Yr Athro Jerry Hunter
Athro
Aelodaeth
Contact info
Astudiodd ym Mhrifysgol Cincinnati (BA, Saesneg), Prifysgol Cymru Aberystwyth (MPhil, Cymraeg) a Phrifysgol Harvard (PhD, Ieithoedd a Llenyddiaethau Celtaidd). Bu'n ddarlithydd ym Mhrifysgol Harvard a Chaerdydd cyn dod i Fangor yn 2003.
Mae meysydd ei ymchwil yn amrywiol iawn ac mae wedi cyhoeddi am lenyddiaeth Gymraeg o bob cyfnod, o'r Oesoedd Canol i lenyddiaeth gyfoes. Mae wedi cyhoeddi pump o gyfrolau academaidd, un am y cysylltiadau rhwng llenyddiaeth, proffwydoliaeth a hanesyddiaeth yn yr unfed ganrif ar bymtheg a phedair yn ymdrin â gwahanol agweddau ar lenyddiaeth Gymraeg America'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Enillodd un ohonynt, Llwch Cenedlaethol: Y Cymry a Rhyfel Cartref America, wobr 'Llyfr y Flwyddyn' Llenyddiaeth Cymru yn 2004 (ac mae dau arall o'i lyfrau wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer yr un wobr).
Ar hyn o bryd mae'n gweithio ar lenyddiaeth Gymraeg a rhyfeloedd yr ail ganrif ar bymtheg ac yn gobeithio adeiladu ar y seiliau a amlinellir mewn cyhoeddiad diweddar, 'The Red Sword, the Sickle and the Author's Revenge: Welsh Literature and Conflict in the Seventeenth Century' (the 2016 J.V. Kelleher Lecture, Proceeding of the Harvard Celtic Colloquium, cyf. xxxvi).
Ac yntau'n awdur creadigol hefyd, mae wedi cyhoeddi pump o nofelau - Gwenddydd (2010), a enillodd y Fedal Ryddiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol, Gwreiddyn Chwerw (2012), Ebargofiant (2014), Y Fro Dywyll (2014) ac Ynys Fadog (2018). Mae wedi cyhoeddi nofel fer ar gyfer plant hefyd.
Mae wedi cyflwyno a chyd-sgriptio tair cyfres ddogfen ar gyfer S4C. Enillodd un ohonynt, Cymry Rhyfel Cartref America, wobr BAFTA Cymru Gwyn Alf Williams.
- 2024
The Construction of a Road Novel Narrator: a Critical and Creative Practice Research
Barr, W. (Awdur), Hunter, T. (Goruchwylydd), 12 Ebr 2024Traethawd ymchwil myfyriwr: Doethur mewn Athroniaeth
- 2020
Teledu 'Da'? Ystyriaethau golygyddol wrth greu cynyrchiadau dogfen am y celfyddydau i S4C.
Ellis, G. (Awdur), Hunter, J. (Goruchwylydd) & Muse, E. (Goruchwylydd), 8 Hyd 2020Traethawd ymchwil myfyriwr: Doethur mewn Athroniaeth
Rhai o Gymunedau’n Llên: y Lleol a’r Cenedlaethol
Lenny Turner, B. (Awdur), Hunter, T. (Goruchwylydd), 3 Awst 2020Traethawd ymchwil myfyriwr: Doethur mewn Athroniaeth
- 2017
‘Mae’r Beibl o’n tu’: Y dadleuon Beiblaidd ynghylch caethwasiaeth ar dudalennau gwasg gyfnodol Gymraeg America, 1838-1868
Evans-Jones, G. H. (Awdur), Davies, E. (Goruchwylydd) & Hunter, T. (Goruchwylydd), Ion 2017Traethawd ymchwil myfyriwr: Doethur mewn Athroniaeth
- 2014
Kate Roberts a’r Ddrama
Jones, D. (Awdur), Hunter, J. (Goruchwylydd), Ion 2014Traethawd ymchwil myfyriwr: Doethur mewn Athroniaeth
- 2012
Cyfaill pwy o'r hen wlad?: y wasg gyfnodol Gymraeg a hunaniaeth Cymry America 1838-66
Williams, R. (Awdur), Hunter, J. (Goruchwylydd), Ion 2012Traethawd ymchwil myfyriwr: Doethur mewn Athroniaeth