Dr Cynog Prys

Uwch Darlithydd mewn Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol (Cyfrwng Cymraeg)

Contact info

 Trosolwg 

 Mae Dr Cynog Prys yn Uwch Ddarlithydd ym Mhrifysgol Bangor ble mae’n arbenigo ym meysydd cymdeithaseg, polisi cymdeithasol a chynllunio ieithyddol. Mae ganddo Ddoethuriaeth o Brifysgol Bangor (2011), ac MEd o Brifysgol Rio Grand, Ohio (2005), ynghyd a gradd Dosbarth Cyntaf mewn Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol (Prifysgol Bangor,2003). Mae hefyd yn Uwch Gymrawd or Higher Education Acadamy. Enillodd ei gyfres o e-lyfrau Cymdeithaseg, Pecyn Adnoddau Amlgyfrwng Cymdeithaseg (Prys a Hodges) wobr genedlaethol am Adnodd Dysgu Rhagorol y Flwyddyn 2023, gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.  

 

Ei brif faes ymchwil academaidd yw astudio’r defnydd o Gymraeg ym mywyd bob dydd, gyda'i ymchwil yn canolbwyntio ar y defnydd o Gymraeg gan y cyhoedd mewn amrywiaeth o barthau gwahanol, gan gynnwys y gymuned, ym maes iechyd, y trydydd sector, a’r economi. Yn ogystal a’r meysydd hyn mae’n arbenigo ar y defnydd o ieithoedd lleiafrifol o fewn y parth digidol, gyda’i ddiddordeb presennol yn ffocysu ar deall beth fydd oblygiadau datblygiad ddeallusrwydd artiffisial i siaradwyr ieithoedd lleiafrifol. Mae Cynog yn cyhoeddi gwaith ymchwil yn gyson mewn cyfnodolion rhyngwladol, a mae ei waith yn ymddangos o dogfennau polisi Llywodraeth Cymru, gan gynnwys Cymraeg 2050: Miliwn o Siaradwyr Cymraeg. Gweler ei restr gyhoeddiadau am wybodaeth bellach. 

 

Y Gymraeg yn y Gymdeithas Sifil 

Cynhigiodd doethuriaeth Cynog ddadansoddiad ansoddol o brofiadau gwasanaethau iaith Gymraeg defnyddwyr a darparwyr mudiadau trydydd sector yng Ngwynedd ac Sir Gaerfyrddin (2011). Ers hynny mae’r defnydd o Gymraeg o fewn y gymdeithas sifil wedi bod yn ffocws ar ei waith academaidd, wrth iddo gyhoeddi nifer o adroddiadau ymchwil a chyhoeddiadau academaidd yn astudio’r defnydd o Gymraeg o fewn y gymuned. Yn fwyaf diweddar mae ei waith wedi ffocysu ar y berthynas rhwng y Gymraeg a ffactorau economaidd. Yn 2024 dyfarnwyd grant o Gronfa Her ARFOR iddo i ddatblygu Pecyn Recriwtio Gweithlu Dwyieithog i gynorthwyo cyflogwyr i recriwtio staff gyda sgiliau Cymraeg. Nod hynny yw i gefnogi cyflogwyr i fynd I'r afael a heriau recriwtio, ac hefyd cefnogi cymunedau iaith Gymraeg drwy baru siaradwyr Cymraeg gyda swyddi Cymraeg, o fewn cymunedau ble mae gofid am allfudo oedolion sydd a sgiliau yn yr iaith Gymraeg.  

 

Y Gymraeg yn yr Oes Ddigidol 

Mae Cynog wedi edrych ar y defnydd o Gymraeg yn y byd digidol ers dros 10 mlynedd. Cychwynnodd ei ddiddordeb wrth iddo weithio ar brosiect ymchwil yn edrych ar y defnydd o Gymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol (gweler er enghraifft gwaith Cunliffe et al 2013). Ers hynny mae wedi gweithio ar nifer o brosiectau ymchwil, yn ogystal a goruchwylio doethuriaethau, ym maes iaith a thechnoleg, gan gynnwys gwaith yn edrych ar y modd y mae’r Gymraeg yn cael ei ddefnyddio ar apigau a phlatfformau digidol. Rhwng 2020 a 2023 roedd yn Is Gadeirydd y grwp Hawliau Ieithyddol, rhwydwaith ymchwil Ewropeaidd Language in the Human-Machine Era. Cyfrannodd i, a chydlynodd, nifer o weithdai, cynadleddau a digwyddiadau Ewropeaidd ym maes hawliau ieithyddol yn yr oes ddigidol. 

 

Gweler The Dawn of the Human-Machine Era: A forecast of new and emerging language technologies am enghraifft o waith y rhwydwaith.  

https://jyx.jyu.fi/bitstream/handle/123456789/75737/The%20Forecast%20report%202021%20%28May%2025%2015.40%29.pdf?sequence=6&isAllowed=y 

 

Yn fwy diweddar mae’n aelod o grwp gwaith UniNet (NPLD) ar Deallusrwydd Artiffisial ac Ieithoedd Lleiafrifol. Cyflwynwyd papur a gyd-awdurodd ganddo yng Nghynhadledd yr Network to Promote Linguistic Diversity 20024, sef AI and Minority Language Use.  

 

Comisiynau a Phrosiectau Ymchwil 

Mae gan Cynog hefyd brofiad eang o gyhoeddi adroddiadau wedi ei comisiynu i gyllidwyr allanol i’r Brifysgol, gan gynnwys Comisiynydd y Gymraeg, Llywodraeth Cymru, S4C, BBC Cymru, Mentrau Iaith Cymru, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru ac sefydliadau eraill. Yn ogystal a hynny mae wedi gweithio gyda cwmnïau darlledu gan gynnwys Cwmni Da ac Rondo Media. Cysylltwch gydag ef os hoffech drafod comisiwn am ddarn o waith ymchwil.  

 

Mae hefyd yn goruchwylio nifer o fyfyrwyr doethuriaeth ac myfyrwyr MA ym maes cynllunio ieithyddol. Mae rhain y cynnwys myfyrwyr PhD yn y meysydd canlynol: 

 

  • Deallusrwydd Artiffisial ac Addysg Gymraeg – Beca Owen (Prif Oruchwylydd, noddwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol). 
  • Yr Economi a’r Iaith Gymraeg – Elen Bonner (Prif Oruchwylydd, Ysgoloriaeth Martin Rhisiart, Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol). 
  • Ffactorau sy’n dylanwadu ar lwyddiant caffael iaith yn y gweithle - Dafydd Apolloni (ail oruchwylydd, noddwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol). 
  • Taith iaith: profiadau siaradwyr ifanc o bod yn siaradwyr Gymraeg - Charlotte Amesbury (ail oruchwylydd)  
  • Y Gymraeg o fewn y byd digidol: Profiadau ac agweddau siaradwyr Cymraeg yng Ngwynedd o ddefnyddio apiau Cymraeg neu ddwyieithog - Shân Prichard (Prif Oruchwylydd, Ysgoloriaeth KESS/Cwmni Da).  
  • Rheolaeth Strategol ar hyfforddiant iaith mewn gweithleoedd sector cyhoeddus – Ifor Gruffudd. 
  • Ffactorau yn arferion a dewisiadau gwylio cynulleidfa S4C (Ysgoloriaeth KESS/S4C). 

 

Adnoddau Addysgiadol Digidol 

Yn ogystal â hynny mae ganddo brofiad helaeth o gynhyrchu adnoddau addysgiadol iaith Gymraeg, gan gynnwys Pecyn Adnoddau Amlgyfrwng Cymdeithaseg (Coleg Cymraeg Cenedlaethol) a phrosiect Deunyddiau Dysgu Digidol (Coleg Cymraeg Cenedlaethol/HEFCW). Enillodd eu Pecyn Adnoddau Amlgyfrwng Cymdeithaseg wobr genedlaethol am Adnodd Cyfrwng Cymraeg Rhagorol yn Wobrau Blynyddol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn 2023. Mae ganddo ddiddordeb mawr mewn defnyddio technolegau digidol yn ei addysgu er mwyn cyfoethogi’r profiad myfyrwyr a disgyblion, yn enwedig yn y byd addysg cyfrwng Cymraeg. 

 

Pecyn Adnoddau Amlgyfrwng Cymdeithaseg (Prys a Hodges)  

https://www.porth.ac.uk/en/group-collection/paac-pecyn-adnoddau-amlgyfrwng-cymraeg 

 

Project Deunyddiau Dysgu Digidol (HEFCW/Coleg Cymraeg Cenedlaethol – Prys PI) 

Cymdeithaseg: Astudio Gymru Gyfoes 

https://www.porth.ac.uk/en/collection/cymdeithaseg-astudio-cymru-gyfoes 

Cymdeithaseg: Theori Gymdeithasegol 

https://www.porth.ac.uk/en/collection/gwyddorau-cymdeithas-theori-gymdeithasegol 

 

Darlledu 

Mae Cynog yn cyfrannu yn gyson i'r cyfryngau darlledu yng Nghymru gan ymddangos ar y radio dros 40 o weithiau ar BBC Radio Cymru yn tafod materion cyfoes, gan gynnwys materion sy’n ymwneud a’r iaith Gymraeg, rôl diwylliant a normau cymdeithasol ar ymddygiad,  a newid cymdeithasol, yn enwedig o fewn y byd digidol. Yn ogystal a radio, mae hefyd yn cyfrannu i raglenni S4C, yn ogystal a’r cyfryngau print. 

Dyma ddetholiad o’i eitemau mae wedi cyfrannu atynt. 

AI: Y Gwalch neu’r Gwych 

https://www.bbc.co.uk/programmes/m0023fs4 

Codi bawd ac ysgwyd llaw (Podlediad Aled Hughes, BBC Radio Cymru)  

https://www.bbc.co.uk/programmes/p09ysqqh 

 

  1. 2025
  2. Dignity Language and Care Conference (Social Care Wales)

    Prys, C. (Siaradwr gwadd) & Hodges, R. (Siaradwr gwadd)

    5 Maw 2025

    Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn digwyddiad neu drefnu digwyddiadCymryd rhan mewn cynhadledd Academaidd

  3. Panel discussion on Impact and Engagement. Lessons learnt from REF 2021 case studies. Guest speaker

    Prys, C. (Siaradwr gwadd) & Hodges, R. (Siaradwr gwadd)

    4 Maw 2025

    Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn digwyddiad neu drefnu digwyddiadCymryd rhan mewn gweithdy, seminar, cwrs Academaidd

  4. Gwynedd & Eryri 2035

    Prys, C. (Siaradwr gwadd)

    14 Chwef 2025

    Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn digwyddiad neu drefnu digwyddiadCymryd rhan mewn cynhadledd Academaidd

  5. Working with Government

    Prys, C. (Siaradwr gwadd) & Hodges, R. (Siaradwr gwadd)

    31 Ion 2025

    Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn digwyddiad neu drefnu digwyddiadCymryd rhan mewn gweithdy, seminar, cwrs Academaidd

  6. Paratoi Cais Grant

    Hodges, R. (Siaradwr gwadd) & Prys, C. (Siaradwr gwadd)

    28 Ion 2025

    Gweithgaredd: Sgwrs neu gyflwyniadSgwrs wadd

  7. Hyfforddiant Ymchwil - Sut i gynnal grwpiau ffocws

    Hodges, R. (Siaradwr) & Prys, C. (Siaradwr)

    10 Ion 2025

    Gweithgaredd: ArallMathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Erthygl neu gyfranogiad yn y cyfryngau

  8. 2024
  9. Taith Iaith i Wlad y Basg

    Hodges, R. (Cyfrannwr), Prys, C. (Cyfrannwr), Bonner, E. (Cyfrannwr) & Owain, L. (Cyfrannwr)

    24 Rhag 2024

    Gweithgaredd: ArallMathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Erthygl neu gyfranogiad yn y cyfryngau

  10. Pecyn Recriwtio Gweithlu Dwyieithog

    Prys, C. (Siaradwr), Bonner, E. (Siaradwr) & Hodges, R. (Siaradwr)

    20 Tach 2024

    Gweithgaredd: Sgwrs neu gyflwyniadCyflwyniad llafar

  11. Pecyn Recriwtio Gweithlu Dwyieithog

    Prys, C. (Siaradwr), Bonner, E. (Siaradwr) & Hodges, R. (Siaradwr)

    18 Tach 2024

    Gweithgaredd: Sgwrs neu gyflwyniadCyflwyniad llafar

  12. Prosiect Heriau Recrwitio Gweithu Dwyieithog - Gweithdai Cyd-gynhyrchu

    Bonner, E. (Cyfrannwr) & Prys, C. (Cyfrannwr)

    Gorff 2024Medi 2024

    Gweithgaredd: ArallMathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Darlith/trafodaeth/seminar gyhoeddus

  13. 2023
  14. Rhian Hodges and Cynog Prys ‘Defnyddio’r Gymraeg ar Ynys Môn’ / ‘The use of the Welsh language in Anglesey’

    Hodges, R. (Siaradwr) & Prys, C. (Siaradwr)

    6 Rhag 2023

    Gweithgaredd: Sgwrs neu gyflwyniadCyflwyniad llafar

  15. Donostia Lecture Series: Language use and language progression: some examples from a Welsh Context

    Hodges, R. (Siaradwr), Bonner, E. (Siaradwr), Prys, C. (Siaradwr) & Owain, L. (Siaradwr)

    8 Tach 2023

    Gweithgaredd: Sgwrs neu gyflwyniadSgwrs wadd

  16. 2020
  17. Language, Education and Community in the Digital Age: A Welsh Case Study

    Hodges, R. (Siaradwr) & Prys, C. (Siaradwr)

    11 Rhag 2020

    Gweithgaredd: Sgwrs neu gyflwyniadSgwrs wadd

  18. O Covid 19 i BLM: Anghydroddoldebau Cymdeithasol yng Nghymru

    Hodges, R. (Siaradwr) & Prys, C. (Siaradwr)

    12 Tach 2020

    Gweithgaredd: Sgwrs neu gyflwyniadSgwrs wadd

  19. 2017
  20. Shifft ieithyddol mewn chwe chymuned yng Nghymru, WISERD, Bangor, Gorffennaf 2017

    Hodges, R. (Siaradwr) & Prys, C. (Siaradwr)

    5 Gorff 2017

    Gweithgaredd: Sgwrs neu gyflwyniadCyflwyniad llafar

  21. Panel discussion: Language, community and civil society in Wales today, AHRC Research Network - Language Revitalization and Social Transformation 22-23 May (2017), Aberystwyth University,

    Hodges, R. (Siaradwr) & Prys, C. (Siaradwr)

    22 Mai 2017

    Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn digwyddiad neu drefnu digwyddiadCymryd rhan mewn gweithdy, seminar, cwrs Academaidd

  22. 2013
  23. TU HWNT I’R DOSBARTH – Dyfodol Cynllunio IeithyddolBEYOND THE CLASSROOM – the future of Language Planning

    Hodges, R. (Trefnydd), Prys, C. (Trefnydd), May, S. (Siaradwr) & Dunbar, R. (Siaradwr)

    8 Maw 2013

    Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn digwyddiad neu drefnu digwyddiadCymryd rhan mewn cynhadledd Academaidd