Nid trwy sbectol y sais y dylai Cymro edrych ar wlad ddieithe

Electronic versions

Documents

    Research areas

  • PhD, School of Welsh and Celtic Studies, rwseg, cyfieithu, T. Hudson-Williams

Abstract

Mae’r astudiaeth hon yn canolbwyntio ar fywyd a gwaith T. Hudson-Williams (1873-1961), a fu’n Athro Groeg ym Mhrifysgol Bangor rhwng 1904 a 1940. Canolbwyntir ar ei gyfieithiadau Cymraeg o lenyddiaeth Rwseg, yn arbennig y ddau gyfieithiad canlynol: Yr Wylan, cyfieithiad o’r ddrama Чайка (Seagull) gan Anton Tshechoff ac Y Tadau a’r Plant, cyfieithiad o’r nofel Отцы и дети (Fathers and Sons) gan Ifan Twrgenieff.
Dyma’r astudiaeth gyntaf o fywyd a gwaith T. Hudson-Williams, ac felly cynhwysir pennod gofiannol fanwl er mwyn sicrhau nad yw ei hanes yn mynd yn angof. Yn y bennod hon, archwilir y dylanwadau a fu arno ac edrychir ar rai o’i brif gyhoeddiadau. Ceir hefyd drafodaeth ar waith anghyhoeddedig T. Hudson-Williams.
Yn yr ail bennod, canolbwyntir ar waith T. Hudson-Williams fel ieithydd. Trwy ddadansoddi ei erthyglau a’i ysgrifau niferus yn y maes hwn, yn ogystal â’r ddwy gyfrol, A Short Introduction to the Study of Comparative Grammar (1935) ac Atgofion am Gaernarfon (1950), amlygir agwedd fodern, ryddfrydol T. Hudson-Williams at iaith.
Mae’r bennod ddilynol yn dadansoddi rhai o gyfieithiadau cynharaf T. Hudson-Williams o lenyddiaeth Rwseg, sef ei gyfieithiadau o ddramâu Anton Tshechoff, gyda phwyslais arbennig ar Yr Wylan. Gofynnir beth a symbylodd T. Hudson-Williams i gyfieithu’r ddrama hon, a beth yw ei harwyddocâd fel rhan o’r canon llenyddol Cymraeg? Er mwyn ateb y cwestiynau hyn, ystyrir cyd-destun y ddrama Gymraeg yn ystod hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif. Awgrymir hefyd y bu cyfieithu yn fodd i T. Hudson-Williams fynegi ei syniadau am yr iaith Gymraeg.
Yn y drydedd bennod, datblygir y drafodaeth ar y berthynas rhwng cyfieithiadau T. Hudson-Williams a’i waith ym maes ieithyddiaeth ymhellach. Dadansoddir ieithwedd Ewropeaidd Ifan Twrgenieff a gwelir sut mae T. Hudson-Williams yn trawsblannu’r ieithwedd hon i’w gyfieithiad, Y Tadau a’r Plant. At hynny, astudir agwedd T. Hudson-Williams at eiriau benthyg yn y Gymraeg ac edrychir ar ei ddefnydd ohonynt yn y cyfieithiad hwn. Gwelir cyfochredd rhwng agwedd T. Hudson-Williams a Twrgenieff at eiriau benthyg.

Details

Original languageWelsh
Awarding Institution
Supervisors/Advisors
Award date5 Aug 2019