Ymchwil Gwerthuso Prosiect Tîm o Amgylch y Person Ifanc (TAPI) GISDA
Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Adroddiad Comisiwn
Dyma adroddiad ar ddarganfyddiadau prosiect TAPI GISDA rhwng Mawrth 2022 ac Awst 2022, sef cyfnod y comisiwn a dderbyniodd Prifysgol Bangor gan GISDA. Mae’r adroddiad yn ddilyniant o’r adroddiad pennawd a luniwyd mis Mai 2022. Comisiynwyd Prifysgol Bangor i gwblhau darn o waith ymchwil yn archwilio i effeithlonrwydd prosiect TAPI o ran datblygiad sgiliau a chyrhaeddiad dysgu, hyder, lles, chyflogadwyedd, cynhwysiant cymdeithasol, a chyfranogiad ymysg defnyddwyr y cynllun. Cytunwyd hefyd i adnabod arfer da o fewn y prosiect ac ar draws y llenyddiaeth o ran cefnogi trosglwyddiad pobl ifanc i’r gwaith.
Mae’r adolygiad llenyddol yn disgrifio heriau sydd yn wynebu pobl ifanc o ran iechyd a lles a chynhwysedd cymdeithasol. Mae hefyd yn adnabod arfer da o ran cynllunio gwasanaethau ar sail medrau pobl ifanc, cynllunio ymyraethau ar sail gweithgareddau hwylus a chymdeithasol a phwysigrwydd perthynas agos â staff a gwirfoddolwyr ag agwedd cadarnhaol ac chefndiroedd tebyg. Erys heriau o ran sicrhau bod sgiliau bywyd a addysgir drwy gynlluniau o’r fath ag effaith hir-dymor. Credir bod angen deall mwy am brofiadau defnyddwyr a sut y mae’r gwasanaethau yn asio gyda’u profiadau diwylliannol a phersonol blaenorol.
Cynhaliwyd 42 cyfweliad gyda defnyddwyr TAPI rhwng Ebrill a diwedd Gorffennaf 2022. Gan fod ystod y gweithgareddau y cynhwyswyd o fewn TAPI yn eang tu hwnt, ni fu’n bosib olrhain perthynas glir rhwng ymyriadau unigol a llwyddiant o ran y nodau uchod. Er hynny, y mae’r data yn dangos fod y gweithgareddau wedi cynyddu hyder, lles a chyflogadwyedd defnyddwyr yn sylweddol. Cysylltwyd cynnydd o ran cynhwysiant cymdeithasol gyda thripiau a gweithgareddau hamdden a chysylltwyd cyfranogiad gydag ymweliad â’r Senedd a’r cyfle i gyfrannu at gyfarfodydd ffurfiol ac anffurfiol o fewn GISDA. Defnyddiwyd data a gasglwyd gan GISDA i atgyfnerthu’r dadansoddiad o ran effeithiau cadarnhaol ac ystod eang y gweithgareddau; hyn o ran y cynnydd mewn hyder ar draws y grwpiau ymgymerodd â’r gweithgareddau ac hefyd o ran adroddiadau cyfranogwyr yr ymchwil bod ymyrraeth GISDA wedi arwain at osgoi canlyniadau negyddol y byddai wedi dilyn heb y gefnogaeth honno.
Mae’r adroddiad yn cloi gyda chasgliadau sydd yn trafod llwyddiant y gweithgareddau ac sydd hefyd yn ystyried sut y bu iddynt atgynhyrchu arfer da yn ryngwladol a sut y gellid gyfrannu ymhellach at y drafodaeth honno.

Cyfieithiad o deitl y cyfraniad | Research Evaluation of GISDA Team Around the Young Person project: Evaluation in the context of International Good Practice |
---|---|
Iaith wreiddiol | Cymraeg |
Nifer y tudalennau | 55 |
Statws | Cyhoeddwyd - 20 Hyd 2022 |
Digwyddiad | Adlewyrchu ar brosiectau Cronfa Adfwyio Cymunedol yng Ngwynedd - Y Galeri, , Caernarfon, Y Deyrnas Unedig Hyd: 20 Rhag 2022 → 20 Rhag 2022 |