Y Gymraeg o fewn y byd digidol

Electronic versions

Dogfennau

    Meysydd ymchwil

  • Doethur mewn Athroniaeth (PhD), Ieithoedd lleiafrifol, Cynllunio ieithyddol, Cymraeg, Apiau digidol, Apiau Cymraeg, Yr economi ddigidol, Bywiogrwydd ieithyddol digidol, Cydgyfeiriant

Abstract

Mae dyfodiad apiau Cymraeg neu ddwyieithog yn darparu cyfle newydd i siaradwyr Cymraeg ddefnyddio’r iaith, wrth i’n bywydau dyddiol symud fwyfwy ar-lein. Serch hynny, mae gwybodaeth ynglŷn â’u dylanwad a’u defnydd yn brin.

Nod yr astudiaeth hon, yw casglu, dadansoddi a dehongli data ynglŷn â phrofiadau siaradwyr Cymraeg yng Ngwynedd o ddefnyddio apiau Cymraeg neu ddwyieithog a’u hagweddau tuag atynt. Mae’r traethawd hwn yn ystyried ecoleg y farchnad apiau Cymraeg, gan gwestiynu; pa fath o apiau Cymraeg sydd yn bodoli a pha ddefnydd a wneir ohonynt? Yn sgil hyn, mae’r astudiaeth yn canfod ystyriaethau penodol dylid gwneuthurwyr apiau masnachol a’u cyllidwyr eu hystyried wrth ddatblygu, cyhoeddi a marchnata apiau Cymraeg. Yn ehangach, dadansoddir y ffactorau sydd yn dylanwadu ar ddefnydd iaith ar-lein, megis sgiliau ieithyddol ac agweddau tuag at iaith. Yng nghasgliadau’r traethawd, lleolir safle’r iaith o fewn fframweithiau cysyniadol Kornai (2013), Gibson (2016) a Soria et al (2017), sydd yn mesur bywiogrwydd digidol iaith ac asesu ei safle fel iaith fyw fodern. Mae’r ystyriaethau hyn yn hollbwysig, wrth i Lywodraeth Cymru gydnabod fod y maes pwysig hwn yn gwbl ganolog i gyflawni eu gweledigaeth o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Cychwynnir y traethawd gan ymdrin ag ymchwil eilaidd, drwy adolygu llenyddiaeth berthnasol ym maes cynllunio ieithyddol, yr economi ddigidol a’r Gymraeg o fewn y byd digidol. Wedi hyn, cynhelir ymchwil wreiddiol yr astudiaeth, drwy ddefnyddio dull ymchwil gymysg i gasglu data ansoddol yn deillio o gyfres o 10 grŵp ffocws a data meintiol yn seiliedig ar dros 1,000 o holiaduron. Yn ogystal, cynhelir cyfrifiad apiau Cymraeg neu ddwyieithog, gan ddefnyddio data oddi ar farchnad apiau Android, Google Play.

Canfyddir yr astudiaeth hon bod y Gymraeg mewn safle cryf o ran cydnabyddiaeth a chefnogaeth a bod siaradwyr yn gwneud defnydd sylweddol o’r iaith, mewn rhai ond nid pob parth digidol. Gwelwyd bod apiau addysgiadol Cymraeg, apiau Cymraeg i blant ac apiau sy’n ymwneud a Chymru neu ddiwylliant Cymreig yn boblogaidd. Er hynny, canfyddir bod cyfle i gynyddu’r defnydd a’r dylanwad y caiff apiau Cymraeg ar arferion digidol siaradwyr yr iaith, drwy osod safonau iaith ar wasanaethau craidd. Mae hynny’n hollbwysig o ystyried y bwlch amlwg yn y ddarpariaeth o apiau ymarferol cyfrwng Cymraeg, megis gwasanaethau talu biliau ac apiau bancio. Mae’r diffyg hwn yn atal yr iaith rhag cyrraedd y lefelau uchaf o fywiogrwydd ieithyddol digidol ac yn darparu elfen o risg i’r Gymraeg o fewn y byd digidol.

Details

Iaith wreiddiolCymraeg
Sefydliad dyfarnu
Goruchwylydd / Goruchwylwyr / Cynghorydd
Noddwyr traethodau hir
  • KESS2 (Ysgoloriaethau Sgiliau Economi Gwybodaeth) a Cwmni Da Cyf
Dyddiad dyfarnu12 Ebr 2010