Ms Sara Borda Green

Language Tutor, Tiwtor Iaith

Trosolwg

Rwyf yn wreiddiol o Trevelin yn Yr Ariannin, ac fe wnes i gael gradd BA mewn Gwyddorau Cyfathrebu gyda gogwydd at Bolisïau Cyhoeddus a Chynllunio Cyfathrebu yn yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas, Prifysgol Buenos Aires (PBA). Cyn graddio, bûm hefyd yn gweithio fel Cynorthwywr Dysgu Cyfryngau Digidol ac Ymchwilydd gyda chyd-fyfyrwyr a staff. Ar ôl graddio, symudais yn ôl i Batagonia a bûm yn dysgu Sbaeneg, Saesneg, Cymraeg ac ysgrifennu creadigol i bobl ifanc, ac yn cyd-drefnu gorsaf radio ysgol uwchradd lleol. Yn 2016-2017 cwblheais MA mewn Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Caerdydd, lle'r edrychais ar y ffordd y saernir gofodoldeb mewn straeon byrion cyfoes Cymraeg a ysgrifennwyd gan awduron benywaidd. Ymchwiliais hefyd i ffuglen a barddoniaeth R. Bryn Williams a'u perthynas gref â'r phortreadau cyfoes o Batagonia yng Nghymru. Cyfunodd y traethawd hir fy niddordeb mewn llenyddiaeth gyfoes Gymraeg a'm cefndir ym maes astudiaethau cyfryngau. Rwyf ar hyn o bryd yn gweithio tuag at radd PhD mewn Ieithoedd Modern yn yr Ysgol Lenyddiaethau, Ieithoedd ac Ieithyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor. Mae fy mhroject, dan oruchwyliaeth Dr. David Miranda-Barreiro a'r Athro Gerwyn Williams, yn canolbwyntio ar sut mae'r diwylliant Cymraeg yn portreadu Patagonia. Yn ogystal â'r gwaith academaidd, dros y blynyddoedd diwethaf rwyf wedi datblygu diddordeb mewn ysgrifennu creadigol yn Gymraeg, ac rwyf wedi ennill tair cadair farddol ac un wobr telyn yn y tair prif Eisteddfod ym Mhatagonia.

Diddordebau Ymchwil

Llenyddiaeth Gymraeg, y diwylliant Cymreig ym Mhatagonia, llenyddiaeth gyfoes Ariannin a De Americaastudiaethau cyfryngau, cyfryngau digidol a chymdeithas, astudiaethau diwylliannol, daearyddiaeth gymdeithasol, astudiaethau gender, ysgrifennu creadigol yn Sbaeneg a Chymraeg.

BA

Ar gyfer fy nhraethawd hir BA astudiais Orsai, cylchgrawn llenyddol o'r Ariannin (2010-2014, 2017-), a oedd yn cyfuno arferion cyhoeddi traddodiadol ac arloesol gan greu ystod eang o brofiadau analog  a digidol i'w ddarllenwyr.

MA

Dilynodd fy nhraethawd MA fy ngwaith BA trwy ganolbwyntio ar ddadansoddiad o'r cylchgronau llenyddol Cymraeg O'r Pedwar Gwynt a Y Stamp, sy'n cyfuno cyhoeddiadau printiedig ac ar-lein.

Arall

Seminarau

'Y Gymraeg en la Cordillera: continuidades y desplazamientos en el marco del Sesquicentenario'. Papur a gyflwynwyd yn VI Congreso Nacional de Folklore, 2020, Academia Nacional del Folklore a Municipalidad de Neuquén, Argentina.

'Rôl y corff yn realaeth hudol tair stori gyfoes Gymraeg a chymhariaeth gryno gydag un stori gyfoes o'r Ariannin'. Papur a gyflwynwyd yn Symposiwm y Stori Fer, 2017, Prifysgol Caerdydd, Caerdydd

'A pesar de todo y todos, todavía estamos aquí: GALESES POR 150 AÑOS'. Papur a gyflwynwyd yn VI Foro de Historia de los Galeses en la Patagonia, 2014, Puerto Madryn, Ariannin

'Seminario Cultura y Media. ¿El paréntesis de Gutenberg?’. Tîm cynhyrchu y 5ed Seminar Diwylliant a Chyfryngau ar greadigrwydd, technolegau newydd a thueddiadau newydd mewn  celf a chynhyrchu amlgyfrwng, 2010, Centro Cultural San Martín, Buenos Aires, Yr Ariannin

 

Ysgrifennu academaidd

'Astudiaeth achos: effaith y cyfryngau digidol ar gynnwys a swyddogaeth O’r Pedwar Gwynt ac Y Stamp', erthygl yn Gwerddon (29), Hydref 2019.

'A pesar de todo y todos, todavía estamos aquí: GALESES POR 150 AÑOS'. Borda Green, S ac Alonso, J 2018, papur a gyflwynwyd yn wreiddiol yn 'VI Foro de Historia de los Galeses en la Patagonia in 2014’ (6ed Fforwm Hanes Cymreig Patagonia), tt 17-38

'Impresiones sobre el ultimo ¿teórico?’' Borda Green S a Barreto M 2012, yn Edupunk Aplicado. Emprender para emprender, tt 157-167

 

Ysgrifennu Creadigol

'Pywsau realaeth ar y dychymyg' 2021, adolygiad 'Y Castell Siwgr' gan Angharad Tomos yn O'r Pedwar Gwynt

'Alawon Rhagfyr Mwnt' 2020, yn Dweud y Drefn pan nad oes Trefn. Blodeugerdd 2020, tt.113-114

Richard Jones Berwyn’ 2018, yn Galesa, Diario Jornada

'Nant y Pysgod' 2018, yn Y Stamp

'Ar y ffin: croeso (All other passports)', Gadair Eisteddfod y Wladfa, 2017

'Cofio' 2017, yn Y Stamp

'Alawon Rhagfyr y Mwnt' 2017, yn Y Stamp, cyfrol 1.

'Y Wladfa ddoe, heddiw ac yfory' 2015, yn Cyfansoddiadau a Beriniadaethau Eisteddfod Genedlaethol 2015

Gweld graff cysylltiadau