Rhwng Trawsfynydd a Pharis

Electronic versions

Dogfennau

    Meysydd ymchwil

  • John Rowlands, Cymraeg, Llenyddiaeth Gymraeg, ugeinfed ganrif, y nofel, rhyddiaith, ffuglen, beirniadaeth lenyddol, ôl-foderniaeth

Abstract

Astudiaeth yw hon o waith John Rowlands (1938-2015), a chanolbwyntir yn bennaf ar ei gyfraniad i faes y nofel Gymraeg drwy gyfrwng ei nofelau ef ei hun a’i feirniadaeth lenyddol.

Yn y bennod gyntaf trafodir ei gefndir bywgraffyddol a theuluol cyn edrych yn fanylach ar y gwaith a gyhoeddodd yn Forecast a’r Dyfodol, Omnibus, Ffenics ac Y Dyfodol, cyhoeddiadau myfyrwyr Bangor yn ystod ei gyfnod yn fyfyriwr yno rhwng 1956 a 1961. Rhoddir sylw penodol i ddylanwad beirdd a llenorion a syniadaethau allanol ar y gwaith.

Gyda’r ail bennod, eir ymlaen at y gwaith o drafod y saith nofel a gyhoeddodd rhwng 1960 ac 1978, gan ddechrau gyda Lle Bo’r Gwenyn (1960), ymdrech ar ran John Rowlands i ysgrifennu nofel ysgafn i bobl ifainc. Trafodir cyfoesedd y nofel, dylanwad yr Angry Young Men arni, a sut y mae’n darlunio cymdeithas y cyfnod.

Yn y drydedd bennod, trafodir Yn Ôl i’w Teyrnasoedd (1963), nofel sy’n cynnig darlun o fyfyrwraig ifanc herfeiddiol ar y naill law, a darlithydd Catholig a chanddo gymhlethdod Meseianaidd ar y llall. Cynigir yn y bennod hon fod y nofel yn feirniadaeth ar Gymry Cymraeg a droai at Gatholigiaeth am resymau esthetaidd.

Adroddir yn fanwl yn y bedwaredd bennod hanes helynt Ienctid yw ’Mhechod (1965), y nofel Gymraeg gyntaf i gynnwys disgrifiad o ryw. Darlunnir y sefyllfa a barodd i Emlyn Evans, rheolwr Llyfrau’r Dryw, ymddiswyddo, yr ymatebion i hynny yn y wasg enwadol a seciwlar, cyn symud ymlaen i drafod y nofel ei hun. Dadleuir mai alegori am ddirywiad Anghydffurfiaeth ydyw.

Yn wahanol i’w dri rhagflaenydd, llanc na chafodd addysg brifysgol yw Ifan, prif gymeriad Llawer Is na’r Angylion (1968), y nofel a drafodir yn y bumed bennod. Cyfyngodd moesau a safonau ei rieni ar ei allu i ddewis cael yr addysg honno pe dymunai, ynghyd ag effeithio arno’n emosiynol. Awgrymir bod y darlun a geir yn y nofel o’r cyfyngiadau a osodwyd ar Ifan yn gondemniad o gulni a chlawstroffobia cymdeithasau Cymraeg Anghydffurfiol a thraddodiadol. Rhoddir sylw hefyd i elfennau proto-ôl-fodernaidd y nofel.

Cymerodd Bydded Tywyllwch (1969) gam i ddau gyfeiriad newydd drwy gael merch yn brif gymeriad, a thrwy bendilio fesul pennod o’r presennol i’r dyfodol. Yn y chweched bennod, archwilir yr elfennau tywyllach a geir yn y nofel hon, a chan mai ‘nofel ddigon rhyfedd’ y galwodd John Rowlands ei hun hi, ceisir egluro rhywfaint arni drwy dynnu sylw at y tebygrwydd rhyngddi a Huis Clos, drama gan Jean-Paul Sartre sydd wedi’i gosod yn Uffern.

Yn y seithfed bennod, ceir cefndir hanesyddol meddiannu Tsiecoslofacia gan wledydd Cytundeb Warsaw yn 1968, y digwyddiad a ysbrydolodd Arch ym Mhrâg (1972). Darlunnir ymdrech John Rowlands i lunio nofel ddogfennol drwy gynnwys ynddi ddyfyniadau o areithiau, llythyrau a cherddi, a bernir a oedd y nofel yn haeddu’r feirniadaeth lem a gafodd mewn adolygiad gan Gareth Miles.

Nofel academaidd yw Tician Tician (1978), ac yn yr wythfed bennod ystyrir sut y mae hon yn debyg ac yn wahanol i nofelau Saesneg o’r un genre, ac archwilir hefyd y darlun beirniadol a geir o academyddion.

Yn y nawfed bennod, rhoddir trosolwg o ddau brif gyfnod beirniadol John Rowlands: y cyfnod cyntaf dyneiddiol-ryddfrydol, a’r ail gyfnod dan ddylanwad theorïau Marcsaidd ac ôl-fodernaidd. Diweddir y bennod drwy roi sylw manylach i’w waith beirniadol ym maes y nofel.

Yn yr Atodiad, cynhwysir y nodiadau a ysgrifennais i ar erthyglau beirniadol, erthyglau golygyddol, adolygiadau a cholofnau newyddiadurol John Rowlands. Mae’r nodiadau hyn yn fodd i ddilyn llwybr syniadaeth feirniadol John Rowlands dros gyfnod estynedig o amser, a hefyd yn fodd i weld pa themâu a syniadau a ymddangosai dro ar ôl tro yn ei waith, yn ogystal â pha anghysonderau ac anghytundebau a’i nodweddai hefyd.

Details

Iaith wreiddiolCymraeg
Sefydliad dyfarnu
Goruchwylydd / Goruchwylwyr / Cynghorydd
Noddwyr traethodau hir
  • Arts and Humanities Research Council (AHRC)
Dyddiad dyfarnu2021