Dr Nia Griffith

Uwch Darlithydd mewn Seicoleg

Contact info

Cyfarwyddwr Astudiaethau Israddedig yr Adran Seicoleg; Ysgol Seicoleg a Gwyddorau Chwaraeon

 

Brignatia

Prifysgol Bangor

Bangor

Gwynedd

Wales

U.K.

LL57 2UW

 

n.griffith@bangor.ac.uk

01248 382543

@niagriffith

Trosolwg

Mae Nia yn Uwch Ddarlithydd yn yr Ysgol Seicoleg a Gwyddor Chwaraeon ym Mhrifysgol Bangor. Cwblhaodd ei PhD yn 2012 ym Mhrifysgol Bangor, ac roedd ei hymchwil yn canolbwyntio ar werthuso effeithiolrwydd ymyriad ar gyfer rhieni plant bach sy’n byw yng nghymunedau mwyaf difreintiedig Cymru. Mae gan Nia gymwysterau dysgu gan gynnwys Cymrodoriaeth Addysgu Prifysgol Bangor ac mae'n Uwch Gymrawd o'r HEA.

Ariannwyd PhD Nia yn rhannol gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac mae’n rhan o dîm o ddarlithwyr sy’n cyflwyno modiwlau, goruchwyliaeth a chymorth bugeiliol yn y Gymraeg a’r Saesneg yn yr Ysgol Seicoleg a Gwyddor Chwaraeon.

 

Diddordebau Addysgu

Mae Nia yn drefnydd modiwl ac yn ddarlithydd ar nifer o’r modiwlau israddedig cyfrwng Cymraeg a Saesneg, gan gyflwyno darlithoedd ffurfiol a sesiynau grŵp bach/ymarferol yn ddwyieithog. Mae Nia yn addysgu dulliau ymchwil ac ystadegau yn yr ail flwyddyn ar gyfer ein cyrsiau achrededig BPS, yn ogystal â modiwl trydedd flwyddyn arbenigol sy’n edrych ar ddatblygiad cynnar, adfyd yn ystod plentyndod a’r rôl hollbwysig a chwaraeir gan rieni a gofalwyr yn natblygiad a lles plant. Mae Nia yn goruchwylio myfyrwyr Israddedig yn ystod eu prosiect ymchwil gan ddefnyddio dulliau ansoddol a meintiol.

 

Diddordebau Ymchwil

Mae diddordebau ymchwil Nia yn cynnwys archwilio profiadau plentyndod cynnar gan gynnwys cam-driniaeth ac esgeulustod, a sut mae’r rhain yn effeithio ar weithrediad oedolion yn ddiweddarach. Mae prosiectau ymchwil israddedig diweddar wedi archwilio profiadau plentyndod andwyol hunan-gofnodedig yn y boblogaeth myfyrwyr a'u perthynas â lles, pryder, iselder, ymddygiad ymosodol, diffygion gweithredu gweithredol yn ogystal â rhai ffactorau amddiffynnol megis cymorth cymdeithasol.

 

Mae Nia hefyd yn Ymddiriedolwr i’r Children’s Early Intervention Trust sy’n elusen gofrestredig sy’n cynhyrchu cyllid ar gyfer ymchwil i ychwanegu at y sylfaen dystiolaeth ar gyfer ymyrraeth gynnar.

 

Dyletswyddau Gweinyddol

Mae Nia yn dal dwy swydd weinyddol yn yr Ysgol Seicoleg a Gwyddor Chwaraeon gan gynnwys Cyfarwyddwr Astudiaethau Israddedig ar gyfer pob gradd achrededig BPS a Thiwtor Derbyn yr Ysgol ar gyfer y cyrsiau yma.

Manylion Cyswllt

Cyfarwyddwr Astudiaethau Israddedig yr Adran Seicoleg; Ysgol Seicoleg a Gwyddorau Chwaraeon

 

Brignatia

Prifysgol Bangor

Bangor

Gwynedd

Wales

U.K.

LL57 2UW

 

n.griffith@bangor.ac.uk

01248 382543

@niagriffith

Cyhoeddiadau (3)

Gweld y cyfan

Gweld graff cysylltiadau