Professor Gerwyn Wiliams

Athro Emeritws

Contact info

E-bost: gerwyn@bangor.ac.uk

Ffône: +44 (0) 1248 38 2241

Lleoliad: Ystafell 5, Coridor yr Athrawon

Trosolwg

Bywgraffiad

Un o Bwllheli yn yr hen Sir Gaernarfon yw Gerwyn Wiliams yn enedigol a mynychodd Ysgol Gyfun Llangefni, Ynys Môn ac Ysgol Uwchradd y Trallwng, Sir Drefaldwyn cyn mynd i Brifysgol Cymru, Aberystwyth lle y graddiodd yn y Gymraeg.  Ar ôl ennill ei ddoethuriaeth dan gyfarwyddyd Yr Athro John Rowlands, bu’n gweithio am gyfnod byr fel Is-Olygydd i’r cylchgrawn misol Barn cyn ei benodi’n Ddarlithydd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor yn 1989.  Bu’n Is-Gyfarwyddwr yr Ysgol Astudiaethau Trwy'r Gymraeg (1996-98), yn Ddeon Cyfadran y Celfyddydau a Gwyddorau Cymdeithas (2000-02) ac yn Ddirprwy Bennaeth Ysgol y Dyniaethau a’r Celfyddydau (2005-06).  Fe’i dyrchafwyd i Gadair Bersonol yn Nhachwedd 2005.

Ymchwil

Cyhoeddwyd ffrwyth ei ymchwil i lenyddiaeth Gymraeg ynghylch y Rhyfel Byd Cyntaf mewn dwy gyfrol: Y Rhwyg: Arolwg o Farddoniaeth Gymraeg ynghylch y Rhyfel Byd Cyntaf (1993) a Tir Neb: Rhyddiaith Gymraeg a’r Rhyfel Byd Cyntaf (1996).  Enwyd TirNeb yn Llyfr y Flwyddyn gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn 1997 a dyfarnwyd i’r gyfrol Wobr Goffa Ellis Griffith a Buddged Mrs L. W. Davies gan Fwrdd Gwybodau Celtaidd Prifysgol Cymru yn 1998.  Datblygodd ei ddiddordeb yn y berthynas rhwng llenyddiaeth a rhyfel yn arbenigedd academaidd: yn 2005 cyhoeddodd Tir Newydd: Agweddau ar Lenyddiaeth Gymraeg a’r Ail Ryfel Byd ac yn 2006 cyhoeddodd ‘Cofio Rhyfel Anghofiedig: Dehongli a Chyd-destunoli Rhyfel y Falklands/Malvinas 1982’ yn Cof Cenedl XXI.

Creadigol

Daeth i’r amlwg yn ifanc fel bardd: enillodd Fedal Lenyddiaeth yr Urdd gyda dau gasgliad o gerddi, Tynnu Gwaed (1983) a Colli Cyswllt (1984) a chyhoeddodd dair cyfrol arall o gerddi sef Rhwng y Cŵn a’r Brain (1988), Cydio’n Dynn (1997) a Tafarn Tawelwch(2003).  Yn y dilyniant o gerddi ‘Dolenni’ a enillodd iddo Goron yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1994 fe’i gwelir yn ymateb yn greadigol i’w ddiddordeb mewn llenyddiaeth a rhyfel gyda cherddi am Ryfel Fiet-nam, Rhyfel y Gwlff a’r gwrthdaro yn Bosnia a Serbia. Cyrhaeddodd ei gyfrol Rhwng Gwibdaith a Coldplay (2011) restr fer Llyfr y Flwyddyn 2012.

Manylion Cyswllt

E-bost: gerwyn@bangor.ac.uk

Ffône: +44 (0) 1248 38 2241

Lleoliad: Ystafell 5, Coridor yr Athrawon

Arall

Gwaith golygu, darlithio allanol, etc.

Rhwng 1993 a 1999 bu’n golygu Taliesin, cylchgrawn yr Academi Gymreig, yn gyntaf gyda’r Athro John Rowlands ac yn ddiweddarach gyda Dr Jerry Hunter, ac rhwng 2005 a 2011 bu'n olygydd Ysgrifau Beirniadol (am gyfnod gyda Dr William R. Lewis). Gwasanaethodd sawl gwaith fel un o feirniaid cystadlaethau’r Gadair, y Goron a’r Fedal Lenyddiaeth yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd.  Bu’n beirniadu’r Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn yn 1999 a’r Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Cyffiniau yn 2003.  Ef hefyd oedd un o’r beirniaid yng nghystadleuaeth y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol yr Wyddgrug yn Awst 2007. 

Fe’i gwahoddwyd gan Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd i draddodi Darlith Goffa G.J. Williams yn 2007. Yr un flwyddyn daeth ei ysgrif ar gerddi rhyfel Alun Llywelyn-Williams o’r wasg yn The Oxford Handbook of British and Irish War Poetry a olygwyd gan yr Athro Tim Kendall. Cyn hynny, yn Nhachwedd 2006, trefnodd gynhadledd o’r enw Mwy na Rhywbeth i’w Wneud?  Barddoni mewn Canrif Newydd: ymhlith y rhai a gymerodd ran yr oedd Bardd Cenedlaethol cyntaf Cymru, Gwyneth Lewis, a Bardd Cenedlaethol Cymru, Gwyn Thomas.

http://www.gwynethlewis.com/bywgraffiad.shtml

Teaching and Supervision (cy)

Llên Gyfoes (Lefel 1): CXC-1016
Llên a Llun (Lefel 1: Ail Iaith): CXC-1008
Gweithdy Creadigol (Lefel 1): CXC-1018
Gweithdy Barddoniaeth (Lefel 2 a 3): CXC-2118 / CXC-3018
Barddoniaeth Fodern (Lefel 2 a 3): CXC-2107 / CXC-3007
Llenyddiaeth y Rhyfel Byd Cyntaf (Lefel 2 a 3): CXC-2113 / CXC-3013
Traethawd Estynedig (Lefel 3): CXC-3009

Diddordebau Ymchwil

Llenyddiaeth a rhyfel; ffuglen Gymraeg fodern, yn enwedig y nofel; barddoniaeth Gymraeg gyfoes; ysgrifennu creadigol.

Cyhoeddiadau (42)

Gweld y cyfan

Gweithgareddau a dyfarniadau proffesiynol (112)

Gweld y cyfan

Anrhydeddau (1)

Gweld y cyfan

Prosiectau (1)

Gweld y cyfan

Gweld graff cysylltiadau