Dr Sarah Olive

Uwch Gymrawd Ymchwil er Anrhydedd

Contact info

For a full and up-to-date curriculum vitae, please see my academia.edu page.

E-bost/Email: s.olive@bangor.ac.uk

Twitter: @drsaraholive

Manylion Cyswllt

Trosolwg

Rwy'n Uwch Ddarlithydd (English Literature, Aston) ac Uwch Gymrawd Ymchwil (School of Educational Sciences, Bangor) er Anrhydedd ag arbenigedd ymchwil ar Shakespeare, yn y Deyrnas Unedig a thu hwnt. Yn 2021, cyhoeddodd Palgrave Shakespeare in East Asian Education, llyfr y bu i mi ei ysgrifennu ar y cyd gydag UCHIMARU Kohei, Adele LEE, a Rosalind FIELDING. Cyhoeddwyd fy monograff cyntaf, Shakespeare Valued, gan Intellect yn 2015. Mae manylion llawn fy nghyhoeddiadau ymchwil, gan gynnwys penodau llyfrau ac erthyglau, i'w gweld ar y wefan hon o dan y tabiau 'fy ymchwil' > 'allbynnau ymchwil'. 

 

Mae gen i ddiddordeb mewn addysgu llenyddiaethau, yn Saesneg neu wedi'u cyfieithu i’r iaith, yn Saesneg yn fwy cyffredinol, o ran polisi, addysgeg, a chynrychiolaeth o addysgu llenyddiaeth mewn diwylliant poblogaidd. Mae cwmpas fy niddordeb yn cynnwys addysgu llenyddiaethau mewn amgylcheddau Saesneg a thu hwnt. Yn 2022-23, fi oedd yr Athro Megumi ar Ymweliad yn Adran Saesneg Coleg Kobe, Japan. Mae gennyf ddiddordeb yn y pwnc am ei fod yn berthnasol i nifer o sectorau: ysgolion, addysg uwch, addysg bellach, adrannau addysg theatr a threftadaeth, diwydiannau creadigol eraill a'r cyfryngau.

 

 

Yn 2011, deuthum yn olygydd cyntaf Teaching Shakespeare y British Shakespeare Association, sef cylchgrawn traws-sector ar gyfer addysgwyr Shakespeare yn rhyngwladol. Goruchwyliais gyhoeddi 21 o gyfrolau sydd ar gael am ddim, gyda darllenwyr mewn dros 60 o wledydd, cyn ymgymryd â swydd Prif Olygydd y cyfnodolyn rhyngwladol a adolygir gan gymheiriaid Jeunesse: young people, texts, cultures yn 2021. Sefydlwyd a rhedwyd Jeunesse ym Mhrifysgol Winnipeg, Canada, cyn ymuno ag adran cyfnodolion mawreddog Gwasg Prifysgol Toronto ddiwedd 2021.

 

Mae fy ngolygyddiaeth o Jeunesse yn adlewyrchu, ac yn cyfrannu at, ddechrau ennill bri am ymchwil i lenyddiaeth a diwylliant oedolion ifanc, yn benodol y gothig. Mae gen i ddiddordeb arbennig mewn llenyddiaeth fampir cyfoes oedolion ifanc yn ail-greu  gweithiau Shakespeare, yn enwedig ailadrodd  Romeo a Juliet yn yr unfed ganrif ar hugain, a'i gynrychiolaeth o gydsyniad rhywiol a thrais mewn perthynas â gweithredu ffeministaidd ddiweddar yn rhyngwladol. Yn 2022, enillais Wobr Cyflymu Effaith i lunio podlediad dwyieithog ar ffuglen fampir oedolion ifanc, cydsyniad, trais rhywiol a thrais mewn perthynas (cadwch lygad yma am gysylltiadau i'r podlediad yn 2023).

 

Yr hyn sy'n uno fy niddordebau ymchwil amrywiol yn y Saesneg ac mewn Addysg yw bod fy fframweithiau damcaniaethol a chysyniadol, a'm dulliau ymchwil, yn tynnu'n gyson ar feirniadaeth lenyddol; theori feirniadol; astudiaethau diwylliannol; dadansoddiad llenyddol, cynnwys a disgwrs i ddadansoddi testunau a data ansoddol arall (trawsgrifiadau cyfweliad, deunydd ar wefannau cyfryngau cymdeithasol, a data arolwg, er enghraifft).

 

Yn 2018, ar y cyd â Dr Clémentine Beauvais, mi wnes i greu’r FutureLearn Pictures of Youth MOOC, cwrs ar-lein sydd ar gael am ddim, yn archwilio diwylliant gweledol plant mewn llyfrau lluniau, comics, teledu a ffilm. Cafwyd dros 15,000 o gyfranogwyr mewn pedair blynedd, gyda chyfradd dal gafael uwch na'r cyffredin. Rwyf hefyd yn mwynhau ymchwilio, addysgu a lledaenu fy ngwaith yn rhyngwladol, yn y cnawd, gyda phrofiad helaeth yn Nwyrain Asia.

 

Rwy'n Uwch Gymrawd Academi Addysg Uwch y Deyrnas Unedig (Advance HE bellach) gyda Thystysgrif Ôl-radd mewn Ymarfer Academaidd (PGCAP), cymhwyster addysgu mewn addysg uwch, o Brifysgol Efrog yn 2013. Rwy'n oruchwyliwr ymchwil profiadol (gweler yr adran Ôl-radd isod am restr o’m myfyrwyr PhD blaenorol a’m diddordebau goruchwylio). Dyfarnwyd statws goruchwyliwr ymchwil cydnabyddedig Cyngor Graddedigion y Deyrnas Unedig (UKGCE) i mi yn 2019.

 

Mae gen i ddiddordeb mewn goruchwylio doethuriaethau ar Shakespeare mewn Addysg yn y DU ac yn rhyngwladol, yn ogystal â dysgu llenyddiaeth yn fwy cyffredinol yn y DU a thu hwnt, yn y byd iaith Saesneg a thu hwnt. Mae gen i ddiddordeb yn y pynciau hyn o ran polisi, addysgeg, a sut y cânt eu cynrychioli mewn diwylliant poblogaidd ac ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae gen i ddiddordeb yn y pynciau hyn gan eu bod yn ymwneud ag amrywiol sectorau: ysgolion, addysg uwch, addysg bellach ac adrannau addysg theatr a threftadaeth. Fel ymchwilydd a phrif olygydd y cyfnodolyn a adolygir gan gymheiriaid Jeunesse: Young people, texts, cultures, mae gen i ddiddordeb mewn goruchwylio doethuriaethau ar lenyddiaeth plant, yn enwedig llenyddiaeth gothig i oedolion ifanc. Mae fy niddordeb mwyaf mewn goruchwylio projectau doethuriaeth lle mae'r fframweithiau damcaniaethol/cysyniadol a'r dulliau ymchwil yn tarddu o feirniadaeth lenyddol, theori feirniadol, astudiaethau diwylliannol, a dadansoddi llenyddiaeth, cynnwys a disgwrs. Sylwer: Nid yw'r rhain yn gyfleoedd PhD a ariennir.

 

Er mwyn rhoi syniad i ddarpar ymgeiswyr o'r mathau o brojectau doethuriaeth rwy'n eu goruchwylio, dyma rai o'r ymgeiswyr y bûm yn gweithio gyda nhw yn y  gorffennol (ym Mhrifysgol Efrog): * Daniel XERRI. Goruchwyliwr arweiniol gyda Dr Nicholas McGuinn. Pasiwyd heb gywiriadau. Ionawr 2016. Barddoniaeth ym Malta. * Chelsea SELLARS. (née Swift). Goruchwyliwr. Pasiwyd gyda mân gywiriadau. Gorffennaf 2016. Hunaniaethau darllen plant yng Ngogledd Swydd Efrog. * Paulina BRONFMAN COLLOVATI. Prif oruchwyliwr gyda'r Athro Vanita Sundaram. Pasiwyd gyda mân gywiriadau. Defnyddio Shakespeare ar gyfer hawliau dynol yn y DU. Gorffennaf 2019. * Laura NICKLIN. Goruchwyliwr. Pasiwyd heb gywiriadau. Ionawr 2020. Defnyddio Shakespeare ar gyfer adsefydlu yn system garchardai’r Unol Daleithiau. * YING Zou. Prif oruchwyliwr gyda Dr Clémentine Beauvais. Pasiwyd gyda mân gywiriadau. Ebrill 2020. Defnydd rhieni Tsieineaidd o lyfrau lluniau Saesneg. *Hatice Herdili SAHIN. Prif oruchwyliwr gyda Kerry Knox. Pasiwyd gyda mân gywiriadau. Mehefin 2022. Addysgu’r Celfyddydau mewn ysgolion yn Nhwrci.

 

Hanes cyflogaeth.

2022-23 yr Athro Megumi ar Ymweliad, Saesneg, Coleg Kobe, Japan.

2021- Uwch Ddarlithydd, Gwyddorau Addysgol, Prifysgol Bangor

2017-21 Uwch Ddarlithydd, Addysg, Prifysgol Efrog

2010-17 Darlithydd, Addysg, Prifysgol Efrog

2011-19 Darlithydd Gwadd, Sefydliad Shakespeare, Prifysgol Birmingham 

2007-10 Darlithydd Cyswllt, Prifysgol Agored

 

Cymwysterau

2013 Prifysgol Efrog, Tystysgrif Ôl-radd Ymarfer Academaidd

2011 Sefydliad Shakespeare, Prifysgol Birmingham, PhD mewn Saesneg a ariannwyd gan yr AHRC 

2005 Prifysgol Caergrawnt, M.Phil mewn Ymchwil Addysgol

2003 Prifysgol Adelaide, BA (Anrh) Dosbarth 1af, Saesneg prif bwnc

 

Achrediad proffesiynol

2019 Goruchwyliwr Ymchwil Cydnabyddedig, Cyngor Addysg i Raddedigion y Deyrnas Unedig (UKCGE) 

2018 Uwch Gymrawd, Academi Addysg Uwch (Cymrawd cyn hynny, 2013-2018)

 

Dyletswyddau golygyddol 

2021— Prif Olygydd Jeunesse: Young people, texts, culture (Golygydd cyn hynny  2020-21)

2016-21 Aelod Panel Ymgynghorol Golygyddol, Palgrave Communications, sef Humanities and Social Sciences Communications erbyn hyn.

2011-21 Golygydd Cyntaf, Teaching Shakespeare, British Shakespeare Association. (21 rhifyn).

Ar y gweill, Golygydd Gwadd, rhifyn 'Hot Shakespeare, Cool Japan', Cahiers Élisabéthains.

 

DINASYDDIAETH ACADEMAIDD YM MANGOR

Gweithgareddau ar lefel prifysgol

2021- Aelod o’r Senedd 

2021- Tîm Ymateb i Ddatgeliadau (aelod yr Ysgol Gwyddorau Addysgol)

2021- Hyfforddiant Datgelu Trais Rhywiol a chynrychiolydd Coleg y Gwyddorau Dynol

2021- Cynrychiolydd Coleg y Gwyddorau Dynol, Grŵp Concordat Ymchwil.

2021- Cynrychiolydd Ysgol y Gwyddorau Addysgol, Sefydliad Ymchwil y Coleg

 

Gweithgareddau adrannol

2021 - Cyfarwyddwr Ymchwil, aelod ex officio o'r Uwch Dîm Arweinyddiaeth

2021- Cyd-gyfarwyddwr CIEREI (Sefydliad Cydweithredol dros Ymchwil Addysg, Tystiolaeth ac Effaith) gyda’r Athro Carl Hughes a Dr Richard Watkins (GwE – consortiwm gwella ysgolion Gogledd Cymru).

2021- Tîm ymateb i’r Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr (NSS)

2021 - Tîm Athena Swan

2021-22 Cadeirydd Dros Dro, pwyllgor moeseg Ysgol y Gwyddorau Addysgol.

2021-22 Cadeirydd, tîm rheoli project Rhwydwaith Addysg Gydweithredol (CEN) Llywodraeth Cymru.

 

Grantiau a Projectau

Arall

Cyhoeddiadau (83)

Gweld y cyfan

Gweithgareddau a dyfarniadau proffesiynol (2)

Gweld y cyfan

Gweld graff cysylltiadau