Cynnydd ac Amheuaeth

Electronic versions

Dogfennau

  • Ruth Richards

    Meysydd ymchwil

  • Llên Cymru, Oes Fictoria, Ffotograffiaeth, John Thomas, Daniel Owen, O. M. Edwards

Abstract

Mae’r gwaith hwn yn ymdrin â gwaith y ffotograffydd Cymraeg John Thomas (1836-1905) yng nghyd-destun ei gyfnod (Oes Fictoria) a’i ddiwylliant (y Gymru Anghydffurfiol Ryddfrydol). Bydd y gwaith yn cynnig golwg newydd ar ddelweddau cyfarwydd y ffotograffydd drwy eu gosod yng nghyd-destun llenyddol a syniadol Cymru ei gyfnod. Bu eisoes astudiaethau ar waith John Thomas, ond mentraf mai dyma’r manylaf hyd yma a’r unig un i ddadansoddi’r delweddau yn gyfochrog â llenyddiaeth Gymraeg ei gyfoedion. Credaf fod y gymhariaeth â llên yn hynod o ddadlennol ac addas mewn perthynas â gwaith John Thomas, gan mai’r Cymry a’r Gymru Gymraeg a gynrychiola ei farchnad a’i destun.

Dadleir ei bod yn bryd herio’r hanesyddiaeth a dywyllodd ein dealltwriaeth a’n gwerthfawrogiad o athrylith John Thomas ers canrif a throsodd. Daeth nifer o ffactorau megis ymatebion ansensitif i ddiwylliant Cymraeg a rhagfarnau yn erbyn crefydd a chulni’r cyfnod ynghyd i daflu cysgod dros wreiddioldeb, craffter a hiwmor gweledigaeth y ffotograffydd hynod hwn.

Drwy osod gwaith John Thomas yn gyfochrog â rhyddiaith Gymraeg Oes Fictoria, ac yn enwedig gwaith Daniel Owen, amlinellir sut y bu i’r ffotograffydd ymdrin â’r un themâu a gwneud hynny mewn modd sy’n adlewyrchu’r broses nofelyddol, o gydblethu ystod o gymeriadau a ‘lleisiau’ er mwyn creu cyfanwaith cymhleth o safbwyntiau a naratif. Drwy ddadansoddi’r gymhariaeth hon rhwng arddull y ffotograffydd a’r nofelydd, gwneir defnydd helaeth o waith yr athronydd Mikhail Bakhtin a’i gysyniad o heteroglossia, sef amrywiaeth o ieithoedd (neu leisiau) o fewn un iaith (neu gyfanwaith artistig).

Un o nodweddion amlycaf y gymhariaeth rhwng delweddau’r ffotograffydd a gwaith y llenorion yw’r broblem syniadol gyfoes o gysoni parhad yr iaith a hunaniaeth Gymraeg gyda meddylfryd cynyddgar Oes Fictoria. Ar raddfa ehangach, ceir adlais o hyn yn y broblem o gynefino â’r naratif Darwinaidd, gyda’i addewid o esblygiad ar y naill law a bygythiad difodiant ar y llall yn cynnig dau ddehongliad gwahanol o ddyfodol Cymru yng nghyd-destun uchafiaeth Ymerodraeth Brydeinig Oes Fictoria.

Bydd y gwaith hefyd yn ymdrin â’r berthynas rhwng John Thomas a llenor arall, sef O. M. Edwards, a ddefnyddia waith y ffotograffydd ar gyfer y cylchgrawn Cymru. Dadleuir mai perthynas ymarferol yn hytrach na chreadigol fu hon, ac er i O. M. ddod â gwaith John Thomas i sylw cynulleidfa ehangach, eto mae ei ddefnydd o’r lluniau megis adnoddau i ategu geiriau yn gyfraniad at y dibrisio a fu ar weledigaeth artistig unigryw’r ffotograffydd, ymysg ei gyfoedion ac yn ddiweddarach.

Yn olaf, ac unwaith eto, er mwyn amlygu gwreiddioldeb a moderniaeth ymateb John Thomas i’w gyfrwng, byddaf yn cymharu ei waith â phrosiect diweddarach y ffotograffydd Almaenig enwog, August Sander (1876-1964) o gofnodi ei gyfnod a’i gyfoedion yn eu holl amrywiaeth drwy gyfrwng ffotograffiaeth. Byddaf yn dadlau bod awydd John Thomas (nas gwireddwyd) i greu’r hyn a alwodd yn ‘album coffadwriaethol Cymreig’ yn rhagamlygu gorchest ffotograffig ddiweddarach Sander.

Gobeithiaf y bydd y gwaith yn agoriad i ragor o ymchwil ar yrfa John Thomas. O fewn cwmpas un cyfrol nid oedd modd gwneud mwy na chodi cwr y llen ar gyfoeth ei allbwn. Digon yw gobeithio efallai y bydd y gwaith yn gosod dadl gadarn dros ryddhau’r ffotograffau grymus hyn o gyfyngder eu harchif, gan awgrymu ffyrdd newydd ac amgen o ddehongli ei weledigaeth grafog a soffistigedig o Gymru Oes Fictoria.

Details

Iaith wreiddiolCymraeg
Sefydliad dyfarnu
  • Prifysgol Bangor
Goruchwylydd / Goruchwylwyr / Cynghorydd
Dyddiad dyfarnu12 Gorff 2021