Fersiynau electronig

Dogfennau eraill

Mae briff polisi hwn yn esbonio sut gall cynghorau cymuned a thref weithredu
strategaeth ‘Llwybrau Gwyllt’ er mwyn cyflawni’u cyfrifoldebau amrywiol am ddatblygu cymunedol, iechyd a lles, a bioamrywiaeth.
• Mae arweiniad statudol yn hybu cynghorau cymuned a thref i gyd-weithio a sefydliadau eraill ar nifer o faterion eang, o reoli asedau lleol i weithredu cynlluniau bioamrywiaeth.
• Adnabyddodd ymchwil diweddar yng Nghymru benblethau eang ar gyfer partneriaethau cydweithredol, gyda’r risg i gynghorau colli’r ffocws ar flaenoriaethau lleol.
• Creodd y prosiect ymchwil strategaeth benodol ‘Llwybrau Gwyllt’ sydd yn gallu helpu Pencampwyr Bioamrywiaeth i weithio gyda phartneriaid lleol i reoli asedau cymunedol heb golli’r ffocws ar flaenoriaethau cynghorau cymuned a thref.
• Mae’r briff yn adeiladu ar drafodaeth grŵp ffocws gyda 23 Pencampwr Bioamrywiaeth wedi’i threfnu gan brosiect Pethau Bychain Un Llais Cymru ym mis Tachwedd 2023.
Cyfieithiad o deitl y cyfraniadManaging local assets collaboratively: A policy brief for community & town councils' Biodiversity Champions
Iaith wreiddiolCymraeg
Nifer y tudalennau7
StatwsCyhoeddwyd - 6 Rhag 2023
Gweld graff cysylltiadau