Cyllid a mynediad at ofal hosbis yng Nghymru

Research output: Book/ReportOther report

Standard Standard

Cyllid a mynediad at ofal hosbis yng Nghymru. / Spencer, Llinos; Davies, Jacob; Pisavadia, Kalpa et al.
2024. 34 p.

Research output: Book/ReportOther report

HarvardHarvard

APA

CBE

MLA

VancouverVancouver

Author

RIS

TY - BOOK

T1 - Cyllid a mynediad at ofal hosbis yng Nghymru

AU - Spencer, Llinos

AU - Davies, Jacob

AU - Pisavadia, Kalpa

AU - Edwards, Rhiannon Tudor

PY - 2024/4/24

Y1 - 2024/4/24

N2 - Crynodeb GweithredolGofal lliniarol a gofal diwedd oes yng NghymruMae nifer cynyddol y bobl oedrannus sy’n byw yng Nghymru, a heriau recriwtio a chadw staff ym maes gofal cymdeithasol, yn rhoi mwy o bwysau yn gysylltiedig â chyflenwad a galw ar adnoddau gofal lliniarol (Skills for Care, 2019; Llywodraeth Cymru, 2017). Gwelwyd cynnydd sylweddol yn nifer y cleifion sy’n cael eu cyfeirio at ofal lliniarol oherwydd bod ganddynt fwy nag un cyflwr meddygol yn dilyn COVID-19, a galwyd ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi mwy er mwyn mynd i’r afael â phroblemau yn ymwneud â’r gweithlu gofal lliniarol (Bryer et al., 2022; Fenton et al., 2022; Rawlinson et al., 2021). Defnyddir nifer o wahanol fodelau gofal lliniarol yng Nghymru, gan gynnwys hosbis yn y cartref, gofal hosbis i gleifion mewnol a chyfuniad o ddulliau gweithredu (Luta et al., 2021; Mann et al., 2019). Yng Nghymru, sefydlwyd Bwrdd Gweithredu Gofal Diwedd Oes (Llywodraeth Cymru, 2017, 2021) er mwyn sicrhau un dull gweithredu cenedlaethol ar gyfer gofal diwedd oes drwy Gymru gyfan, gan ddarparu arweinyddiaeth a chefnogaeth i gymheiriaid. Mae’r Bwrdd Gweithredu Gofal Diwedd Oes yn fforwm i hybu newid a goruchwylio ymdrechion y Bwrdd Iechyd i gyflawni gweledigaeth Llywodraeth Cymru o wella gofal diwedd oes yng Nghymru (Llywodraeth Cymru, 2017). Diben yr adroddiad hwnMae’r adroddiad hwn yn cynnwys dadansoddiad lefel uchel o’r incwm yr adroddwyd amdano gan hosbisau yng Nghymru, ynghyd ag astudiaethau achos enghreifftiol o ddarparu gofal hosbis i wyth claf yng Ngogledd Cymru. Mae’n tynnu sylw at rôl bwysig hosbisau wrth ddarparu gofal a lleihau’r pwysau ar adnoddau ysbytai yng Nghymru.Mynediad at gyllid gofal diwedd oes ledled CymruYn hanesyddol, mae hosbisau yng Nghymru wedi derbyn cyllid cyhoeddus o ffynonellau amrywiol. Mae gan rai hosbisau drefniadau comisiynu clir neu Gytundebau Lefel Gwasanaeth â Byrddau Iechyd sy’n cyfrannu tuag at wasanaethau craidd megis gwelyau i gleifion mewnol neu wasanaethau hosbis yn y cartref, ond nid pob un. Er 2008, mae cyllid wedi’i ddarparu i hosbisau ledled Cymru drwy Lywodraeth Cymru yn dilyn adolygiad Sugar (Sugar et al., 2008). Roedd hyn yn golygu bod rhai hosbisau yn derbyn cyllid gan Fyrddau Iechyd Lleol a chan Lywodraeth Cymru, a oedd yn ffurfio cyfanswm eu cyllid. Yn 2016, trosglwyddodd Llywodraeth Cymru y cyfrifoldeb am yr holl gyllid i Fyrddau Iechyd dan drefniant wedi’i glustnodi. Ein hamcanion1) Adolygu lefel y cyllid statudol ar gyfer pob hosbis oedolion yng Nghymru yn y flwyddyn 2019 (cyn pandemig COVID), gan ddefnyddio data cyfrifon sydd ar gael i’r cyhoedd gan Dŷ’r Cwmnïau. 2) Cyfrifo a rhagweld faint o welyau hosbis y bydd eu hangen yng Nghymru yn unol â’r Fformiwla Cyllido Gofal Lliniarol Arbenigol ar gyfer Cymru (Finlay, 2009). 3) Cymharu a gwrthgyferbynnu costau gofal diwedd oes ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau hosbis drwy astudiaethau achos enghreifftiol a gafwyd o waith gyda Hosbis Dewi Sant, Llandudno, â chostau gofal diwedd oes mewn ysbyty yng Nghymru. CanfyddiadauMae’r cyllid statudol a dderbynnir gan hosbisau ledled Cymru yn amrywio. Roedd cyllid statudol fel cyfran o wariant gofal hosbisau ledled Cymru yn 2019 yn amrywio o 10% i 71%. Roedd cyllid statudol fel cyfran o wariant gofal hosbisau yng Ngogledd Cymru yn amrywio o 15% i 19%, ac yn Ne Cymru a Phowys, roedd y cyfrannau’n amrywio o 10% i 71%. Roedd cyfran gyfartalog y cyllid statudol ledled Cymru yn 30%. Roedd hyn yn dangos dibyniaeth fawr ar roddion elusennol i ategu’r incwm statudol yn yr hosbisau hynny nad ydynt yn cael eu rheoli a’u hariannu yn uniongyrchol gan y GIG. Gall hosbisau yng Nghymru leihau pwysau ar wariant cyhoeddus drwy eu modelau ariannu integredig, mewn cymhariaeth â gofal diwedd oes mewn ysbyty sy’n cael ei ariannu’n gyfan gwbl ag arian cyhoeddus drwy Fyrddau Iechyd Lleol.Drwy ddefnyddio’r Fformiwla Cyllido Gofal Lliniarol Arbenigol ar gyfer Cymru, ynghyd â’r amcangyfrifon poblogaeth diweddaraf ar gyfer Cymru, cyfrifwyd bod angen 114 yn rhagor o welyau hosbis yng Nghymru ar hyn o bryd (Finlay, 2009; Llywodraeth Cymru, 2022b). Drwy gymhwyso’r fformiwla gwelir bod angen cyfanswm o 211 o welyau hosbis yng Nghymru ar hyn o bryd. Yn 2018, dim ond 97 o welyau hosbis i oedolion sy’n gleifion mewnol oedd ar gael yng Nghymru (Hospice UK, 2018). Nid yw’r nifer hwn yn cyfrif gwelyau hosbis ar gyfer plant a phobl ifanc. Cyflwynir cost gofal diwedd oes a ddarperir gan hosbisau ac ysbytai yng Nghymru drwy astudiaethau achos enghreifftiol o ddarparu gofal i wyth claf yn Hosbis Dewi Sant, Llandudno. Roedd cost claf hosbis a oedd yn aros am bedwar diwrnod ar ddeg yn amrywio o £5,131 i £6,332, â chost gymedrig o £5,708 y claf. Roedd yr opsiwn rhataf mewn ysbyty ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn ystod yr un cyfnod yn £6,860. Gellir arbed swm sylweddol o wariant cyhoeddus drwy wneud mwy o ddefnydd o ofal mewn hosbis, o ystyried mai dim ond 30% yw’r cyfraniad statudol cyfartalog i hosbisau. Mae hosbisau’n cyfrannu 70% o gost y gofal drwy eu dulliau codi arian eu hunain, ac yn y pen draw yn lleihau gwariant cyhoeddus drwy’r model ariannu ar y cyd. Argymhellion • Dylid adolygu cyllid hosbisau yng Nghymru, er mwyn cysoni dyraniadau cyllid yn well ar draws Byrddau Iechyd i adlewyrchu dwysedd poblogaeth, lleoliadau trefol a gwledig ac unrhyw wasanaethau eraill sydd ar gael.• Yn seiliedig ar ddadleuon effeithlonrwydd a thegwch, dylid cynyddu cyllid er mwyn darparu’r gefnogaeth orau i unigolion ag achosion cymhleth sydd angen gofal lliniarol. • Dylid archwilio patrymau yn ymwneud â dymuniadau cleifion ar gyfer gofal diwedd oes a chyflunio gwasanaethau yn unol â hynny. • Mae angen i ofal diwedd oes gael ei gynrychioli’n dda ar lefel Bwrdd Iechyd ym mhob Bwrdd Iechyd yng Nghymru. Byddai hyn yn adlewyrchu gwell cysylltiad rhwng gofal acíwt, gofal cymdeithasol a’r trydydd sector yng Nghymru.• Mae staff hosbis mewn sefyllfa dda i gyfrannu tuag at addysgu staff meddygol, staff nyrsio a myfyrwyr yn y dyfodol er mwyn cefnogi amgylchedd gwell mewn ysbytai ar ddiwedd oes.Ymchwil yn y dyfodol• Dylai ymchwil yn y dyfodol ymchwilio i ansawdd gofal diwedd oes wedi’i deilwra mewn gwasanaethau hosbis ledled Cymru â phwyslais ar gost a budd i’r gymdeithas ehangach, gan gynnwys ffactorau cost cyfle megis yr effaith ar gynhyrchiant aelodau o’r teulu sy’n ofalwyr yn yr economi ehangach. • Byddai casglu costau manwl ar gyfer gofal diwedd oes mewn hosbis ac mewn ysbyty yn caniatáu dadansoddiadau economaidd yn y dyfodol, gan gynnwys rhagweld galw a modelu dulliau o ddarparu gwasanaeth.  

AB - Crynodeb GweithredolGofal lliniarol a gofal diwedd oes yng NghymruMae nifer cynyddol y bobl oedrannus sy’n byw yng Nghymru, a heriau recriwtio a chadw staff ym maes gofal cymdeithasol, yn rhoi mwy o bwysau yn gysylltiedig â chyflenwad a galw ar adnoddau gofal lliniarol (Skills for Care, 2019; Llywodraeth Cymru, 2017). Gwelwyd cynnydd sylweddol yn nifer y cleifion sy’n cael eu cyfeirio at ofal lliniarol oherwydd bod ganddynt fwy nag un cyflwr meddygol yn dilyn COVID-19, a galwyd ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi mwy er mwyn mynd i’r afael â phroblemau yn ymwneud â’r gweithlu gofal lliniarol (Bryer et al., 2022; Fenton et al., 2022; Rawlinson et al., 2021). Defnyddir nifer o wahanol fodelau gofal lliniarol yng Nghymru, gan gynnwys hosbis yn y cartref, gofal hosbis i gleifion mewnol a chyfuniad o ddulliau gweithredu (Luta et al., 2021; Mann et al., 2019). Yng Nghymru, sefydlwyd Bwrdd Gweithredu Gofal Diwedd Oes (Llywodraeth Cymru, 2017, 2021) er mwyn sicrhau un dull gweithredu cenedlaethol ar gyfer gofal diwedd oes drwy Gymru gyfan, gan ddarparu arweinyddiaeth a chefnogaeth i gymheiriaid. Mae’r Bwrdd Gweithredu Gofal Diwedd Oes yn fforwm i hybu newid a goruchwylio ymdrechion y Bwrdd Iechyd i gyflawni gweledigaeth Llywodraeth Cymru o wella gofal diwedd oes yng Nghymru (Llywodraeth Cymru, 2017). Diben yr adroddiad hwnMae’r adroddiad hwn yn cynnwys dadansoddiad lefel uchel o’r incwm yr adroddwyd amdano gan hosbisau yng Nghymru, ynghyd ag astudiaethau achos enghreifftiol o ddarparu gofal hosbis i wyth claf yng Ngogledd Cymru. Mae’n tynnu sylw at rôl bwysig hosbisau wrth ddarparu gofal a lleihau’r pwysau ar adnoddau ysbytai yng Nghymru.Mynediad at gyllid gofal diwedd oes ledled CymruYn hanesyddol, mae hosbisau yng Nghymru wedi derbyn cyllid cyhoeddus o ffynonellau amrywiol. Mae gan rai hosbisau drefniadau comisiynu clir neu Gytundebau Lefel Gwasanaeth â Byrddau Iechyd sy’n cyfrannu tuag at wasanaethau craidd megis gwelyau i gleifion mewnol neu wasanaethau hosbis yn y cartref, ond nid pob un. Er 2008, mae cyllid wedi’i ddarparu i hosbisau ledled Cymru drwy Lywodraeth Cymru yn dilyn adolygiad Sugar (Sugar et al., 2008). Roedd hyn yn golygu bod rhai hosbisau yn derbyn cyllid gan Fyrddau Iechyd Lleol a chan Lywodraeth Cymru, a oedd yn ffurfio cyfanswm eu cyllid. Yn 2016, trosglwyddodd Llywodraeth Cymru y cyfrifoldeb am yr holl gyllid i Fyrddau Iechyd dan drefniant wedi’i glustnodi. Ein hamcanion1) Adolygu lefel y cyllid statudol ar gyfer pob hosbis oedolion yng Nghymru yn y flwyddyn 2019 (cyn pandemig COVID), gan ddefnyddio data cyfrifon sydd ar gael i’r cyhoedd gan Dŷ’r Cwmnïau. 2) Cyfrifo a rhagweld faint o welyau hosbis y bydd eu hangen yng Nghymru yn unol â’r Fformiwla Cyllido Gofal Lliniarol Arbenigol ar gyfer Cymru (Finlay, 2009). 3) Cymharu a gwrthgyferbynnu costau gofal diwedd oes ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau hosbis drwy astudiaethau achos enghreifftiol a gafwyd o waith gyda Hosbis Dewi Sant, Llandudno, â chostau gofal diwedd oes mewn ysbyty yng Nghymru. CanfyddiadauMae’r cyllid statudol a dderbynnir gan hosbisau ledled Cymru yn amrywio. Roedd cyllid statudol fel cyfran o wariant gofal hosbisau ledled Cymru yn 2019 yn amrywio o 10% i 71%. Roedd cyllid statudol fel cyfran o wariant gofal hosbisau yng Ngogledd Cymru yn amrywio o 15% i 19%, ac yn Ne Cymru a Phowys, roedd y cyfrannau’n amrywio o 10% i 71%. Roedd cyfran gyfartalog y cyllid statudol ledled Cymru yn 30%. Roedd hyn yn dangos dibyniaeth fawr ar roddion elusennol i ategu’r incwm statudol yn yr hosbisau hynny nad ydynt yn cael eu rheoli a’u hariannu yn uniongyrchol gan y GIG. Gall hosbisau yng Nghymru leihau pwysau ar wariant cyhoeddus drwy eu modelau ariannu integredig, mewn cymhariaeth â gofal diwedd oes mewn ysbyty sy’n cael ei ariannu’n gyfan gwbl ag arian cyhoeddus drwy Fyrddau Iechyd Lleol.Drwy ddefnyddio’r Fformiwla Cyllido Gofal Lliniarol Arbenigol ar gyfer Cymru, ynghyd â’r amcangyfrifon poblogaeth diweddaraf ar gyfer Cymru, cyfrifwyd bod angen 114 yn rhagor o welyau hosbis yng Nghymru ar hyn o bryd (Finlay, 2009; Llywodraeth Cymru, 2022b). Drwy gymhwyso’r fformiwla gwelir bod angen cyfanswm o 211 o welyau hosbis yng Nghymru ar hyn o bryd. Yn 2018, dim ond 97 o welyau hosbis i oedolion sy’n gleifion mewnol oedd ar gael yng Nghymru (Hospice UK, 2018). Nid yw’r nifer hwn yn cyfrif gwelyau hosbis ar gyfer plant a phobl ifanc. Cyflwynir cost gofal diwedd oes a ddarperir gan hosbisau ac ysbytai yng Nghymru drwy astudiaethau achos enghreifftiol o ddarparu gofal i wyth claf yn Hosbis Dewi Sant, Llandudno. Roedd cost claf hosbis a oedd yn aros am bedwar diwrnod ar ddeg yn amrywio o £5,131 i £6,332, â chost gymedrig o £5,708 y claf. Roedd yr opsiwn rhataf mewn ysbyty ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn ystod yr un cyfnod yn £6,860. Gellir arbed swm sylweddol o wariant cyhoeddus drwy wneud mwy o ddefnydd o ofal mewn hosbis, o ystyried mai dim ond 30% yw’r cyfraniad statudol cyfartalog i hosbisau. Mae hosbisau’n cyfrannu 70% o gost y gofal drwy eu dulliau codi arian eu hunain, ac yn y pen draw yn lleihau gwariant cyhoeddus drwy’r model ariannu ar y cyd. Argymhellion • Dylid adolygu cyllid hosbisau yng Nghymru, er mwyn cysoni dyraniadau cyllid yn well ar draws Byrddau Iechyd i adlewyrchu dwysedd poblogaeth, lleoliadau trefol a gwledig ac unrhyw wasanaethau eraill sydd ar gael.• Yn seiliedig ar ddadleuon effeithlonrwydd a thegwch, dylid cynyddu cyllid er mwyn darparu’r gefnogaeth orau i unigolion ag achosion cymhleth sydd angen gofal lliniarol. • Dylid archwilio patrymau yn ymwneud â dymuniadau cleifion ar gyfer gofal diwedd oes a chyflunio gwasanaethau yn unol â hynny. • Mae angen i ofal diwedd oes gael ei gynrychioli’n dda ar lefel Bwrdd Iechyd ym mhob Bwrdd Iechyd yng Nghymru. Byddai hyn yn adlewyrchu gwell cysylltiad rhwng gofal acíwt, gofal cymdeithasol a’r trydydd sector yng Nghymru.• Mae staff hosbis mewn sefyllfa dda i gyfrannu tuag at addysgu staff meddygol, staff nyrsio a myfyrwyr yn y dyfodol er mwyn cefnogi amgylchedd gwell mewn ysbytai ar ddiwedd oes.Ymchwil yn y dyfodol• Dylai ymchwil yn y dyfodol ymchwilio i ansawdd gofal diwedd oes wedi’i deilwra mewn gwasanaethau hosbis ledled Cymru â phwyslais ar gost a budd i’r gymdeithas ehangach, gan gynnwys ffactorau cost cyfle megis yr effaith ar gynhyrchiant aelodau o’r teulu sy’n ofalwyr yn yr economi ehangach. • Byddai casglu costau manwl ar gyfer gofal diwedd oes mewn hosbis ac mewn ysbyty yn caniatáu dadansoddiadau economaidd yn y dyfodol, gan gynnwys rhagweld galw a modelu dulliau o ddarparu gwasanaeth.  

KW - hosibs

KW - Cymru

KW - hosibs cartref

KW - cyllid

KW - mynediad

KW - ysbyty

KW - gofal lliniarol

KW - gofal diwedd oes

M3 - Adoddiad Arall

BT - Cyllid a mynediad at ofal hosbis yng Nghymru

ER -