Yr Athro Delyth Prys

Athro, Athro / Pennaeth Technolegau Iaith

Dolenni cyswllt

Contact info

Delyth Prys
Pennaeth Uned Technolegau Iaith
Uned Technolegau Iaith, Canolfan Bedwyr
E-bost: d.prys@bangor.ac.uk
Ffôn: +44 (0)1248 382800
Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd, LL57 2DG

Trosolwg

Rwy’n bennaeth yr Uned Technolegau Iaith yng Nghanolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor ers 2001, a chennyf gadair bersonol yno. Rwy’n arwain tîm cymysg o ieithwyr a datblygwyr meddalwedd lle rydym yn rhannu’r weledigaeth o adfywio ieithoedd bach fel y Gymraeg drwy ddatblygu technolegau iaith ar eu cyfer. Cyn hynny roeddwn i’n Brif Olygydd y Ganolfan Safoni Termau yn Ysgol Addysg y Brifysgol, canolfan a ymgorfforwyd yn yr Uned Technolegau Iaith pan ddaeth yn rhan o Ganolfan Bedwyr.

Dechreuais fy ngyrfa fel geiriadurwr, yn gweithio fel golygydd cynorthwyol ar Geiriadur Prifysgol Cymru yn 1978. Bûm am gyfnod wedi hynny yn aelod o staff Geiriadur yr Academi, cyn sefydlu fy musnes fy hun fel cyfieithydd llawrydd. Fe’m gwahoddwyd i fod yn rhan o dendr Prifysgol Bangor i safoni termau Cymraeg ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol yn 1993. Arweiniodd hyn at gyhoeddi Y Termiadur Ysgol yn 1998 (y cyhoeddwyd argraffiad helaethach ohono fel  Y Termiadur Addysg yn 2006) sy’n cynnwys termau Cymraeg wedi’u safoni ar gyfer ysgolion a cholegau addysg bellach Cymru. Mae’r project hwn yn dal yn mynd yn ei flaen, gyda’r geiriadur yn tyfu’n gyson, a’r hen fformat papur bellach wedi’i ddisodli gan fformatiau electronig ar-lein ac fel ap. Golygais nifer o eiriaduron termau eraill hefyd ar draws y blynyddoedd, gan ysgrifennu Canllawiau Safoni Termau Gwasanaeth Cyfieithu Llywodraeth Cynulliad Cymru a Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn 2007.  Penllanw’r gweithgareddau hyn oedd sefydlu’r gwaith o safoni termau ar gyfer Addysg Uwch cyfrwng Cymraeg ar gyfer y Coleg Cymraeg yn fy Uned yn 2009. Mae’r project hwn hefyd yn mynd rhagddo, gyda Geiriadur Termau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn tyfu ac yn datblygu’n gyson, ac unwaith eto yn cael eu cyhoeddi ar-lein ac fel ap.

Wedi symud i Ganolfan Bedwyr, daeth Cysill (gwirydd sillafu a gramadeg Cymraeg) Cysgair (geiriadur electronig cyffredinol Cymraeg/Saesneg) yn rhan o’m cyfrifoldeb. Arweiniais y gwaith o ddiweddaru ac ailbecynnu’r ddau gynnyrch fel Cysgliad,   y compendiwm o gymorth Cymraeg a gyhoeddwyd gyntaf yn 2004, ac sy’n rhan allweddol o gynhaliaeth gweinyddu dwyieithog yng Nghymru erbyn hyn.

Yn 2004 hefyd enillais fy mhroject ymchwil cyntaf ym maes technoleg lleferydd Cymraeg, sef project WISPR (Welsh and Irish Speech Processing Resources) gyda chymorth grant Ewropeaidd Interreg. Rhoddodd hyn gyfle i mi gydweithio gydag arbenigwyr technoleg lleferydd yn Iwerddon, ac mae’r cysylltiadau hynny wedi tyfu ar hyd y blynyddoedd, gan arwain at sefydlu’r Celtic Language Technologies Group yn 2013, a phrojectau technolegau iaith Celtaidd newydd, megis yr un diweddar i addasu ein llwyfan creu geiriaduron Cymraeg Maes T ar gyfer yr iaith Gernyweg. Ymhlith fy mhrojectau diweddaraf mae ymchwil i ddatblygu adnabod lleferydd Cymraeg a chreu’r cynorthwyydd personol digidol Cymraeg cyntaf, Macsen (2015-2018). Arweiniodd hyn hefyd at broject Lleisiwr (2017-2018) i greu lleisiau synthetig Cymraeg personol i bobl sydd ar fin colli eu lleferydd o ganlyniad i afiechyd.

Cynorthwyodd fy mhrofiad personol o redeg busnes cyfieithu fi i ymgysylltu gyda diwydiant, a throsglwyddo ymchwil prifysgol o gyd-destun academaidd i un busnes. Rwyf wedi arwain dau broject A4B arwyddocaol: SALT Cymru (2008) a CAT Cymru (2009), y naill i ymchwilio i y sector technolegau iaith a lleferydd yng Nghymru, a’r llall i anghenion technolegol y diwydiant cyfieithu. Sefydlais dri phorth cenedlaethol i Gymru ar y we, sef Porth Termau Cenedlaethol CymruPorth Corpora Cenedlaethol Cymru, a Phorth Technolegau Iaith Cenedlaethol Cymru. Mae’r Porth Technolegau Iaith yn enwedig yn darparu adnoddau technoleg iaith ar drwyddedau agored, a gall diwydiant fanteisio arnynt i’w cynnwys yn eu cynnyrch a’u gwasanaethau eu hunain.

Rwy wedi arwain sawl project KTP (Knowledge Transfer Partnership), a’r un diweddaraf gyda chwmni Cymen yng Nghaernarfon yn edrych ar ddatblygu technoleg cyfieithu i gynorthwyo’r baich gwaith y cwmni. Rwyf hefyd wedi goruchwylio neu gyd-oruchwylio sawl ysgoloriaeth PhD KESS ym maes technoleg iaith, gan gynnwys un i wella modelau iaith ar gyfer technoleg lleferydd a noddir gan Lywodraeth Cymru.

Rwy’n aelod  o Bwyllgor Technoleg a’r Gymraeg Llywodraeth Cymru, yn Ymgynghorydd i’r DLDP (Digital Language Diversity Project) Ewropeaidd, ac ymgynghorydd ar adroddiad a gyflwynwyd i Bwyllgor Diwylliant ac Addysg i Senedd Ewrop Language equality in the digital age (2018). Yn ddiweddar, fe’m gwahoddwyd i fod  yn ymgynghorydd technoleg lleferydd i broject Common Voice Mozilla. Rwy wedi gwasanaethu ar nifer o bwyllgorau gwyddonol, gan gynnwys gweithdy CLTW yng Nghynhadledd TALN (Traitement Automatique de la Language Naturelle) yn 2016 a  WILDRE (Workshop on Indian Language Data: Resources and Evaluation) yng nghynhadledd LREC 2018. Yn 2005 bûm yn Llywydd NAACLT (North American Association of Celtic Language Teachers) ac yr wyf yn parhau yn ymgynghorydd Ewropeaidd i’r gymdeithas. Rwy’n aelod o bwyllgor safonau terminolegol y BSI (British Standards Institute), ac wedi arwain dirprwyaeth Prydain i Uwch-gynhadledd flynyddol ISO (International Standards Organisation) dair gwaith. Rwy hefyd yn Gydgysylltydd Grŵp Socioterminoleg ISO/TC37, ac yn arweinydd eu project Cyweiriau Iaith sydd newydd gyhoeddi’r safon rhyngwladol cyntaf ym maes cyweiriau iaith, ISO/TR 20694 A Typology of Language Registers (2018).

Rwyf wedi bod yn ddarlithydd gwadd mewn nifer o gynadleddau rhyngwladol, gan gynnwys un Blwyddyn Ryngwladol Ieithoedd UNESCO yn Bilbao, Sbaen (2008); yTermturk International Symposium, Ankara, Turkey (2009); Cynhadledd Wyddonol Ryngwladol ySocietât Sientifiche e Tecnologjiche Furlane,Udine, Italy (2011); Cynhadledd y Fenno-Ugria Languages of Smaller Populations, Tallin, Estonia (2012), cynhadledd y British and Irish Council ar Dechnoleg Iaith (2015), a Chynhadledd EAFT (European Association for Terminology)  yn adeilad gwreiddiol Senedd Ewrop yn Lwcsembwrg (2016).

 

Manylion Cyswllt

Delyth Prys
Pennaeth Uned Technolegau Iaith
Uned Technolegau Iaith, Canolfan Bedwyr
E-bost: d.prys@bangor.ac.uk
Ffôn: +44 (0)1248 382800
Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd, LL57 2DG

Cyhoeddiadau (60)

Gweld y cyfan

Gweithgareddau a dyfarniadau proffesiynol (10)

Gweld y cyfan

Sylw ar y cyfryngau (1)

Gweld y cyfan

Gweld graff cysylltiadau