Yr Athro Jerry Hunter

Athro

Contact info

Astudiodd ym Mhrifysgol Cincinnati (BA, Saesneg), Prifysgol Cymru Aberystwyth (MPhil, Cymraeg) a Phrifysgol Harvard (PhD, Ieithoedd a Llenyddiaethau Celtaidd).  Bu'n ddarlithydd ym Mhrifysgol Harvard a Chaerdydd cyn dod i Fangor yn 2003.

Mae meysydd ei ymchwil yn amrywiol iawn ac mae wedi cyhoeddi am lenyddiaeth Gymraeg o bob cyfnod, o'r Oesoedd Canol i lenyddiaeth gyfoedd.  Mae wedi cyhoeddi pump o gyfrolau academaidd, un am y cysylltiadau rhwng llenyddiaeth, proffwydoliaeth a hanesyddiaeth yn yr unfed ganrif ar bymtheg a phedair yn ymdrin â gwahanol agweddau ar lenyddiaeth Gymraeg America'r bedwaredd ganrif ar bymtheg.  Enillodd un ohonynt, Llwch Cenedlaethol: Y Cymry a Rhyfel Cartref America, wobr 'Llyfr y Flwyddyn' Llenyddiaeth Cymru yn 2004 (ac mae dau arall o'i lyfrau wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer yr un wobr).

Ar hyn o bryd mae'n gweithio ar lenyddiaeth Gymraeg a rhyfeloedd yr ail ganrif ar bymtheg ac yn gobeithio adeiladu ar y seiliau a amlinellir mewn cyhoeddiad diweddar, 'The Red Sword, the Sickle and the Author's Revenge: Welsh Literature and Conflict in the Seventeenth Century' (the 2016 J.V. Kelleher Lecture, Proceeding of the Harvard Celtic Colloquium, cyf. xxxvi).

Ac yntau'n awdur creadigol hefyd, mae wedi cyhoeddi pump o nofelau - Gwenddydd (2010), a enillodd y Fedal Ryddiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol, Gwreiddyn Chwerw (2012), Ebargofiant (2014), Y Fro Dywyll (2014) ac Ynys Fadog (2018).  Mae wedi cyhoeddi nofel fer ar gyfer plant hefyd.

Mae wedi cyflwyno a chyd-sgriptio tair cyfres ddogfen ar gyfer S4C.  Enillodd un ohonynt, Cymry Rhyfel Cartref America, wobr BAFTA Cymru Gwyn Alf Williams.

  1. Cyhoeddwyd

    The Red Sword, the Sickle and the Author's Revenge: Welsh Literature and Conflict in the Seventeenth Century

    Hunter, J., 1 Ion 2016, Yn: Proceedings of the Harvard Celtic Colloquium. 36, t. 1-29 29 t.

    Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolynErthygl

  2. Cyhoeddwyd

    Dros Gyfiawnder a Rhyddid: Y Cambrian Guards, Caethwasiaeth a Rhyfel Cartref America

    Hunter, J., 1 Maw 2024, Y Lolfa. 304 t.

    Allbwn ymchwil: Llyfr/AdroddiadLlyfr

  3. Cyhoeddwyd

    'What can the Welsh do?': Robert Everett and the creation of a Welsh-American abolition movement, c. 1840-1844.

    Hunter, T. G., Hunter, J., Charles-Edwards, T. M. (gol.) & Evans, R. J. (gol.), 1 Ion 2010, Wales and the Wider World:Welsh History in an International Context. 2010 gol. Shaun Tyas

    Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion CynhadleddPennod

  4. Cyhoeddwyd

    Rhwng Breuddwyd a Charchar: Cuhelyn, Cynddelw a Llenyddiaeth Gymraeg Drawsatantig

    Hunter, J., 9 Medi 2021, Yn: Llên Cymru. 44, t. 1-52 52 t.

    Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolynErthygl

  5. Cyhoeddwyd

    Safana

    Hunter, J., 2021, Y Lolfa.

    Allbwn ymchwil: Llyfr/AdroddiadLlyfr

  6. Cyhoeddwyd

    Ond Mater Merch: Cywydd Llatai Troseddol Tomos Prys

    Hunter, J., 1 Rhag 2023, Yn: Llên Cymru. 46, 1, t. 11-32 22 t.

    Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolynErthygladolygiad gan gymheiriaid

  7. Cyhoeddwyd

    Gwreiddyn Chwerw

    Hunter, T. G., 1 Ion 2012, Gwasg Gwynedd.

    Allbwn ymchwil: Llyfr/AdroddiadLlyfr

  8. Cyhoeddwyd

    "I ddeffro ysbryd y wlad": Robert Everett a'r Ymgyrch yn erbryn Caethwasiaeth Americanaidd.

    Hunter, T. G. & Hunter, J., 1 Ion 2007, Gwasg Carreg Gwalch.

    Allbwn ymchwil: Llyfr/AdroddiadLlyfr

  9. Cyhoeddwyd

    Myth and Historiography: One Hundred and Sixty Years of Madog and the Madogwys

    Hunter, T., 1 Ion 2016, Yn: Yearbook of English Studies. 46, t. 37-55 19 t.

    Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolynErthygladolygiad gan gymheiriaid

Blaenorol 1 2 Nesaf