Ei phwer ni phaid: gwragedd ym myd baledi'r 19eg ganrif

Electronic versions

Documents

  • Gwawr Jones

Abstract

Ceir priodas unigryw rhwng alaw a geiriau, a’r briodas honno wedi bodoli ar hyd y canrifoedd. Yn y Gymru Gymraeg, mae cerddoriaeth a chaneuon gwerin yn elfen gynhenid o’r fagwraeth draddodiadol, ac yn sicr, cefais innau fy nhrwytho yn y traddodiad hwn. Mae’r diddordeb hwnnw rhwng y gair a’r gân wedi bodoliynoferioed, a pharhaodd y diddordeb hyd ddyddiau Prifysgol lle’r astudiaisamradd gyd-anrhydedd mewn Cerddoriaeth a Chymraeg ac chanolbwyntio arybriodas hon gyda manylder. Nod a bwriad y traethawd hwn yw camu yn ôl i fyd baledwyr y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Cloddio i fyd y ferch yng nghyd-destun y baledi yng nghasgliad Cerddi Bangor yw’r amcan penodol, ac asesu adysgu am ei chyfraniad a’i statws ar yr aelwyd ac yn y gymdeithas ehangach. Mae’r baledwyr yn gymeriadau sydd wedi diflannu o’n cymdeithas yn yr unfed ganrif ar hugain i raddau helaeth. Ond, mae eu dylanwad, eu ffraethineb, eu personoliaethau a’u sylwebaeth graff o’r gymdeithas yn parhaui’n diddorihyd heddiw. Yn bennaf, canolbwyntirymaar agweddau llenyddol a’r themâu yn y baledi, ond sonniryn ogystal am yr alawonsy’n cyd-fynd â’rgeiriaua’r berthynas rhwng y dôn a’r geiriau. Rwyf yn fwriadol wedi osgoi trafodybaledi sy’n ymwneud â gwŷr y cyfnod,ondheb euhalltudioyn llwyro’r ymdriniaethychwaith!Cafwydcyfrol eisoes sy’n ymwneud â merched ym maledi’r ddeunawfed ganrif, felly cyfyngir y traethawd hwn i’r bedwaredd ganrif ar bymtheg gan ganolbwyntio ar gymdeithas y cyfnod a’r modd y’i hadlewyrchir ymmaledi’r cyfnod.
Mae’r wybodaeth gyffredinol ageiram y baledi ym mhob cyfnod yn lled gyfoethog, ond prin yw’r ymdriniaeth ar y wraig yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Aethpwyd i'r afael felly â’r amrywiaeth a geiro fewn ei phersonoliaeth wrth gamu o’r naill thema i’r llall a’r agwedd gymdeithasol tuag atia ddawi’r amlwgtrwy gyfrwng y baledi. Fy nod a’m hamcan felly yw cyfleu’rcyfoeth a’r amrywiaethym myd a bywyd y ferchyng nghyd-destun amlochrog y balediyng nghasgliad Cerddi Bangor.

Details

Original languageEnglish
Awarding Institution
Supervisors/Advisors
Award dateJan 2010