Professor Helena Miguelez-Carballeira

Athro

Contact info

Position: Professor in Hispanic Studies

Email: h.m.carballeira@bangor.ac.uk

Phone: 01248 382041 (2041 internal)

Location: Ystafell/ Room 451

Prif Adeilad y Celfyddydau | Main Arts Building

Prifysgol Bangor | Bangor University

Fford y Coleg, Bangor. LL57 2DG

Trosolwg

Rwyf yn Athro mewn Astudiaethau Sbaenaidd ym Mhrifysgol Bangor lle rwyf wedi dysgu ers 2005. Mae gennyf BA mewn Astudiaethau Saesneg o Brifysgol Vigo (Premio Extraordinario Fin de Carreira , 2000), MSc mewn Astudiaethau Cyfieithu o Brifysgol Caeredin (2002) a PhD mewn Astudiaethau Sbaenaidd o Brifysgol Caeredin (2005).

Rwyf wedi cyhoeddi’n helaeth am ddiwylliannau Iberaidd ôl-1850 ac Astudiaethau Cyfieithu. Cyhoeddwyd fy monograff cyntaf ar hanes y syniad o sentimentaliaeth Celtaidd Galisiad (Galicia, a Sentimental Nation: Gender, Culture, Politics) gyda Gwasg Prifysgol Cymru yn 2013, cyfieithwyd i Bortiwaleg-Galiseg yn 2014 (Através Editora) a derbyniodd y wobr am y traethawd Galiseg gorau yn 2015 gan yr Association of Writers in Galician (AELG). Roeddwn yn gyd-olygydd o rifyn arbennig ‘Critical Approaches to the Nation in Galician Studies’ (Bulletin of Hispanic Studies) gyda Kirsty Hooper yn 2009 a ‘Translation in Wales: History, Theory and Approaches’ (Translation Studies) gydag Angharad Price a Judith Kaufmann yn 2016. Roeddwn yn olygydd o'r casgliad A Companion to Galician Culture for Tamesis yn 2014. Ymhlith projectau eraill sydd gennyf ar y gweill ar hyn o bryd, rwyf yn ysgrifennu monograff ar y gwahanol driniaethau o drefedigaeth yn Sbaen (Contested Colonialities in the Long Spanish Twentieth Century: Empire, Nation Independence; dan gytundeb gyda Palgrave), paratoi casgliad wedi'i olygu ar agweddau ôl-drefedigaethol ar ddiwylliant Sbaenaidd cyfoes (ar ôl trefnu cynhadledd ryngwladol ‘Postcolonial Spain? Contexts, Politics, Cultural Practices’, Prifysgol Bangor, 2017), ac rwyf yn ysgrifennu llyfr yn yr iaith Galiseg ar ymatebion diwylliannol i drais amgylcheddol yn Galisia heddiw. Ers 2006 rwyf wedi bod yn Gyfarwyddwr Canolfan Astudiaethau Galisaidd yng Nghymru, sef canolfan o fri byd-eang sy'n rhoi pwyslais ar ymchwil yn y maes gyda chefnogaeth grant parhaol gan Lywodraeth Xunta de Galicia. Mae grantiau ymchwil presennol a blaenorol yn cynnwys yr Ysgoloriaeth Dorothy Sherman-Severin (2006), Rhwydwaith Ymchwil AHRC (Cyfieithu yng Nghymru, 2012), Cymrodoriaeth AHRC (Gender a hunaniaeth genedlaethol Galisiad, 2013), Chymrodoriaeth Canol Gyrfa'r Academi Brydeinig (project Sbaen ôl-drefedigaethol, 2015–2016) ac grant OWRI (AHRC, Prifysgol Caergrawnt 2019-2020).

Roeddwn yn gyd-olygydd a sylfaenydd Galicia 21: Journal of Contemporary Galician Studies (2009-2014) ac rwyf yn adolygu cynigion a llawysgrifau'n rheolaidd ar gyfer cyfnodolion pwnc a chyhoeddwyr yn cynnwys Liverpool University Press, Palgrave and Purdue Studies in Romance Literatures, Gwasg Prifysgol Cymru a Punctum (Catalonia). Rwyf wedi bod yn aelod o'r panel dethol ar gyfer y wobr traethawd cenedlaethol Manuel Murguía (Deputación d’A Coruña, 2017) ac yn gwasanaethu ar Goleg Adolygu Cyfoedion AHRC ers 2017. Rwyf yn arholwr allanol ar gyfer MSc mewn Astudiaethau Cyfieithu ym Mhrifysgol Caeredin (2017–2020) ac wedi bod yn arholwr allanol ar gyfer traethodau hir ymchwil PhD a MA ym Mhrifysgol Warwick, Rhydychen, Exeter, Vigo, Auckland, Santiago de Compostela, Vic a Phrifysgol Gwlad y Basg.

Cefais fy ngwahodd i gyflwyno fy ymchwil fel prif siaradwr mewn digwyddiadau cyhoeddus ac academaidd, yn cynnwys y gynhadledd bob tair blynedd Asociación Internacional de Estudos Galegos (Buenos Aires, 2015), y Semana da Filosofía (Pontevedra, 2016), y Fforwm Astudiaethau Iberaidd (Rhydychen, 2016) a'r gynhadledd Cymrodoriaeth y Basg yng Ngholeg St Antony (Rhydychen, 2016) a'r Centro Galego de Arte Contemporáneo (Santiago de Compostela, 2017). Ym mis Mawrth 2018 cefais fy ngwahodd i gyflwyno'r cwrs ôl-radd ‘Elegías sin consuelo: Poéticas del territorio, lengua y conflicto en la cultura gallega contemporánea’ yng Nghanolfan Graddedigion, City University of New York. Yn y cyfnod ar ôl y refferendwm ar hunanbenderfyniad yng Nghatalonia ar 1 Hydref, roeddwn yn sylwebydd rheolaidd ar BBC Wales a'r BBC World Service.

Ym Mangor, rwyf wedi gwasanaethu fel Cyfarwyddwr Ymchwil i'r Ysgol Ieithoedd Modern a Diwylliannau (2014-2018) a Chyfarwyddwr Astudiaethau ôl-radd (2016-2020).

Diddordebau Ymchwil

Rwy'n astudio gwleidyddiaeth a diwylliannau presennol yn Sbaen, gan gynnwys diwylliannau Galisia, Catalonia a Gwlad y Basg, fel y'u nodir gan densiynau ôl-ymerodrol parhaus. Gan osod ffurfiau o drais materol a symbolaidd wrth wraidd agweddau o'r fath, gan ddarparu cyd-destun cenedlaethol arloesol ac ymchwilio i agweddau amlddiwylliannol ar Sbaen ôl-Francoidd, mae fy ngwaith wedi darparu dealltwriaeth newydd o ystod o themâu: ffurfiad hanesyddol o drafodaethau am hunaniaeth genedlaethol (Galicia, a Sentimental Nation, 2013), dynameg gwrywdod cystadleuol mewn cenedlaetholdebau ("The Imperial within" , 2017), neu gynrychiolaeth ddiwylliannol o waddod trais yng Ngwlad y Basg ar ôl ETA ("Poetics of Post-ETA Spain" , 2017).


Mae fy ngwaith wedi ymholi'r canon (er enghraifft, trwy gynnig ffyrdd newydd o ddarllen ac addysgu Rosalía de Castro ac Emilia Pardo Bazán) yn ogystal ag ymddiddori mewn cyd-destunau ac ymarferion sydd heb eu hastudio llawer (dychan cerddorol yng Ngalisia, tystlythyrau artaith ac arddangosfeydd byrhoedolog yng Ngwlad y Basg). Ers fy astudiaethau doethuriaeth, rwyf wedi parhau i fod yn ymchwilydd gweithgar ym maes Astudiaethau Cyfieithu, gyda diddordeb arbennig mewn gender a gwledydd nad ydynt yn wladwriaethau. Yn y maes hwn, rwyf wedi cyhoeddi am gyfeithiadau Saesneg yr awdur Catalanaidd Mercé Rodoreda o'r clasur La plaça del Diamant ac rwyf wedi arwain project ymchwil arloesol ar gyfiethu yng Nghymru, gan arwain at y rhifyn arbennig ‘Translation in Wales: History Theory and Approaches’ o'r cyfnodolyn Translation Studies.

Ers derbyn Cymrodoriaeth Ganol Gyrfa'r Academi Brydeinig y Canolbarth, bwriad fy ymchwil presennol yw ceisio trawsnewid dealltwriaeth o wrthdaro cenedlaethol yn Sbaen trwy gymhwyso damcaniaethau ôl-drefedigaethol.Yn benodol, mae'n cysylltu'n arloesol dulliau ymholi ôl-drefedigaethol (annibyniaeth, astudiaethau o droseddwyr, hanesion bywyd tystiolaethol, arferion cysylltedd mudwyr, cysoni ôl-wrthdaro, estheteg para-drefedigaethol, dwyreinioldeb) gyda beirniadaeth o reswm ymerodrol ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, yr ugeinfed ganrif a'r Sbaen gyfoes. Rwyf ar hyn o bryd yn paratoi dau gyhoeddiad fel rhan o'r llinyn ymchwil hon: monograff, Contested Colonialities in the Long Spanish Twentieth-Century: Empire, Nation, Independence (dan gytundeb gyda Palgrave), sy'n cysylltu gwyriad parhaus gwrthdaro cenedlaethol mewnol Sbaen gyda'r gwaddol o drais ymerodrol sydd wedi'i arysgrifo ym moderniaeth ddemocrataidd Sbaen; a chyfrol wedi'i olygu gydag astudiaethau dethol yn dilyn trefnu'r gynhadledd ryngwladol 'Postcolonial Spain? Contexts, Politics and Cultural Practices’ (Bangor, 2017).


Rwyf hefyd ar hyn o bryd yn datblygu ymchwil newydd ar sut mae diwylliant Galiseg gyfoes wedi nodi diflaniad bywyd gwledig cynfrodorol yn y tair degawd diwethaf, gan gyfuno fy niddordebau hirdymor mewn theori ôl-drefedigaethol gydag agweddau ar eco-feirniadaeth, trawma ac astudiaethau o anifeiliaid. Mae'r elfen hon o fy ngwaith ymchwil presennol yn sail i fy seminar i raddedigion 'Elegies without consolation: poetics of territory and conflict in contemporary Galician Culture’, a gyflwynais yng Nghanolfan Graddedigion CUNY (2018).

Mae cydweithio'n rheolaidd gydag ymchwilwyr eraill, ymarferwyr diwylliannol, gwleidyddion a mudiadau cymdeithasol eraill yn ganolog i fy null o weithredu. Dyma enghreifftiau o gydweithio diweddar a chyfredol:

  • Trefnydd a siaradwr gyda Hywel Williams (AS, Plaid Cymru, Cadeirydd y grŵp seneddol trawsbleidiol ar Catalonia) yn y digwyddiad ‘Deall annibyniaeth yn y Sbaen gyfoes: nodiadau ar refferendwm Catalonia’, Bangor, 27 Hydref 2017
  • Cydweithio â grŵp gweithredu uniongyrchol ffeministaidd Catalonia ‘Gatamaula’ i gyhoeddi'r llyfr aml-awdur Terra de Ningú: Perspectives feministes sobre la independència (2017).
  • Cymryd rhan yn y rhwydwaith ymchwil ‘Contested Identities: Cultural Dialogues between Small Nations’ (dan arweiniad yr Athro Willy Maley, Prifysgol Glasgow, a ariannir gan y Royal Society of Edinburgh, 2015–2017).
  • Cymryd rhan yn y rhwydwaith ymchwil ‘La experiencia de la sociedad moderna en España: Emociones, relaciones de género y subjetividades (siglos XIX y XX)’ (dan arweiniad yr Athro Nerea Aresti, Prifysgol Gwlad y Basg, a ariannir gan y Ministerio de Economía, Industria y Competitividad, Fondo Europeo de Desarrollo Regional, 2017–2019).
  • Cymryd rhan yn y rhwydwaith ymchwil ‘Unha análise da obra narrativa de Rosalía de Castro: Fundamentos teóricos e metodolóxicos’ (dan arweiniad Dr María do Cebreiro Rábade Villar, Prifysgol Santiago de Compostela, a ariannir gan Lywodraeth Xunta de Galicia, 2010–2012).

Teaching and Supervision (cy)

Blwyddyn 1

  • Elfen Astudiaethau Sbaenaidd o LXE1700 Hanes mewn Cyd-destun

Blwyddyn 2

Iaith Sbaeneg:

  • Elfen ramadegol o LZS2020 a LZS2040.
  • Hanes diwylliannol Galisia/Sbaen ers y bedwaredd ganrif ar bymtheg fel rhan o'r modiwl LXS2036 Reading Rosalía de Castro

Blwyddyn 4

  • Addasiadau mewn sinema Sbaeneg fel rhan o'r modiwl LXI3011 Addasiadau mewn Sinema Ewropeaidd
  • Iaith Sbaeneg: Cyfieithu ac elfen uwch ramadegol o LZS3020/30/40

MA

  • Gender a Chyfieithu; Cyfieithu mewn diwylliannau di-wladwriaeth fel rhan o'r modiwl LXM4021 Astudiaethau Cyfieithu: The Making of a Discipline
  • Elfennau o ysgrifennu academaidd fel rhan o'r modiwl LXM Dulliau Ymchwil


Goruchwylio myfyrwyr PhD


Mae rhai o fy myfyrwyr PhD blaenorol yn cynnwys:

  • Tegau Andrews (dyfarnwyd 2011): ‘Websites and the Translation of Minority Languages: A Case Study in the Welsh Context’
  • David Miranda-Barreiro (dyfarnwyd 2012): ‘Gender, Nation and Otherness in Spanish New York Narratives’. Dyfarnwyd traethawd hir gorau AHGBI 2012.
  • Adam Pearce (dyfarnwyd 2014): ‘Translating the Welsh Canon: The Translations of Daniel Owen’s Novels into English’
  • Maria Cristina Seccia (dyfarnwyd 2014): ‘Italo-Canadian Writing and Cultural Translation: Translating Caterina Edwards’ The Lion’s Mouth into Italian’
  • Jinquan Yu (dyfarnwyd 2019): ‘Dylan Thomas in Chinese translation: a sociological analysis’


Ar hyn o bryd, rwy’n cyd-oruchwylio’r traethodau hir canlynol mewn amrywiaeth o ddisgyblaethau:

  • Antigoni Bazani: ‘Translation, mediation and the global citizen: The changing role of translation in foreign language teaching’
  • Lorena López-López: ‘Galician women-authored fiction and the canon’
  • Belén Iglesias-Arbor: ‘Translating the Spanish Best-Seller: María Dueñas, Arturo Pérez-Reverte and Carlos Ruiz Zafón’
  • Changjing Liu (fel cyd-oruchwyliwr): ‘Chinese avant-garde fiction in translation’
  • Yujuan Zhou (fel cyd-oruchwyliwr): ‘An analysis of place in David Hawkes’ translations of The Story of the Stone ’
  • Chunli Shen (fel cyd-oruchwyliwr): ‘Translating the novels of Yan Lianke into English’

Manylion Cyswllt

Grantiau a Projectau

Cyhoeddiadau (43)

Gweld y cyfan

Gweithgareddau a dyfarniadau proffesiynol (82)

Gweld y cyfan

Anrhydeddau (3)

Gweld y cyfan

Gweld graff cysylltiadau