymraeg a Ffrangeg mewn nifer o ysgolion uwchradd yng Ngwynedd, wedi arwain tîm cefnogi Cabinet Cyngor Gwynedd ac wedi gweithio fel Rheolwr Prosiect ym maes trefniadaeth ysgolion.

Rwyf bellach yn ddarlithydd mewn Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid ac yn Arweinydd Academaidd ar farchnata'r Ysgol Addysg a Datblygiad Dynol.

Ym mis Tachwedd 2021 fe'm penodwyd yn Gyfarwyddwr Materion Cymraeg y Coleg Gwyddorau Dynol ym Mhrifysgol Bangor.

  1. 2021
  2. Cyfres o bodlediadau Am Blant

    Rhian Tomos (Trefnydd)

    1 Awst 202131 Gorff 2022

    Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn digwyddiad neu drefnu digwyddiadCymryd rhan mewn gweithdy, seminar, cwrs Academaidd

  3. Sioe Addysg Genedlaethol

    Rhian Tomos (Siaradwr)

    7 Hyd 2021

    Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn digwyddiad neu drefnu digwyddiadCymryd rhan mewn cynhadledd Academaidd

Blaenorol 1 2 Nesaf