Dwyieithrwydd

Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion CynhadleddPennodadolygiad gan gymheiriaid

Un o sgiliau hynotaf y bod dynol yw ei allu i gyfathrebu drwy iaith.
Ymhell cyn ymadael â’r groth, mae’r ymennydd bach yn prysur
ddatblygu ac ymateb i’w amgylchedd. Mae’n adnabod patrymau
yn iaith y fam ac mae biliynau o niwronau bach gweithgar yn
dechrau ar y daith i gaffael iaith. Ac mae hi yn daith. Ond o fewn
cwta dair blynedd, gall y plentyn bach gyfleu syniadau, disgrifio
gwrthrychau (gwir neu ddychmygol), holi cwestiynau, ac ymateb
i iaith unigolion eraill drwy gynhyrchu iaith sydd heb fod yn rhy
annhebyg i iaith ei amgylchedd. O gynhyrchu a chyfuno synau, i
gynhyrchu a chyfuno geiriau, i fedru cynhyrchu a chyfleu unrhyw
syniad, teimlad neu fwriad, mae gallu i greu gwead niwrolegol
dwys sy’n ymgorffori patrymau, ffurfiau a synau unigryw a
chymhleth iaith yn un o wyrthiau’r ymennydd dynol. Ond yr hyn
sy’n fwy gwyrthiol fyth yw bod y rhan fwyaf o blant yn dysgu
nid un ond dwy neu fwy o ieithoedd ac felly mae’r ymennydd
dynol yn amlach na pheidio yn delio â gwead niwrolegol sy’n
fwy cymhleth eto! A dyna yw’r sefyllfa gyfredol ar gyfer unrhyw
un sydd yn siarad Cymraeg. Yn ôl data’r Cyfrifiad, mae pob
unigolyn tair blwydd oed a hŷn sy’n siarad Cymraeg hefyd yn
siarad Saesneg (Cyfrifiad 2011) ac yn aelodau breintiedig o’r byd
dwyieithog. Bydd y bennod hon yn trafod agweddau cynnar tuag
at ddwyieithrwydd, gan amlinellu natur unigolion dwyieithog a’r
nodweddion unigryw sy’n codi yn sgil meddu ar ddwy iaith.

Allweddeiriau

Cyfieithiad o deitl y cyfraniadBilingualism: Bilingualism
Iaith wreiddiolCymraeg
TeitlBeth yw'r Gymraeg?
GolygyddionAngharad Naylor, Llion Pryderi Jones, Dylan Foster Evans
Man cyhoeddiCardiff
CyhoeddwrUniversity of Wales Press, Cardiff
Pennod7
Tudalennau135-149
ISBN (Argraffiad)9781786839497
StatwsCyhoeddwyd - 5 Tach 2022
Gweld graff cysylltiadau