Dr Cynog Prys

Uwch Darlithydd mewn Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol (Cyfrwng Cymraeg)

Contact info

 Trosolwg 

 Mae Dr Cynog Prys yn Uwch Ddarlithydd ym Mhrifysgol Bangor ble mae’n arbenigo ym meysydd cymdeithaseg, polisi cymdeithasol a chynllunio ieithyddol. Mae ganddo Ddoethuriaeth o Brifysgol Bangor (2011), ac MEd o Brifysgol Rio Grand, Ohio (2005), ynghyd a gradd Dosbarth Cyntaf mewn Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol (Prifysgol Bangor,2003). Mae hefyd yn Uwch Gymrawd or Higher Education Acadamy. Enillodd ei gyfres o e-lyfrau Cymdeithaseg, Pecyn Adnoddau Amlgyfrwng Cymdeithaseg (Prys a Hodges) wobr genedlaethol am Adnodd Dysgu Rhagorol y Flwyddyn 2023, gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.  

 

Ei brif faes ymchwil academaidd yw astudio’r defnydd o Gymraeg ym mywyd bob dydd, gyda'i ymchwil yn canolbwyntio ar y defnydd o Gymraeg gan y cyhoedd mewn amrywiaeth o barthau gwahanol, gan gynnwys y gymuned, ym maes iechyd, y trydydd sector, a’r economi. Yn ogystal a’r meysydd hyn mae’n arbenigo ar y defnydd o ieithoedd lleiafrifol o fewn y parth digidol, gyda’i ddiddordeb presennol yn ffocysu ar deall beth fydd oblygiadau datblygiad ddeallusrwydd artiffisial i siaradwyr ieithoedd lleiafrifol. Mae Cynog yn cyhoeddi gwaith ymchwil yn gyson mewn cyfnodolion rhyngwladol, a mae ei waith yn ymddangos o dogfennau polisi Llywodraeth Cymru, gan gynnwys Cymraeg 2050: Miliwn o Siaradwyr Cymraeg. Gweler ei restr gyhoeddiadau am wybodaeth bellach. 

 

Y Gymraeg yn y Gymdeithas Sifil 

Cynhigiodd doethuriaeth Cynog ddadansoddiad ansoddol o brofiadau gwasanaethau iaith Gymraeg defnyddwyr a darparwyr mudiadau trydydd sector yng Ngwynedd ac Sir Gaerfyrddin (2011). Ers hynny mae’r defnydd o Gymraeg o fewn y gymdeithas sifil wedi bod yn ffocws ar ei waith academaidd, wrth iddo gyhoeddi nifer o adroddiadau ymchwil a chyhoeddiadau academaidd yn astudio’r defnydd o Gymraeg o fewn y gymuned. Yn fwyaf diweddar mae ei waith wedi ffocysu ar y berthynas rhwng y Gymraeg a ffactorau economaidd. Yn 2024 dyfarnwyd grant o Gronfa Her ARFOR iddo i ddatblygu Pecyn Recriwtio Gweithlu Dwyieithog i gynorthwyo cyflogwyr i recriwtio staff gyda sgiliau Cymraeg. Nod hynny yw i gefnogi cyflogwyr i fynd I'r afael a heriau recriwtio, ac hefyd cefnogi cymunedau iaith Gymraeg drwy baru siaradwyr Cymraeg gyda swyddi Cymraeg, o fewn cymunedau ble mae gofid am allfudo oedolion sydd a sgiliau yn yr iaith Gymraeg.  

 

Y Gymraeg yn yr Oes Ddigidol 

Mae Cynog wedi edrych ar y defnydd o Gymraeg yn y byd digidol ers dros 10 mlynedd. Cychwynnodd ei ddiddordeb wrth iddo weithio ar brosiect ymchwil yn edrych ar y defnydd o Gymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol (gweler er enghraifft gwaith Cunliffe et al 2013). Ers hynny mae wedi gweithio ar nifer o brosiectau ymchwil, yn ogystal a goruchwylio doethuriaethau, ym maes iaith a thechnoleg, gan gynnwys gwaith yn edrych ar y modd y mae’r Gymraeg yn cael ei ddefnyddio ar apigau a phlatfformau digidol. Rhwng 2020 a 2023 roedd yn Is Gadeirydd y grwp Hawliau Ieithyddol, rhwydwaith ymchwil Ewropeaidd Language in the Human-Machine Era. Cyfrannodd i, a chydlynodd, nifer o weithdai, cynadleddau a digwyddiadau Ewropeaidd ym maes hawliau ieithyddol yn yr oes ddigidol. 

 

Gweler The Dawn of the Human-Machine Era: A forecast of new and emerging language technologies am enghraifft o waith y rhwydwaith.  

https://jyx.jyu.fi/bitstream/handle/123456789/75737/The%20Forecast%20report%202021%20%28May%2025%2015.40%29.pdf?sequence=6&isAllowed=y 

 

Yn fwy diweddar mae’n aelod o grwp gwaith UniNet (NPLD) ar Deallusrwydd Artiffisial ac Ieithoedd Lleiafrifol. Cyflwynwyd papur a gyd-awdurodd ganddo yng Nghynhadledd yr Network to Promote Linguistic Diversity 20024, sef AI and Minority Language Use.  

 

Comisiynau a Phrosiectau Ymchwil 

Mae gan Cynog hefyd brofiad eang o gyhoeddi adroddiadau wedi ei comisiynu i gyllidwyr allanol i’r Brifysgol, gan gynnwys Comisiynydd y Gymraeg, Llywodraeth Cymru, S4C, BBC Cymru, Mentrau Iaith Cymru, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru ac sefydliadau eraill. Yn ogystal a hynny mae wedi gweithio gyda cwmnïau darlledu gan gynnwys Cwmni Da ac Rondo Media. Cysylltwch gydag ef os hoffech drafod comisiwn am ddarn o waith ymchwil.  

 

Mae hefyd yn goruchwylio nifer o fyfyrwyr doethuriaeth ac myfyrwyr MA ym maes cynllunio ieithyddol. Mae rhain y cynnwys myfyrwyr PhD yn y meysydd canlynol: 

 

  • Deallusrwydd Artiffisial ac Addysg Gymraeg – Beca Owen (Prif Oruchwylydd, noddwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol). 
  • Yr Economi a’r Iaith Gymraeg – Elen Bonner (Prif Oruchwylydd, Ysgoloriaeth Martin Rhisiart, Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol). 
  • Ffactorau sy’n dylanwadu ar lwyddiant caffael iaith yn y gweithle - Dafydd Apolloni (ail oruchwylydd, noddwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol). 
  • Taith iaith: profiadau siaradwyr ifanc o bod yn siaradwyr Gymraeg - Charlotte Amesbury (ail oruchwylydd)  
  • Y Gymraeg o fewn y byd digidol: Profiadau ac agweddau siaradwyr Cymraeg yng Ngwynedd o ddefnyddio apiau Cymraeg neu ddwyieithog - Shân Prichard (Prif Oruchwylydd, Ysgoloriaeth KESS/Cwmni Da).  
  • Rheolaeth Strategol ar hyfforddiant iaith mewn gweithleoedd sector cyhoeddus – Ifor Gruffudd. 
  • Ffactorau yn arferion a dewisiadau gwylio cynulleidfa S4C (Ysgoloriaeth KESS/S4C). 

 

Adnoddau Addysgiadol Digidol 

Yn ogystal â hynny mae ganddo brofiad helaeth o gynhyrchu adnoddau addysgiadol iaith Gymraeg, gan gynnwys Pecyn Adnoddau Amlgyfrwng Cymdeithaseg (Coleg Cymraeg Cenedlaethol) a phrosiect Deunyddiau Dysgu Digidol (Coleg Cymraeg Cenedlaethol/HEFCW). Enillodd eu Pecyn Adnoddau Amlgyfrwng Cymdeithaseg wobr genedlaethol am Adnodd Cyfrwng Cymraeg Rhagorol yn Wobrau Blynyddol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn 2023. Mae ganddo ddiddordeb mawr mewn defnyddio technolegau digidol yn ei addysgu er mwyn cyfoethogi’r profiad myfyrwyr a disgyblion, yn enwedig yn y byd addysg cyfrwng Cymraeg. 

 

Pecyn Adnoddau Amlgyfrwng Cymdeithaseg (Prys a Hodges)  

https://www.porth.ac.uk/en/group-collection/paac-pecyn-adnoddau-amlgyfrwng-cymraeg 

 

Project Deunyddiau Dysgu Digidol (HEFCW/Coleg Cymraeg Cenedlaethol – Prys PI) 

Cymdeithaseg: Astudio Gymru Gyfoes 

https://www.porth.ac.uk/en/collection/cymdeithaseg-astudio-cymru-gyfoes 

Cymdeithaseg: Theori Gymdeithasegol 

https://www.porth.ac.uk/en/collection/gwyddorau-cymdeithas-theori-gymdeithasegol 

 

Darlledu 

Mae Cynog yn cyfrannu yn gyson i'r cyfryngau darlledu yng Nghymru gan ymddangos ar y radio dros 40 o weithiau ar BBC Radio Cymru yn tafod materion cyfoes, gan gynnwys materion sy’n ymwneud a’r iaith Gymraeg, rôl diwylliant a normau cymdeithasol ar ymddygiad,  a newid cymdeithasol, yn enwedig o fewn y byd digidol. Yn ogystal a radio, mae hefyd yn cyfrannu i raglenni S4C, yn ogystal a’r cyfryngau print. 

Dyma ddetholiad o’i eitemau mae wedi cyfrannu atynt. 

AI: Y Gwalch neu’r Gwych 

https://www.bbc.co.uk/programmes/m0023fs4 

Codi bawd ac ysgwyd llaw (Podlediad Aled Hughes, BBC Radio Cymru)  

https://www.bbc.co.uk/programmes/p09ysqqh 

 

  1. Erthygl › Ymchwil › Adolygwyd gan gymheiriaid
  2. E-gyhoeddi cyn argraffu

    Defining economic impact on minority languages: The Case of Wales

    Bonner, E., Prys, C., Mitchelmore, S. & Hodges, R., 21 Maw 2024, (E-gyhoeddi cyn argraffu) Yn: Journal of Multilingual and Multicultural Development. 17 t.

    Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolynErthygladolygiad gan gymheiriaid

  3. Cyhoeddwyd

    Development of a Welsh Language Version of the EQ-5D Health-Related Quality of Life Measure. Stage One: Transition.

    Muntz, R., Edwards, R. T., Tunnage, B., Prys, C. & Roberts, G. W., 1 Ion 2006, Yn: Psychologist in Wales. 18, t. 21-25

    Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolynErthygladolygiad gan gymheiriaid

  4. Cyhoeddwyd

    Does language dominance affect cognitive performance in bilinguals? Lifespan evidence from preschoolers through older adults on card sorting, Simon, and metalinguistic tasks

    Kennedy, I. A., Young, N. E., Gathercole, V. C., Thomas, E. M., Kennedy, I., Prys, C., Young, N., Viñas Guasch N., [. V., Roberts, E. J., Hughes, E. K. & Jones, L., 5 Chwef 2014, Yn: Frontiers in Psychology: Developmental Psychology. 5

    Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolynErthygladolygiad gan gymheiriaid

  5. Cyhoeddwyd

    Migration through a language planning lens: A typology of Welsh speakers' migration decisions

    Bonner, E., Prys, C., Hodges, R. & Mitchelmore, S., 7 Awst 2024, Yn: Current issues in language planning. 25, 4, t. 394-415 22 t.

    Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolynErthygladolygiad gan gymheiriaid

  6. Cyhoeddwyd

    Rhetoric and reality: critical review of language policy and legislation governing official minority language use in health and social care in Wales

    Prys, C., Hodges, R. & Roberts, G., 13 Awst 2021, Yn: Linguistic Minorities & Society Journal/Revue Minorités linguistiques et société. 15-16, t. 87-110

    Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolynErthygladolygiad gan gymheiriaid

  7. Cyhoeddwyd

    Social Exclusion Among Official Language Minority Older Adults: A Rapid Review of the Literature in Canada, Finland and Wales

    Nyqvist, F., Häkkinen, E., Bouchard, L. & Prys, C., 1 Medi 2021, Yn: Journal of Cross-Cultural Gerontology. 36, t. 285-307

    Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolynErthygladolygiad gan gymheiriaid

  8. Cyhoeddwyd

    Social networks and minority languages speakers: the use of social networking sites among young people

    Morris, D., Cunliffe, D. & Prys, C., 1 Ion 2012, Yn: Sociolinguistic Studies. 6, 1, t. 1-20

    Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolynErthygladolygiad gan gymheiriaid

  9. Cyhoeddwyd

    Strategic management of Welsh language training on a macro and micro level

    Gruffydd, I., Hodges, R. & Prys, C., Medi 2023, Yn: Current issues in language planning. 24, 4, t. 380-399 20 t.

    Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolynErthygladolygiad gan gymheiriaid

  10. Cyhoeddwyd

    Teasing apart factors influencing Executive Function performance in bilinguals and monolinguals at different ages

    Gathercole, V. C. M., Thomas, E. M., Viñas Guasch, N., Kennedy, I., Prys, C., Young, N. E., Roberts, E. J., Hughes, E. K. & Jones, L., Hyd 2016, Yn: Linguistic Approaches to Bilingualism. 6, 5, t. 605-647

    Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolynErthygladolygiad gan gymheiriaid

  11. Cyhoeddwyd

    The Use of Welsh in the Third Sector in Wales

    Prys, C., 1 Awst 2010, Yn: Contemporary Wales. 23, 1, t. 184-200

    Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolynErthygladolygiad gan gymheiriaid

  12. Cyhoeddwyd

    The community as a language planning crossroads: macro and micro language planning in communities in Wales

    Hodges, R. & Prys, C., 27 Mai 2019, Yn: Current issues in language planning. 20, 3, t. 207-225

    Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolynErthygladolygiad gan gymheiriaid

  13. Cyhoeddwyd

    Well-being and language: language as a well-being objective in Wales

    Prys, C. & Matthews, D., Medi 2023, Yn: Current issues in language planning. 24, 4, t. 400-419

    Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolynErthygladolygiad gan gymheiriaid

  14. Cyhoeddwyd

    Young Bilinguals' Language Behaviour in Social Networking Sites: The Use of Welsh on Facebook

    Cunliffe, D., Morris, D. & Prys, C., 1 Ebr 2013, Yn: Journal of Computer-Mediated Communication. 18, 3, t. 339-361

    Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolynErthygladolygiad gan gymheiriaid

  15. Pennod › Ymchwil › Heb ei adolygu gan gymheiriaid
  16. Cyhoeddwyd

    Cynllunio ieithyddol a pholisi iaith

    Prys, C. & Hodges, R., 15 Rhag 2020, Cyflwyniad i ieithyddiaeth. Coleg Cymraeg Cenedlaethol, t. 163-169 7 t.

    Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion CynhadleddPennod

  17. Cyhoeddwyd

    Investigating the differential use of Welsh in young speakers’ social networks: a comparison of communication in face-to-face settings, in electronic texts and on social networking sites

    Cunliffe, D., Morris, D., Prys, C., Jones, E. H. (Golygydd) & Uribe-Jongbloed, E. (Golygydd), 1 Ion 2013, Social Media and Minority Languages. 2013 gol. t. 75-86

    Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion CynhadleddPennod

  18. Pennod › Ymchwil › Adolygwyd gan gymheiriaid
  19. Cyhoeddwyd

    Language, Education and COmmunity in a Digital Age: A Welsh Digital Resources Case Study

    Hodges, R. & Prys, C., 16 Ebr 2024, Heritage Languages in the Digital Age: The Case of Autochthonous Minority Languages in Western Europe. Ahrendt, B. & Reershemius, G. (gol.). Multilingual Matters, t. 103-127

    Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion CynhadleddPennodadolygiad gan gymheiriaid

  20. Cyhoeddwyd

    Teasing apart factors influencing executive function performance in bilinguals and monolinguals at different ages: Teasing apart factors

    Gathercole, V., Thomas, E., Vinas-Guasch, N., Kennedy, I., Prys, C., Young, N., Roberts, E., Hughes-Parry, E. & Jones, L., 12 Meh 2019, Bilingualism, Executive Function, and Beyond: Questions and insights. Sekerina, I., Spradlin, L. & Valian, V. (gol.). Amsterdam/Philadelphia: John Benjamins, Cyfrol 57 . t. 295-336 42 t. (Studies in Bilingualism; Cyfrol 57).

    Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion CynhadleddPennodadolygiad gan gymheiriaid

  21. Erthygl › Ymchwil
  22. Cyhoeddwyd

    Cyfrifiad 2021: Pam bu gostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg?

    Prys, C. & Hodges, R., 9 Rhag 2022, BBC Cymru Fyw.

    Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyhoeddiad arbenigolErthygl

  23. Cyhoeddwyd

    Number of Welsh speakers has declined – pandemic disruption to education may be a cause

    Hodges, R. & Prys, C., 15 Rhag 2022, The Conversation.

    Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyhoeddiad arbenigolErthygl

  24. Llyfr › Ymchwil › Heb ei adolygu gan gymheiriaid
  25. Cyhoeddwyd

    Addysg: Pecyn Adnoddau Amlgyfrwng Cymdeithaseg

    Prys, C. & Hodges, R., 24 Maw 2023, (Pecyn Adnoddau Amlgyfrwng Cymdeithaseg)

    Allbwn ymchwil: Llyfr/AdroddiadLlyfr

  26. Cyhoeddwyd

    Anghydraddoldebau Cymdeithasol: Pecyn Adnoddau Amlgyfrwng Cymdeithaseg

    Prys, C. & Hodges, R., 24 Maw 2023, Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

    Allbwn ymchwil: Llyfr/AdroddiadLlyfr

  27. Cyhoeddwyd

    Pecyn Adnoddau Amlgyfrwng Cymdeithaseg: Cyflwyniad i Gymdeithaseg

    Prys, C., Hodges, R. & Aaron, H. (Darlunydd), 1 Gorff 2020, 1 gol. Coleg Cymraeg Cenedlaethol. 30 t.

    Allbwn ymchwil: Llyfr/AdroddiadLlyfr

  28. Cyhoeddwyd

    Pecyn Adnoddau Amlgyfrwng Cymdeithaseg: Y Teulu

    Prys, C., Hodges, R. & Aaron, H. (Darlunydd), 1 Hyd 2018, Coleg Cymraeg Cenedlaethol. 37 t.

    Allbwn ymchwil: Llyfr/AdroddiadLlyfr

  29. Llyfr › Ymchwil › Adolygwyd gan gymheiriaid
  30. Cyhoeddwyd

    Pecyn Adnoddau Amlgyfrwng Cymdeithaseg: Dulliau Ymchwil

    Prys, C., Hodges, R. & Aaron, H. (Darlunydd), 2018, 44 t.

    Allbwn ymchwil: Llyfr/AdroddiadLlyfradolygiad gan gymheiriaid

  31. Adroddiad Comisiwn › Ymchwil › Heb ei adolygu gan gymheiriaid
  32. Cyhoeddwyd

    Defnyddio'r Gymraeg mewn Cymunedau yn Ynys Mon

    Hodges, R., Prys, C., Bonner, E. (Cyfrannwr), Orrell, A. (Cyfrannwr) & Gruffydd, I. (Cyfrannwr), 28 Gorff 2023, 85 t.

    Allbwn ymchwil: Llyfr/AdroddiadAdroddiad Comisiwn

  33. Cyhoeddwyd

    Exploring Welsh speakers’ language use in their daily lives: Ymchwilio i ddefnydd iaith siaradwyr Cymraeg yn eu bywyd bob dydd

    McAllister, F., Blunt, A., Prys, C., Evans, C., Jones, E. & Evans, I., 2 Gorff 2013, Welsh Government. 123 t.

    Allbwn ymchwil: Llyfr/AdroddiadAdroddiad Comisiwn

  34. Cyhoeddwyd

    Gwerthusiad Proses o'r Rhaglen Cymraeg i Blant: Process Evaluation of the Cymraeg for Kids Programme

    Lewis, S., Thomas, H., Grover, T., Glyn, E., Prys, C., Hodges, R. & Roberts, E., 12 Chwef 2019, Welsh Government.

    Allbwn ymchwil: Llyfr/AdroddiadAdroddiad Comisiwn

  35. Cyhoeddwyd

    Pecyn Cymorth Hybu'r Gymraeg yn y Gymuned: A Toolking for Promoting the Welsh Language in the Community

    Hodges, R. & Prys, C., 7 Awst 2017, ISSUU. 152 t.

    Allbwn ymchwil: Llyfr/AdroddiadAdroddiad Comisiwn

  36. Cyhoeddwyd

    The Welsh language and volunteering: Y Gymraeg a Gwirfoddoli

    Prys, C., Hodges, R., Mann, R., Collis, B. & Roberts, R., 2 Hyd 2014, Welsh Government.

    Allbwn ymchwil: Llyfr/AdroddiadAdroddiad Comisiwn

  37. Cyhoeddwyd