Proffilio gwallau : dadansoddiad o'r gwallau a wneir gan gyfieithwyr Saesneg-Cymraeg

Electronic versions

Documents

  • Dawn Wooldridge

Abstract

Cynigir yn y traethawd hir hwn ddadansoddiad o’r math o wallau a wneir yn gyffredin wrth gyfieithu o’r Saesneg i’r Gymraeg, a hynny er mwyn galluogi’r rhai sy’n darparu hyfforddiant yn y maes i gynnig hyfforddiant pwrpasol, sydd wedi’i deilwra’n benodol i anghenion y diwydiant cyfieithu yng Nghymru. Yn rhan gyntaf y traethawd (Penodau 1 & 2) rhoir gwybodaeth gefndir yr ymchwil. Trafodir, i ddechrau, y diwydiant cyfieithu yng Nghymru a’r heriau y mae’n eu hwynebu; cyflwynir wedyn yr ochr ddamcaniaethol, gan fanylu ar y cysyniad o ‘ansawdd’ a’r hyn a olygir gan ‘wall’ yng nghyd-destun cyfieithu. Yn ail ran y traethawd cyflwynir yr ymchwil ei hun. Amlinellir ym Mhennod 3 y fethodoleg a ddefnyddiwyd i gynnal yr ymchwil, sef methodoleg wedi’i seilio ar ieithyddiaeth gorpws, a disgrifir cynnwys y corpws cyfochrog a grëwyd at ddiben y prosiect hwn. Wedyn, yn y ddwy bennod nesaf cynigir dadansoddiad meintiol ac ansoddol o’r gwallau systematig a welwyd yn y corpws, gan ymdrin â gwallau ‘iaith’ ym Mhennod 4 a gwallau ‘cyfieithu’ ym Mhennod 5. Trafodir achoseg bosibl y gwallau a’r gwahaniaethau a welir rhwng gwaith cyw gyfieithwyr a gwaith cyfieithwyr profiadol, gan ystyried y goblygiadau o ran hyfforddi cyfieithwyr. Mae’r traethawd yn cloi, ym Mhennod 6, drwy grynhoi canfyddiadau’r ymchwil, cyn nodi sawl maes lle y gellid gwneud ymchwil pellach.

Details

Original languageWelsh
Awarding Institution
  • Bangor University
Supervisors/Advisors
Award date11 Nov 2015