Dr Cynog Prys
Uwch Darlithydd mewn Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol (Cyfrwng Cymraeg)
Contact info
Trosolwg
Mae Dr Cynog Prys yn Uwch Ddarlithydd ym Mhrifysgol Bangor ble mae’n arbenigo ym meysydd cymdeithaseg, polisi cymdeithasol a chynllunio ieithyddol. Mae ganddo Ddoethuriaeth o Brifysgol Bangor (2011), ac MEd o Brifysgol Rio Grand, Ohio (2005), ynghyd a gradd Dosbarth Cyntaf mewn Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol (Prifysgol Bangor,2003). Mae hefyd yn Uwch Gymrawd or Higher Education Acadamy. Enillodd ei gyfres o e-lyfrau Cymdeithaseg, Pecyn Adnoddau Amlgyfrwng Cymdeithaseg (Prys a Hodges) wobr genedlaethol am Adnodd Dysgu Rhagorol y Flwyddyn 2023, gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Ei brif faes ymchwil academaidd yw astudio’r defnydd o Gymraeg ym mywyd bob dydd, gyda'i ymchwil yn canolbwyntio ar y defnydd o Gymraeg gan y cyhoedd mewn amrywiaeth o barthau gwahanol, gan gynnwys y gymuned, ym maes iechyd, y trydydd sector, a’r economi. Yn ogystal a’r meysydd hyn mae’n arbenigo ar y defnydd o ieithoedd lleiafrifol o fewn y parth digidol, gyda’i ddiddordeb presennol yn ffocysu ar deall beth fydd oblygiadau datblygiad ddeallusrwydd artiffisial i siaradwyr ieithoedd lleiafrifol. Mae Cynog yn cyhoeddi gwaith ymchwil yn gyson mewn cyfnodolion rhyngwladol, a mae ei waith yn ymddangos o dogfennau polisi Llywodraeth Cymru, gan gynnwys Cymraeg 2050: Miliwn o Siaradwyr Cymraeg. Gweler ei restr gyhoeddiadau am wybodaeth bellach.
Y Gymraeg yn y Gymdeithas Sifil
Cynhigiodd doethuriaeth Cynog ddadansoddiad ansoddol o brofiadau gwasanaethau iaith Gymraeg defnyddwyr a darparwyr mudiadau trydydd sector yng Ngwynedd ac Sir Gaerfyrddin (2011). Ers hynny mae’r defnydd o Gymraeg o fewn y gymdeithas sifil wedi bod yn ffocws ar ei waith academaidd, wrth iddo gyhoeddi nifer o adroddiadau ymchwil a chyhoeddiadau academaidd yn astudio’r defnydd o Gymraeg o fewn y gymuned. Yn fwyaf diweddar mae ei waith wedi ffocysu ar y berthynas rhwng y Gymraeg a ffactorau economaidd. Yn 2024 dyfarnwyd grant o Gronfa Her ARFOR iddo i ddatblygu Pecyn Recriwtio Gweithlu Dwyieithog i gynorthwyo cyflogwyr i recriwtio staff gyda sgiliau Cymraeg. Nod hynny yw i gefnogi cyflogwyr i fynd I'r afael a heriau recriwtio, ac hefyd cefnogi cymunedau iaith Gymraeg drwy baru siaradwyr Cymraeg gyda swyddi Cymraeg, o fewn cymunedau ble mae gofid am allfudo oedolion sydd a sgiliau yn yr iaith Gymraeg.
Y Gymraeg yn yr Oes Ddigidol
Mae Cynog wedi edrych ar y defnydd o Gymraeg yn y byd digidol ers dros 10 mlynedd. Cychwynnodd ei ddiddordeb wrth iddo weithio ar brosiect ymchwil yn edrych ar y defnydd o Gymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol (gweler er enghraifft gwaith Cunliffe et al 2013). Ers hynny mae wedi gweithio ar nifer o brosiectau ymchwil, yn ogystal a goruchwylio doethuriaethau, ym maes iaith a thechnoleg, gan gynnwys gwaith yn edrych ar y modd y mae’r Gymraeg yn cael ei ddefnyddio ar apigau a phlatfformau digidol. Rhwng 2020 a 2023 roedd yn Is Gadeirydd y grwp Hawliau Ieithyddol, rhwydwaith ymchwil Ewropeaidd Language in the Human-Machine Era. Cyfrannodd i, a chydlynodd, nifer o weithdai, cynadleddau a digwyddiadau Ewropeaidd ym maes hawliau ieithyddol yn yr oes ddigidol.
Gweler The Dawn of the Human-Machine Era: A forecast of new and emerging language technologies am enghraifft o waith y rhwydwaith.
Yn fwy diweddar mae’n aelod o grwp gwaith UniNet (NPLD) ar Deallusrwydd Artiffisial ac Ieithoedd Lleiafrifol. Cyflwynwyd papur a gyd-awdurodd ganddo yng Nghynhadledd yr Network to Promote Linguistic Diversity 20024, sef AI and Minority Language Use.
Comisiynau a Phrosiectau Ymchwil
Mae gan Cynog hefyd brofiad eang o gyhoeddi adroddiadau wedi ei comisiynu i gyllidwyr allanol i’r Brifysgol, gan gynnwys Comisiynydd y Gymraeg, Llywodraeth Cymru, S4C, BBC Cymru, Mentrau Iaith Cymru, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru ac sefydliadau eraill. Yn ogystal a hynny mae wedi gweithio gyda cwmnïau darlledu gan gynnwys Cwmni Da ac Rondo Media. Cysylltwch gydag ef os hoffech drafod comisiwn am ddarn o waith ymchwil.
Mae hefyd yn goruchwylio nifer o fyfyrwyr doethuriaeth ac myfyrwyr MA ym maes cynllunio ieithyddol. Mae rhain y cynnwys myfyrwyr PhD yn y meysydd canlynol:
- Deallusrwydd Artiffisial ac Addysg Gymraeg – Beca Owen (Prif Oruchwylydd, noddwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol).
- Yr Economi a’r Iaith Gymraeg – Elen Bonner (Prif Oruchwylydd, Ysgoloriaeth Martin Rhisiart, Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol).
- Ffactorau sy’n dylanwadu ar lwyddiant caffael iaith yn y gweithle - Dafydd Apolloni (ail oruchwylydd, noddwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol).
- Taith iaith: profiadau siaradwyr ifanc o bod yn siaradwyr Gymraeg - Charlotte Amesbury (ail oruchwylydd)
- Y Gymraeg o fewn y byd digidol: Profiadau ac agweddau siaradwyr Cymraeg yng Ngwynedd o ddefnyddio apiau Cymraeg neu ddwyieithog - Shân Prichard (Prif Oruchwylydd, Ysgoloriaeth KESS/Cwmni Da).
- Rheolaeth Strategol ar hyfforddiant iaith mewn gweithleoedd sector cyhoeddus – Ifor Gruffudd.
- Ffactorau yn arferion a dewisiadau gwylio cynulleidfa S4C (Ysgoloriaeth KESS/S4C).
Adnoddau Addysgiadol Digidol
Yn ogystal â hynny mae ganddo brofiad helaeth o gynhyrchu adnoddau addysgiadol iaith Gymraeg, gan gynnwys Pecyn Adnoddau Amlgyfrwng Cymdeithaseg (Coleg Cymraeg Cenedlaethol) a phrosiect Deunyddiau Dysgu Digidol (Coleg Cymraeg Cenedlaethol/HEFCW). Enillodd eu Pecyn Adnoddau Amlgyfrwng Cymdeithaseg wobr genedlaethol am Adnodd Cyfrwng Cymraeg Rhagorol yn Wobrau Blynyddol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn 2023. Mae ganddo ddiddordeb mawr mewn defnyddio technolegau digidol yn ei addysgu er mwyn cyfoethogi’r profiad myfyrwyr a disgyblion, yn enwedig yn y byd addysg cyfrwng Cymraeg.
Pecyn Adnoddau Amlgyfrwng Cymdeithaseg (Prys a Hodges)
https://www.porth.ac.uk/en/group-collection/paac-pecyn-adnoddau-amlgyfrwng-cymraeg
Project Deunyddiau Dysgu Digidol (HEFCW/Coleg Cymraeg Cenedlaethol – Prys PI)
Cymdeithaseg: Astudio Gymru Gyfoes
https://www.porth.ac.uk/en/collection/cymdeithaseg-astudio-cymru-gyfoes
Cymdeithaseg: Theori Gymdeithasegol
https://www.porth.ac.uk/en/collection/gwyddorau-cymdeithas-theori-gymdeithasegol
Darlledu
Mae Cynog yn cyfrannu yn gyson i'r cyfryngau darlledu yng Nghymru gan ymddangos ar y radio dros 40 o weithiau ar BBC Radio Cymru yn tafod materion cyfoes, gan gynnwys materion sy’n ymwneud a’r iaith Gymraeg, rôl diwylliant a normau cymdeithasol ar ymddygiad, a newid cymdeithasol, yn enwedig o fewn y byd digidol. Yn ogystal a radio, mae hefyd yn cyfrannu i raglenni S4C, yn ogystal a’r cyfryngau print.
Dyma ddetholiad o’i eitemau mae wedi cyfrannu atynt.
AI: Y Gwalch neu’r Gwych
https://www.bbc.co.uk/programmes/m0023fs4
Codi bawd ac ysgwyd llaw (Podlediad Aled Hughes, BBC Radio Cymru)
https://www.bbc.co.uk/programmes/p09ysqqh
Manylion Cyswllt

Cyhoeddiadau (31)
- Cyhoeddwyd
Migration through a language planning lens: A typology of Welsh speakers' migration decisions
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid
- Cyhoeddwyd
Y Gymraeg yn yr Oes Ddigidol: Ystyriaethau ar gyfer addysg ôl 16
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gynhadledd › Papur
- Cyhoeddwyd
Language, Education and COmmunity in a Digital Age: A Welsh Digital Resources Case Study
Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod › adolygiad gan gymheiriaid
Gweithgareddau a dyfarniadau proffesiynol (6)
Prosiect Heriau Recrwitio Gweithu Dwyieithog - Gweithdai Cyd-gynhyrchu
Gweithgaredd: Arall › Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Darlith/trafodaeth/seminar gyhoeddus
Language, Education and Community in the Digital Age: A Welsh Case Study
Gweithgaredd: Sgwrs neu gyflwyniad › Sgwrs wadd
O Covid 19 i BLM: Anghydroddoldebau Cymdeithasol yng Nghymru
Gweithgaredd: Sgwrs neu gyflwyniad › Sgwrs wadd
Prosiectau (5)
Cronfa Her - Arfor 2
Project: Ymchwil
KESS II MRes with Rondo Media- BUK2E075
Project: Ymchwil
KESS II PhD upgrade Project with Cwmni Da
Project: Ymchwil