Dr Tracey Lloyd

Uwch Ddarlithydd

Teaching and Supervision (cy)

Mae Tracey wedi bod yn rhan o’r Ysgol Seicoleg er 2000 pan ddaeth i Fangor i astudio fel myfyriwr hŷn. Ar ôl bod o addysg am gyfnod hir gwnaeth Tracey gwrs Mynediad i Addysg Uwch yng Ngholeg Llandrillo ac aeth ymlaen i gael Gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf (BSc) mewn Seicoleg yn 2003 o Brifysgol Bangor. Ar ôl cael cyllid o’r Ysgol Seicoleg ym Mangor i barhau â’i hastudiaethau, aeth Tracey ymlaen yn syth i wneud cwrs Meistr (MSc) mewn Ymchwil Seicolegol yn 2004. Yn dilyn hynny, astudiodd am ei doethuriaeth (PhD), a ddyfarnwyd iddi yn 2009. Roedd ymchwil Tracey’n ymwneud ag edrych ar les rhieni sy’n magu plentyn gydag anabledd deallusol a datblygiadol – pwnc sy’n agos at ei chalon gan y darganfuwyd yn 2004 – pan oedd ar fin dechrau ar ei gwaith ymchwil – bod ei mab yn dioddef oddi wrth ffurf ar awtistiaeth. 
Mae Tracey’n ymroddedig i hyrwyddo agweddau cadarnhaol cael plentyn gydag anableddau deallusol ac mae wedi bod yn aelod o Grŵp Ymchwil Prifysgol Bangor i Anableddau Deallusol a Datblygiadol er 2004. Mae’n aelod hefyd o Rwydwaith Anableddau Dysgu ac Awtistiaeth, sef rhwydwaith o ymchwilwyr sy’n cydweithio yn y maes yng Nghymru. 
Mae Tracey hefyd yn gweithredu fel Swyddog Cyswllt Ysgolion i’r Ysgol Seicoleg, swydd y mae’n ei mwynhau’n arbennig gan ei bod yn rhoi cyfle iddi wahodd ysgolion a cholegau lleol i’r adran ac sydd hefyd yn caniatáu iddi hi ymweld ag ysgolion yn yr ardal. Cafodd Tracey ei geni a’i magu yng Ngogledd Cymru ac mae’n credu’n gryf mewn hyrwyddo’r Adran Seicoleg yn yr ardal leol. Mae ganddi hefyd brofiad dysgu mewn ysgol a choleg, gan ei bod wedi dysgu cyrsiau seicoleg TGAU a lefel A, yn ogystal â dysgu seicoleg ar yr union gwrs Mynediad a wnaeth arwain at ei gyrfa hi ei hun mewn seicoleg. 
Bu Tracey’n ddigon ffodus i gynrychioli Bangor mewn cynadleddau ymchwil rhyngwladol ar draws y byd ac mae hynny wedi rhoi blas ar deithio iddi. Fodd bynnag, does dim yn well ganddi yn ei hamser hamdden nag aros gartref yn darllen llyfr da neu’n gweithio yn ei gardd lysiau. Yn ogystal â bod yn Fam i’w mab, Matt, sydd wedi tyfu i fyny erbyn hyn, mae gan Tracey ddau gi, parot o’r enw Brian a thanc o bysgod trofannol. Felly, rhwng pawb a phopeth mae ganddi dipyn o waith gofalu. 

Diddordebau Dysgu  

Ar hyn o bryd mae Tracey yn rhan o sawl modiwl ar y rhaglen radd israddedig BSc a BA ym Mangor. Hi yw’r cydlynydd sgiliau ar gyfer yr Ysgol (Sgiliau Seicoleg Bangor) a threfnydd y modiwl ail flwyddyn ‘Sgiliau Ymchwil’. Mae’n cynnal sesiynau galw heibio gydag unigolion i wella sgiliau. Hefyd mae Tracey’n mentora’r myfyrwyr PhD sy’n gweithredu fel cynorthwywyr dysgu ar gyfer y modiwl Sgiliau Ymchwil a’u helpu i ddatblygu eu sgiliau dysgu. Yn ogystal, Tracey yw trefnydd y modiwl blwyddyn tri   “Topics in Intellectual and Developmental Disabilities” ac mae’n gyfrifol am y gynhadledd ymchwil yn y drydedd flwyddyn pan mae’r myfyrwyr hynny’n cyflwyno eu hymchwil traethawd hir, sy’n cyfrif tuag at y marc y maent yn ei gael am y project drwodd a thro. 
Mae Tracey hefyd yn gweithio ar sawl prosiect yn ymwneud â myfyrwyr fel rhan o’i gwaith fel Cydlynydd Profiad Myfyrwyr a Chydlynydd Cyflogadwyedd Seicoleg. Yn benodol, mae Tracey yn gweithio gyda’r Gymdeithas Seicoleg a thîm Cylchlythyr Myfyrwyr, yn ogystal â chynorthwyo myfyrwyr i ddatblygu digwyddiadau cymdeithasol a digwyddiadau academaidd all-gyrsiol. Mae Tracey hefyd yn goruchwylio Moeseg Israddedigion o fewn yr Ysgol.

Diddordebau Ymchwil

Mae Tracey’n oruchwyliwr ar sawl project ymchwil israddedig cyfredol. Ar hyn o bryd mae rhai o’r myfyrwyr y maent yn eu goruchwylio yn cyfweld neiniau a theidiau a brodyr a chwiorydd mewn gwahanol astudiaethau ar deuluoedd lle mae plentyn gydag Anableddau Deallusol. Hefyd mae’n cynnal project lle bydd myfyrwyr yn mynd i ysgolion cynradd i asesu beth yw agweddau plant at eu cyfoedion gydag Anableddau Deallusol. 
Ar hyn o bryd mae Tracey’n helaethu ei gwybodaeth o fagu plant i gynnwys astudiaeth ar aelodau teulu eraill. Mae’n edrych yn awr ar faterion yn ymwneud â lles a safbwyntiau neiniau a theidiau plant gydag AD a brodyr/chwiorydd hŷn pobl gydag AD. Mae ganddi ddiddordeb hefyd mewn Emosiwn a Ddangosir, sef ffordd o gloriannu data o samplau o’r hyn sydd gan aelodau teulu i’w ddweud am y plentyn gydag AD.

Cyhoeddiadau (6)

Gweld y cyfan

Gweithgareddau a dyfarniadau proffesiynol (3)

Gweld y cyfan

Gweld graff cysylltiadau