Addysg: Pecyn Adnoddau Amlgyfrwng Cymdeithaseg

Allbwn ymchwil: Llyfr/AdroddiadLlyfr

Fersiynau electronig

Dolenni

Nod y llyfr hwn yw cynnig dadansoddiad cymdeithasegol o swyddogaeth addysg mewn cymdeithas. Bydd y llyfr hwn yn cychwyn drwy gynnig trosolwg o rôl a swyddogaeth addysg yn y gymdeithas gyfoes, cyn symud ymlaen i drafod patrymau a thueddiadau cyrhaeddiad a chyfranogiad grwpiau gwahanol o fewn cymdeithas. Elfen bwysig o’r llyfr yw trafod ac archwilio rôl addysg yn y gymdeithas a dylanwad anghydraddoldeb cymdeithasol ar gyrhaeddiad addysgol a phrofiadau unigolion.

Bydd y llyfr hefyd yn cyflwyno nifer o bersbectifau cymdeithasegol a’u safbwyntiau allweddol ar addysg. Wrth drafod damcaniaethau cymdeithasegol allweddol, bydd y llyfr hwn yn amlygu’r gwahaniaeth barn sy´n bodoli ynglŷn â’r modd y mae’r system addysg yn cynnal neu’n dadwneud anghydraddoldeb cymdeithasol.


Un o nodau allweddol y llyfr hwn yw trafod datblygiad addysg o fewn cyd-destun Cymreig, gan fanylu ar bolisïau addysg unigryw Cymru yng nghyd-destun y Gymraeg, dwyieithrwydd a datganoli.
Iaith wreiddiolCymraeg
Cyfrol5
ISBN (Electronig)978-1-911528-26-5
StatwsCyhoeddwyd - 24 Maw 2023

Cyfres gyhoeddiadau

EnwPecyn Adnoddau Amlgyfrwng Cymdeithaseg
CyhoeddwrColeg Cymraeg Cenedlaethol
Gweld graff cysylltiadau