Yr Athro Jerry Hunter

Athro

Contact info

Astudiodd ym Mhrifysgol Cincinnati (BA, Saesneg), Prifysgol Cymru Aberystwyth (MPhil, Cymraeg) a Phrifysgol Harvard (PhD, Ieithoedd a Llenyddiaethau Celtaidd).  Bu'n ddarlithydd ym Mhrifysgol Harvard a Chaerdydd cyn dod i Fangor yn 2003.

Mae meysydd ei ymchwil yn amrywiol iawn ac mae wedi cyhoeddi am lenyddiaeth Gymraeg o bob cyfnod, o'r Oesoedd Canol i lenyddiaeth gyfoedd.  Mae wedi cyhoeddi pump o gyfrolau academaidd, un am y cysylltiadau rhwng llenyddiaeth, proffwydoliaeth a hanesyddiaeth yn yr unfed ganrif ar bymtheg a phedair yn ymdrin â gwahanol agweddau ar lenyddiaeth Gymraeg America'r bedwaredd ganrif ar bymtheg.  Enillodd un ohonynt, Llwch Cenedlaethol: Y Cymry a Rhyfel Cartref America, wobr 'Llyfr y Flwyddyn' Llenyddiaeth Cymru yn 2004 (ac mae dau arall o'i lyfrau wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer yr un wobr).

Ar hyn o bryd mae'n gweithio ar lenyddiaeth Gymraeg a rhyfeloedd yr ail ganrif ar bymtheg ac yn gobeithio adeiladu ar y seiliau a amlinellir mewn cyhoeddiad diweddar, 'The Red Sword, the Sickle and the Author's Revenge: Welsh Literature and Conflict in the Seventeenth Century' (the 2016 J.V. Kelleher Lecture, Proceeding of the Harvard Celtic Colloquium, cyf. xxxvi).

Ac yntau'n awdur creadigol hefyd, mae wedi cyhoeddi pump o nofelau - Gwenddydd (2010), a enillodd y Fedal Ryddiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol, Gwreiddyn Chwerw (2012), Ebargofiant (2014), Y Fro Dywyll (2014) ac Ynys Fadog (2018).  Mae wedi cyhoeddi nofel fer ar gyfer plant hefyd.

Mae wedi cyflwyno a chyd-sgriptio tair cyfres ddogfen ar gyfer S4C.  Enillodd un ohonynt, Cymry Rhyfel Cartref America, wobr BAFTA Cymru Gwyn Alf Williams.